– Senedd Cymru am 4:03 pm ar 27 Mehefin 2018.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: tai lesddaliad preswyl. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y cynnig. Mick Antoniw.
Cynnig NDM6671 Mick Antoniw
Cefnogwyd gan Jane Hutt, Jenny Rathbone, Mike Hedges, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i:
a) rhoi terfyn ar adeiladu tai lesddaliad preswyl yng Nghymru; a
b) gwella ymwybyddiaeth defnyddwyr o oblygiadau deiliadaeth lesddaliad.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i wrthod pob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau tai lesddaliad preswyl; a
b) gosod dyletswydd ar asiantwyr gwerthu a rheoli i ddarparu gwybodaeth am oblygiadau cytundebau lesddaliad i ddarpar brynwyr eiddo lesddaliad sy'n bodoli eisoes.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle heddiw i gyflwyno cynnig deddfwriaethol gan Aelod i ddiddymu lesddeiliadaeth ar gyfer tai preswyl newydd. Rydym wedi trafod y mater hwn ar sawl achlysur wrth gwrs. Y tro diwethaf, cynhaliodd y Siambr hon ddadl fanwl, deallus ac angerddol iawn gan Aelodau unigol ar y problemau sy'n deillio o dwf newydd tai lesddaliad a'r canlyniadau cysylltiedig i denantiaid yn sgil y cytundebau lesddaliad roeddent yn ddarostyngedig iddynt. Denodd y cynnig a drafodwyd gennym gefnogaeth drawsbleidiol, ac roedd yn amlwg o gyfraniadau'r Aelodau fod lesddaliad yn broblem ym mhob rhan o Gymru. Ers y ddadl honno, cafwyd datganiad gan y Gweinidog. Nid yw'n diystyru deddfwriaeth, ond mae'n canolbwyntio ar gytundeb gwirfoddol gyda nifer o ddatblygwyr mawr i beidio ag adeiladu tai lesddaliad newydd.
Nawr, rwy'n croesawu'r datganiad hwnnw yn fawr iawn, ond rwy'n dadlau heddiw y dylem fynd ymhellach, a dylem roi'r mater y tu hwnt i unrhyw amheuaeth yn y dyfodol drwy gyflwyno deddfwriaeth fer a syml a fyddai'n gwahardd drwy gyfraith unrhyw dai lesddaliad newydd rhag cael eu hadeiladu yng Nghymru. Felly, er mwyn egluro fy rhesymau, byddai'n ddefnyddiol atgoffa'r Aelodau am y cefndir i'r mater hwn. Ceir tua 200,000 eiddo lesddaliad yng Nghymru. Mae lesddaliad yn grair o'r unfed ganrif ar ddeg, adeg pan oedd tir yn golygu pŵer—ac yn anffodus, mae hynny'n wir o hyd. I dirfeddiannwr heddiw, mae lesddaliad yn golygu sicrhau'r incwm mwyaf posibl a chadw rheolaeth dros y tir y maent yn berchen arno, ond i'r lesddeiliad, mae'n golygu'r gwrthwyneb yn llwyr: costau afreolus a diffyg rheolaeth dros yr hyn y gallant ei wneud gyda'r eiddo y maent yn berchen arno. Felly, pan ddeddfodd Llywodraeth yr Alban i ddileu deiliadaeth ffiwdal, cawsant y cywair yn hollol gywir.
Fel llawer o Aelodau, rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwyr sy'n sôn mai'r achos sylfaenol yw annhegwch cynhenid, cymhlethdod a natur hen ffasiwn contractau prydles, cwynion am renti tir cynyddol, pobl yn teimlo'n gaeth yn eu cartrefi eu hunain, a gwerthoedd eiddo sy'n plymio o un flwyddyn i'r llall wrth i'r brydles sy'n weddill leihau—ac mae'r rheini'n gyffredin. Pan fo lesddeiliaid yn ceisio adnewyddu eu prydles neu brynu rhydd-ddeiliadaeth eu cartref, cânt eu dal yn wystlon. Mae lesddeiliaid yn hollol ddiamddiffyn gerbron landlord y tir. Ac oherwydd proffidioldeb y system lesddeiliadaeth, mae corfforaethau cyllid wedi prynu gan lawer iawn o landlordiaid, ac o ganlyniad, nid craig y mae'n adeiladu ei fywyd arni yw cartref yr unigolyn mwyach, ond nwydd i'w fasnachu a'i hapfasnachu. Felly, i mi, mae'n gwbl synhwyrol fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i gefnogi diwygio'r gyfraith. Mae cymhlethdod cytundebau lesddaliad, gydag elfennau o gyfraith contract a chyfraith eiddo'n cydblethu, yn golygu ei bod yn gwneud synnwyr i aros am gynigion Comisiwn y Gyfraith, yn dilyn cyflwyno deddfwriaeth ledled y DU i ymdrin â'r holl ganlyniadau ôl-weithredol, nad oes gennym ni, beth bynnag, gymhwysedd cyfansoddiadol i ymdrin â hwy ar hyn o bryd.
