Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 27 Mehefin 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, bydd datblygiad y gwasanaeth hunaniaeth o ran rhywedd ar gyfer Cymru yn ei gwneud yn haws o lawer i bobl drawsryweddol gael mynediad at wasanaethau a chymorth lleol, heb orfod teithio ymhellach i ffwrdd. A allwch chi ddweud ychydig mwy am eich ymrwymiad i sefydlu rhwydwaith o feddygon teulu ag arbenigedd penodol mewn hunaniaeth o ran rhywedd i sicrhau mynediad lleol? Rydych wedi cyffwrdd â hyn yn fras gyda Siân Gwenllian. Yn amlwg, mae'n faes pwysig. A allwch chi ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y byddech yn gweld hwnnw'n gweithredu'n ymarferol?