Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 27 Mehefin 2018.
Gallaf. Rydym eisoes wedi cytuno i roi arian i rywun gael eu cyflogi gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro Bwrdd i ymateb i'r anghenion presgripsiynu uniongyrchol, oherwydd dyna yn aml yw'r wasgfa go iawn, lle nad yw rhai meddygon teulu yn teimlo'n hyderus i bresgripsiynu ar ôl i wasanaeth ysbyty ddechrau triniaeth. Yn y pen draw, dylem gyrraedd pwynt lle mae gennym rwydwaith ehangach, ond y pwynt cyntaf fydd sicrhau bod meddyg teulu cyflogedig, a gyflogir yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, ar gael i lenwi'r bwlch rydym yn cydnabod sy'n bodoli ar hyn o bryd gan ein bod eisiau datblygu'r gwasanaeth ehangach hwnnw, oherwydd, fel y dywedaf, mae hwn yn angen gofal iechyd rheolaidd y dylem allu ei ddiwallu mewn gofal iechyd lleol, ac nid yw'n beth da nad yw ein gwasanaeth wedi gallu gwneud hynny hyd yma.