Felly, mae'r ddadl heddiw yn ymwneud â dau beth. Yn bennaf, mae'n cynnig cyflwyno darn syml o ddeddfwriaeth Gymreig i roi terfyn ar adeiladu tai lesddaliad yn y dyfodol. Nid yw'n berthnasol ar gyfer fflatiau neu adeiladau a rennir, dim ond tai preswyl newydd. Yn ail, mae'r cynnig hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ac asiantau gwerthu i ddarparu gwybodaeth berthnasol am lesddeiliadaeth i ddarpar brynwyr eiddo lesddaliad sy'n bodoli eisoes. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.
Dim ond er eglurder: fe ddywedoch na fyddai'n berthnasol ar gyfer adeiladau a rennir, ond byddai'n berthnasol i dai preswyl. Sut y byddech yn mynd i'r afael â rhydd-ddeiliadaethau sy'n crogi dros neu islaw rhan o eiddo lesddaliad?
Sut y buaswn yn mynd i'r afael â—?
Rhydd-ddeiliadaeth sy'n crogi dros neu islaw eiddo lesddaliad, lle mae gennych bobl wahanol yn byw yn eu cartrefi eu hunain, ond o fewn adeiladau sy'n gorgyffwrdd ag adeiladau eraill. Felly, mae rhydd-ddeiliadaethau'n peryglu eu gallu i fynd i'r afael â gwaith atgyweirio.
Credaf y byddai unrhyw eiddo sy'n cynnwys rhan-berchenogaeth partïon gwahanol ar y rhydd-ddaliad yn cael eu heithrio. Mae hyn yn ymwneud yn unig â pherchnogaeth unigol ar dai newydd.
Mae pawb ohonom yn gwybod mai prynu eiddo yw'r penderfyniad ariannol mwyaf arwyddocaol y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei wneud, felly mae'n hanfodol fod darpar brynwyr yn deall goblygiadau a chanlyniadau llawn prynu eiddo lesddaliad. Felly, ym mis Ebrill y llynedd, galwodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio lesddeiliadaeth am roi terfyn ar dai lesddaliad, a diwedd ar renti tir beichus. Ac yna, mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, becyn o fesurau i gyfyngu ar arferion lesddaliad annheg yn Lloegr, gan gynnwys deddfwriaeth yn gwahardd lesddaliadau newydd. Dywedodd:
Mae'n glir fod llawer gormod o dai newydd yn cael eu hadeiladu a'u gwerthu fel lesddaliadau, gan gamfanteisio ar brynwyr tai â chytundebau annheg a rhenti tir cynyddol. Digon yw digon. Mae'r arferion hyn yn annheg, yn ddiangen ac mae angen rhoi'r gorau iddynt.
Felly, mae'r rhain yn eiriau calonogol. Ym maniffesto Llafur Cymru yn 2017, gwnaethom ein safbwynt ninnau'n glir hefyd y byddwn yn cefnogi'r rhai sy'n berchen ar eu cartrefi, gan gynnwys lesddeiliaid sydd ar hyn o bryd heb amddiffyniad rhag cynnydd mewn rhenti tir:
'Bydd Llywodraeth Lafur yn rhoi sicrwydd i lesddeiliaid rhag rhenti tir twyllodrus ac yn rhoi terfyn ar y defnydd arferol o dai lesddaliadol mewn datblygiadau newydd.'
Yn 2016, trafodion lesddaliadol oedd 22 y cant o drafodion eiddo a adeiladwyd o'r newydd. Wrth ymateb unwaith eto mewn dadl yn San Steffan, nododd y Gweinidog tai ar y pryd fod pa un a fydd Cymru'n diddymu lesddeiliadaeth yn fater sydd wedi'i ddatganoli.
Felly, mae'r pŵer yn ein dwylo ni. Mae gennym ymrwymiad maniffesto Llafur i ddeddfu, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru, mae gennym gefnogaeth drawsbleidiol gyffredinol i ddiddymu, ac er na allwn atal pob stori arswyd lesddaliadol y bu'n rhaid i'n hetholwyr ei dioddef, mae gennym gymhwysedd o leiaf i atal y broblem rhag tyfu'n fwy. Mae gennym allu i roi terfyn unwaith ac am byth ar unrhyw ansicrwydd yn y dyfodol ynglŷn â thai lesddaliad. Gallwn anfon neges glir at yr holl ddatblygwyr a thirfeddianwyr yn awr ac yn y dyfodol nad yw lesddeiliadaeth yn opsiwn tai derbyniol yng Nghymru mwyach. Gallwn arwain y ffordd ar y mater hwn, ac anfon neges at weddill y DU—at ddatblygwyr eiddo, at dirfeddianwyr, at yr holl gwmnïau o dramor sy'n ystyried buddsoddi mewn eiddo yng Nghymru ac yn y DU—fod lesddaliad ar dai yn grair o'r gorffennol, a thrwy basio darn syml o ddeddfwriaeth, gallwn ei wneud yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol.
