5. Dadl ar NNDM6753: Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:21, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am ildio. Rydych yn siarad am swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'n eithaf clir, onid yw, mai dyn San Steffan yng Nghymru yw Alun Cairns, nid dyn Cymru yn San Steffan? Mae'n gwbl amlwg, onid yw, fod Alun Cairns yn ailddyfeisio rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel llywodraethwr cyffredinol ar Gymru? Rwy'n gwrthwynebu hynny ar egwyddor, rwy'n gwrthwynebu hynny fel Cymro, a phan fo'n amlwg fod y llywodraethwr cyffredinol hwnnw'n gweithio yn erbyn budd Cymru, onid yw'n ddyletswydd ar bob un ohonom i gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder ynddo?