– Senedd Cymru am 3:00 pm ar 27 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6754 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6753 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 27 Mehefin 2018.
Yn ffurfiol.
Diolch. Simon Thomas.
Yn ffurfiol.
Na, na. Mae angen i chi—. A oeddech chi eisiau siarad?
Nid wyf eisiau siarad, na.
Iawn. Mae'n ddrwg gennyf; mae wedi'i ysgrifennu. Felly, y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, cawn bleidlais ar hyn. Mae'n rhaid i'r bleidlais ddigwydd yn awr, oni bai bod tri Aelod—[Torri ar draws.] Canu'r gloch? Tri Aelod? Mae tri Aelod yn dangos eu bod eisiau canu'r gloch. Diolch. Canwch y gloch, os gwelwch yn dda.
Rydym am symud i bleidlais. Y bleidlais yw atal y Rheolau Sefydlog. Felly, rwyf am alw am bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, roedd 4 yn ymatal, a 9 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.