Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:29, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

—fel y gellir ei gweinyddu, ac mae hynny'n her i ni. Mae a wnelo hefyd â sut rydym yn symud rhywfaint o'r gwaith.

Felly, rhan o'r her i ni yn y gwasanaeth fferylliaeth ysbyty yw nad oes angen i beth o'r gwaith ddigwydd yn y lleoliad hwnnw o reidrwydd, a bydd hynny'n rhoi mwy o amser iddynt wneud yr hyn y mae gwir angen iddynt ei wneud, yr hyn na all neb ond hwy ei wneud i gleifion mewn ysbytai. Felly, mae'r cysylltiad rhwng gwasanaeth fferylliaeth ysbyty a fferylliaeth gymunedol yn wirioneddol bwysig a chredaf fod mwy o fudd i'w gael os yw fferyllfeydd cymunedol yn ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol yn y dyfodol i'w gwneud yn haws i bobl fynd allan i gynorthwyo pobl i gyflawni eu trefniadau meddyginiaethol eu hunain yn llwyddiannus, yn ogystal â rhoi mwy o amser i'w cydweithwyr yn yr ysbytai wneud eu gwaith yn iawn, yn ychwanegol at staff eraill mewn system ysbyty.