Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 27 Mehefin 2018.
Gan fod angen ymyriad, rwy'n siŵr fod yr Ysgrifennydd Gwladol yno o ran ysbryd, Ysgrifennydd y Cabinet—[Torri ar draws.] Ac efallai nad oedd yn y cyfarfodydd penodol hynny, ond wrth gwrs, rôl yr Ysgrifennydd Gwladol yw helpu i gydgysylltu a hwyluso'r mathau hynny o gytundebau, ac yn y pen draw, roedd y fframwaith cyllidol yn rhywbeth y gweithioch chi'n galed iawn arno, rwy'n gwybod, ac rwyf bob amser wedi rhoi clod i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a heb rôl San Steffan, ni fyddai wedi digwydd, na fyddai?