Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 27 Mehefin 2018.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle heddiw i gyflwyno cynnig deddfwriaethol gan Aelod i ddiddymu lesddeiliadaeth ar gyfer tai preswyl newydd. Rydym wedi trafod y mater hwn ar sawl achlysur wrth gwrs. Y tro diwethaf, cynhaliodd y Siambr hon ddadl fanwl, deallus ac angerddol iawn gan Aelodau unigol ar y problemau sy'n deillio o dwf newydd tai lesddaliad a'r canlyniadau cysylltiedig i denantiaid yn sgil y cytundebau lesddaliad roeddent yn ddarostyngedig iddynt. Denodd y cynnig a drafodwyd gennym gefnogaeth drawsbleidiol, ac roedd yn amlwg o gyfraniadau'r Aelodau fod lesddaliad yn broblem ym mhob rhan o Gymru. Ers y ddadl honno, cafwyd datganiad gan y Gweinidog. Nid yw'n diystyru deddfwriaeth, ond mae'n canolbwyntio ar gytundeb gwirfoddol gyda nifer o ddatblygwyr mawr i beidio ag adeiladu tai lesddaliad newydd.
Nawr, rwy'n croesawu'r datganiad hwnnw yn fawr iawn, ond rwy'n dadlau heddiw y dylem fynd ymhellach, a dylem roi'r mater y tu hwnt i unrhyw amheuaeth yn y dyfodol drwy gyflwyno deddfwriaeth fer a syml a fyddai'n gwahardd drwy gyfraith unrhyw dai lesddaliad newydd rhag cael eu hadeiladu yng Nghymru. Felly, er mwyn egluro fy rhesymau, byddai'n ddefnyddiol atgoffa'r Aelodau am y cefndir i'r mater hwn. Ceir tua 200,000 eiddo lesddaliad yng Nghymru. Mae lesddaliad yn grair o'r unfed ganrif ar ddeg, adeg pan oedd tir yn golygu pŵer—ac yn anffodus, mae hynny'n wir o hyd. I dirfeddiannwr heddiw, mae lesddaliad yn golygu sicrhau'r incwm mwyaf posibl a chadw rheolaeth dros y tir y maent yn berchen arno, ond i'r lesddeiliad, mae'n golygu'r gwrthwyneb yn llwyr: costau afreolus a diffyg rheolaeth dros yr hyn y gallant ei wneud gyda'r eiddo y maent yn berchen arno. Felly, pan ddeddfodd Llywodraeth yr Alban i ddileu deiliadaeth ffiwdal, cawsant y cywair yn hollol gywir.
Fel llawer o Aelodau, rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwyr sy'n sôn mai'r achos sylfaenol yw annhegwch cynhenid, cymhlethdod a natur hen ffasiwn contractau prydles, cwynion am renti tir cynyddol, pobl yn teimlo'n gaeth yn eu cartrefi eu hunain, a gwerthoedd eiddo sy'n plymio o un flwyddyn i'r llall wrth i'r brydles sy'n weddill leihau—ac mae'r rheini'n gyffredin. Pan fo lesddeiliaid yn ceisio adnewyddu eu prydles neu brynu rhydd-ddeiliadaeth eu cartref, cânt eu dal yn wystlon. Mae lesddeiliaid yn hollol ddiamddiffyn gerbron landlord y tir. Ac oherwydd proffidioldeb y system lesddeiliadaeth, mae corfforaethau cyllid wedi prynu gan lawer iawn o landlordiaid, ac o ganlyniad, nid craig y mae'n adeiladu ei fywyd arni yw cartref yr unigolyn mwyach, ond nwydd i'w fasnachu a'i hapfasnachu. Felly, i mi, mae'n gwbl synhwyrol fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i gefnogi diwygio'r gyfraith. Mae cymhlethdod cytundebau lesddaliad, gydag elfennau o gyfraith contract a chyfraith eiddo'n cydblethu, yn golygu ei bod yn gwneud synnwyr i aros am gynigion Comisiwn y Gyfraith, yn dilyn cyflwyno deddfwriaeth ledled y DU i ymdrin â'r holl ganlyniadau ôl-weithredol, nad oes gennym ni, beth bynnag, gymhwysedd cyfansoddiadol i ymdrin â hwy ar hyn o bryd.
Felly, mae'r ddadl heddiw yn ymwneud â dau beth. Yn bennaf, mae'n cynnig cyflwyno darn syml o ddeddfwriaeth Gymreig i roi terfyn ar adeiladu tai lesddaliad yn y dyfodol. Nid yw'n berthnasol ar gyfer fflatiau neu adeiladau a rennir, dim ond tai preswyl newydd. Yn ail, mae'r cynnig hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ac asiantau gwerthu i ddarparu gwybodaeth berthnasol am lesddeiliadaeth i ddarpar brynwyr eiddo lesddaliad sy'n bodoli eisoes. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.