Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Mae'n ddadl yr ydym yn ei chael, wrth gwrs, oherwydd penderfyniad Llywodraeth y DU ddydd Llun i beidio â chefnogi prosiect morlyn llanw Bae Abertawe, prosiect braenaru a fyddai wedi profi hyfywedd cynhyrchiant ynni môr-lynnoedd llanw a gallai fod wedi paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu diwydiant ehangach yng Nghymru, diwydiant, fel y dywedodd Simon Thomas wrth agor, a oedd â photensial i feddu ar arwyddocâd byd-eang.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, mae wedi cymryd bron flwyddyn a hanner i Lywodraeth y DU gyrraedd y penderfyniad hwn. Yn wir, roeddent wedi cael adroddiad eu cynghorydd annibynnol eu hunain a ddaeth i'r casgliad y dylid ei gefnogi ar sail ddi-edifeirwch am chwe mis llawn cyn mynd i mewn i etholiad cyffredinol yn gwneud yr addewidion a nododd Mick Antoniw yn ei ymyriad—chwe mis hir y gallai fod wedi dod i benderfyniad ynglŷn â'r mater. Yn wir, aeth i mewn i etholiad gan wneud addewidion i bobl y rhan honno o dde Cymru a byth ers hynny, yn hytrach na chefnogaeth, rydym wedi gweld hanes digalon o anwadalu, mwydro, oedi, ac amharodrwydd i ymgysylltu hyd yn oed â'r llawer o fuddiannau a oedd eisiau cefnogi'r cynnig o forlyn llanw ar gyfer bae Abertawe.
Fel rydym wedi clywed yn y ddadl, mae hon yn Llywodraeth, wrth gwrs, ag iddi hanes o ddweud 'na' wrth Gymru. Prin fod y llwch wedi setlo ar benderfyniad annoeth Llywodraeth y DU i dorri ei gair ar drydaneiddio'r brif reilffordd yr holl ffordd i Abertawe. Bydd llawer ohonom yma yn cofio addewidion cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ynglŷn â threnau trydan cyflymach yr holl ffordd i Abertawe pan oedd yn eistedd ar un o'r trenau diesel hynny sy'n dal i deithio'n ddyddiol i ac o Paddington. Ac fel y clywsom, ac fel y dywed Simon Thomas, gwyddom yn awr fod Prif Weinidog y DU yn bersonol wedi cymeradwyo'r penderfyniad i ganslo cynlluniau i drydaneiddio'r rhan o'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe. Un mewn cyfres o brosiectau seilwaith mawr eu hangen i gael eu canslo gan y Llywodraeth honno yn y DU oedd trydaneiddio'r brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, diolch i'r Blaid Geidwadol am eu gwelliant. Fe wnaeth godi calon ar ddiwedd prynhawn hir ddoe gyda'i haeriad pwerus fod oes dychan yn dal yn fyw ac yn iach yn y seddi gyferbyn. Ar wahân i agor y môr coch, gwyddom yn awr fod popeth sydd wedi digwydd yng Nghymru o fewn cof yn ganlyniad i ymdrechion Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, wrth edrych yn fanylach, Ddirprwy Lywydd, tybed a all y Swyddfa Gyflwyno ystyried gosod rhybudd iechyd ar welliannau o'r fath yn y dyfodol, rhyw fath o neges 'gwirio yn erbyn realiti', oherwydd wrth i mi ddechrau darllen y rhestr o gyflawniadau arwyddocaol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, deuthum, yn gyntaf oll, at ei rôl yn y cytundeb ar fframwaith cyllidol hanesyddol â Llywodraeth Cymru. Wel, rwy'n cofio hydref 2016 yn iawn, Ddirprwy Lywydd, gan fy mod yn cyfarfod bob mis, a mwy nag unwaith y mis, â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, David Gauke. Rwy'n cofio llofnodi'r fframwaith cyllidol hanesyddol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Nid wyf yn cofio gweld yr Ysgrifennydd Gwladol yn un o'r cyfarfodydd hynny. Gwelais ef mewn sesiwn dynnu lluniau gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ac ni feddyliais y byddai ei ran mewn sesiwn dynnu lluniau yn cyrraedd cynnig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyflawniad hanesyddol. Gallwn fynd drwy weddill y gwelliant—[Torri ar draws.] Mr Ramsay.