Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 27 Mehefin 2018.
Mae yna sawl datblygiad wedi bod yn fy etholaeth i yn ddiweddar o gyflwyno peiriannu diffibrilio, ac mae'r rheini wedi cael eu croesawu mewn cymunedau ar hyd yr ynys, wrth gwrs, gan eu bod nhw'n cynnig diogelwch mewn achos o anhwylder calon, ac mae yna ymdrechion, wrth gwrs, i gyflwyno rhagor o beiriannau fel hyn. Y diweddaraf ydy'r cais i gael peiriant i gyd-fynd â chyflwyno park run newydd yn Ynys Môn ar gyfer pobl ifanc, yn y gobaith o allu sicrhau'r gefnogaeth diogelwch i redwyr. Yr elusennau, yn aml iawn, sy’n cyfrannu tuag at beiriannau o’r math yma, ond a allwch chi fel Llywodraeth chwilio am ffyrdd newydd i ddarparu cymorth ariannol gan fod hwn yn rhywbeth sy’n cael ei yrru gan gymunedau ac sy’n haeddu cefnogaeth gan y Llywodraeth yn hynny o beth?