Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 27 Mehefin 2018.
Yn wir, rwyf wedi cael gohebiaeth ar y mater hwn yn uniongyrchol, ac mae'n rhan o'r hyn y mae'r grŵp gwella iechyd anadlol yn edrych arno, oherwydd, fel y dywedwch, mae anhwylderau cysgu yn bodoli, a'r rhai mwyaf cyffredin rydym yn sôn amdanynt yw narcolepsi ac apnoea cwsg. Ceir rhai eraill, ac maent yn cael effaith go iawn ar allu pobl i fyw eu bywydau bob dydd. Felly, rydym yn edrych ar fwy o'r gwasanaethau sydd, er enghraifft, ar hyn o bryd yn cael eu darparu yn y ganolfan yn Ysbyty Nevill Hall yn Aneurin Bevan, a chawn weld ynglŷn â lledaeniad y gwasanaeth hwnnw a mynediad at y gwasanaeth o rannau eraill o Gymru, yn ogystal â deall beth arall sydd angen i ni ei wneud i leihau peth o'r amrywio rwy'n cydnabod sy'n bodoli hefyd. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'r rhaglen waith o fewn y grŵp iechyd anadlol, ac felly rwy'n disgwyl y byddaf, dros y flwyddyn nesaf, yn gallu disgrifio i chi beth sy'n cael ei gynllunio yn ogystal â'r hyn sy'n cael ei wneud am hynny hefyd.FootnoteLink