Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 27 Mehefin 2018.
Ie, ac rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â Thonyrefail gyda grŵp o godwyr arian cymunedol, ac yn benodol gwaith y ddwy elusen sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, Cariad a Calonnau Cymru, ond yn amlwg mae gan Sefydliad Prydeinig y Galon ddiddordeb mewn sicrhau bod mwy o ddiffibrilwyr ar gael yn hygyrch i'r cyhoedd.
A dyna pam fod y bartneriaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn bwysig, i ddeall lle y maent, fel eu bod ar gael pan fydd rhywun angen un, ond hefyd i ddeall, os oes rhannau o Gymru lle y ceir bwlch yn y ddarpariaeth ac yn yr un modd, o ran adeiladau cyhoeddus, y gallwn fuddsoddi o'r pwrs cyhoeddus i wneud yn siŵr fod yna ddiffibrilwyr ar gael hefyd.
Dylwn wneud pwynt yma oherwydd, mewn trafodaethau diweddar ynglŷn â diffibrilwyr, mae nifer y diffibrilwyr sy'n cael eu fandaleiddio a'u dwyn wedi fy arswydo. Ac mae rhywbeth ynglŷn â chefnogi gwaith pobl sy'n codi arian i'w cael, ac yna eu gweld yn cael eu cynnal hefyd, fel y mae Cariad a Calonnau Cymru yn ei wneud, rwy'n siŵr, ond hefyd ei gwneud yn glir fod dwyn a fandaleiddio offer achub bywyd, fel sy'n digwydd yn llawer rhy aml yn anffodus, yn hollol annerbyniol.