Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 27 Mehefin 2018.
Ein blaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru yw helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd lle y bo'n bosibl, gan osgoi'r angen am ofal. Felly, mae rhaglenni fel Dechrau'n Deg a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn darparu cymorth cynnar, cymorth emosiynol a chymorth ymarferol i'r teuluoedd hynny fel y gall pob plentyn yng Nghymru fwynhau'r un cyfleoedd mewn bywyd.