Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:53, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb? Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol i blant a bod y gost a'r angen am wasanaethau plant wedi cynyddu'n sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf, ac yn sicr dros yr 20 mlynedd diwethaf. Hefyd, nid yw gwasanaethau cymdeithasol yn golygu gofal cymdeithasol i'r henoed yn unig, fel sy'n cael ei ystyried yn eithaf aml yn y lle hwn.

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wasanaethau cymdeithasol i blant mewn awdurdodau lleol ledled Cymru?