Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i.
Rwy'n siomedig fod y cynnig hwn wedi'i gyflwyno gan Blaid Cymru heddiw, ac rwy'n drist eu bod yn chwarae gwleidyddiaeth plaid â'r mater penodol hwn. Ni fydd yn syndod i'r Aelodau y bydd fy nghyfraniad yn canolbwyntio ar rai o'r cyfraniadau cadarnhaol y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'u gwneud dros Gymru. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu nad yw'r Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr yn siomedig iawn gyda'r cyhoeddiad diweddar am y morlyn llanw, ac mae fy nghyd-Aelodau wedi ei gwneud yn gwbl glir ein bod yn rhannu'r siom a'r rhwystredigaeth a adleisiwyd gan Aelodau eraill yn y Siambr hon. Yn wir, fel Aelod sy'n cynrychioli ardal lle mae datblygiadau ynni llanw yn gwneud cynnydd sylweddol, rwy'n cydnabod gwerth posibl y morlyn llanw. Fodd bynnag, rwy'n sylweddoli bod gan Weinidogion y Llywodraeth ddyletswydd i sicrhau bod y ffigurau'n gwneud synnwyr a sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr, ac mae'n amlwg eu bod yn teimlo nad oeddent yn gallu gwneud hynny gyda'r prosiect hwn. Yn fy marn i, mae angen inni edrych ar fodel diwygiedig sy'n gwneud y prosiect yn fwy costeffeithiol ac yn fwy deniadol i fuddsoddiad gan y sector preifat.
Fodd bynnag, ni chyflwynwyd y ddadl heddiw er mwyn trafod hynny na goblygiadau'r morlyn llanw i Gymru, ond yn hytrach i drafod swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Felly, mae'n briodol ein bod yn bachu ar y cyfle i fod ychydig yn fwy gwrthrychol, a chydnabod fan lleiaf rai o'r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyfredol. [Torri ar draws.] Gwnaf, mewn munud. Er enghraifft—ac rwyf am roi rhai enghreifftiau i chi—gwyddom fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi chwarae rôl allweddol yn darparu'r fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth Cymru, fframwaith sydd wedi'i groesawu gan bawb yn y Siambr hon. Mae'r fframwaith cyllidol yn darparu trefniant cyllido hirdymor teg i Gymru, gan ystyried y pwerau trethu newydd a ddatganolwyd eleni, ac yn sicr mae'n arwain y ffordd ar gyfer datganoli cyfraddau Cymreig o dreth incwm yn 2019.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dweud yn glir hefyd y bydd y tollau ar bont Hafren yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, ac mae hwnnw hefyd yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Bydd y cyhoeddiad hwn o fudd i ddegau o filiynau o yrwyr bob blwyddyn, yn lleihau'r gost o wneud busnes rhwng Cymru a Lloegr, ac yn darparu hwb gwerth £100 miliwn i economi Cymru. Mae cael gwared ar y rhwystr ariannol hwnnw'n datgan yn glir bod Cymru ar agor ar gyfer busnes ac mae'n ddatganiad symbolaidd fod Llywodraeth y DU a'r Ysgrifennydd Gwladol cyfredol yn chwalu rhwystrau ac yn cefnogi economi Cymru, yn hytrach na chreu rhwystrau. Ildiaf i'r Aelod dros Ynys Môn.