Diolch. A gaf fi atgoffa'r holl siaradwyr yn awr mai dadl cynnig deddfwriaethol yw hi? Felly, y terfyn amser ar gyfer siaradwyr yw tri munud. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn. Mae 57 y cant o lesddeiliaid yn difaru eu bod nhw wedi prynu eiddo lesddaliad, ac mae hwn yn ffigwr llawer rhy uchel ac yn annerbyniol, wrth gwrs. Mae’r materion o bryder yn cynnwys y cymalau rhent tir beichus sy’n prysur droi o fod yn fforddadwy i fod yn anfforddadwy, ac yn gallu ei gwneud hi’n anodd iawn i werthu’r eiddo, ac mi all taliadau eraill am ganiatâd i addasu’r eiddo, a hyd yn oed caniatâd i werthu’r eiddo, ychwanegu at gostau parhaus.
O gofio cymhlethdod y system lesddaliad, ac yn wir prydlesi unigol, fe fydd llawer o lesddeiliaid wedi dibynnu’n llwyr ar eu cynghorydd cyfreithiol i dynnu sylw at unrhyw bryderon cyn prynu’r eiddo, ac mae’n gwbl bosib nad oedd rhai lesddeiliaid—o bosib llawer iawn ohonyn nhw—ddim yn sylweddoli beth yr oedden nhw’n cytuno i’w wneud, beth yn union yr oedden nhw yn ei arwyddo. Felly, mae’r bwriad yn y Bil i osod dyletswydd ar asiantwyr gwerthu a rheoli i ddarparu gwybodaeth am oblygiadau lesddaliad yn un gwerthfawr iawn ac yn un rydw i’n cytuno’n llwyr efo fo.
Mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad wedi gwneud dadansoddiad o ddata trafodiadau y Gofrestrfa Tir, ac wedi nodi bod gan Gymru ardaloedd lle mae yna lawer o dai newydd yn cael eu gwerthu ar lesddaliad. Mae llawer o’r ardaloedd hyn yn y gogledd, efo Aberconwy, gorllewin Clwyd, Wrecsam a Delyn ar frig y tabl o ran nifer y tai newydd yn cael eu gwerthu ar lesddaliad. Mi fyddai’r Bil newydd, wrth gwrs, yn golygu y byddai ceisiadau cynllunio ar gyfer tai newydd lesddaliad yn cael eu gwrthod, ac y mae hynny hefyd yn rhywbeth rydw i yn gefnogol iddo fo.
Gall fod amgylchiadau eithriadol, wrth gwrs. Nid ydw i’n gallu meddwl am unrhyw amgylchiadau efallai lle dylid caniatáu tai newydd lesddaliad, ond mae hynny’n rhywbeth y dylid meddwl amdano fo wrth i’r Bil gael ei graffu arno, rhag ofn bod yna unrhyw fath o rwystr yn dod yn sgil hynny. Efo’r gair yna o rybudd, rydw i'n eich llongyfarch chi am ddod â’r mater yma gerbron, ac yn edrych ymlaen yn sicr i weld y Bil yn mynd trwyddo. Diolch.
Roeddwn innau hefyd eisiau sôn am rai enghreifftiau o'r anawsterau sy'n wynebu perchnogion tai yng Nghymru, oherwydd yn fy etholaeth i, Dwyrain Casnewydd, cyfarfûm yn ddiweddar â dirprwyaeth o gwmni datblygu tai o fri sy'n adeiladu ar lan yr afon lle y ceir 81 lesddeiliad a welodd, yn fuan ar ôl prynu, y byddai eu rhenti tir yn dyblu bob 10 mlynedd, ac ni chafodd hynny ei ddwyn i'w sylw wrth iddynt brynu'r lesddaliadau, a bydd y rhydd-ddaliad wedyn yn cael ei werthu ymlaen i gwmni gwahanol i'r datblygwr. Ni ddaethant yn ymwybodol o faint y problemau'n llawn, a chymaint oedd y sgandal a oedd ynghlwm wrth y materion hyn fel eu bod wedi dod i sylw cenedlaethol yn y DU, mewn gwirionedd, pan roddodd Llywodraeth y DU gamau ar waith i fynd i'r afael â hwy. Cyflwynodd y datblygwr gynllun gwirfoddol wedyn i fynd i'r afael â rhent tir fel na fydd yn dyblu bob 10 mlynedd, ond yn hytrach yn codi'n unol â'r mynegai prisiau manwerthu, ond nid yw hynny'n berthnasol i'r rheini a brynodd gan y cwmni y gwerthwyd y rhydd-ddaliadau ymlaen iddynt. Felly, mae yna bellach lesddeiliaid a fydd yn gweld eu rhent tir yn dyblu bob 10 mlynedd, ac eraill y bydd eu rhent tir yn codi'n unol â'r mynegai prisiau manwerthu. Maent yn teimlo'n gryf iawn, bob un ohonynt, ni waeth beth yw eu sefyllfa, fod angen mynd i'r afael â'r arferion amheus hyn a'u hatal rhag digwydd yn y dyfodol. Mae'n gwestiwn, wrth gwrs, beth y gellir ei atal, ond hefyd beth y gellir ei wneud ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn y sefyllfa honno, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn yn gyffredinol er mwyn datblygu diwygiadau angenrheidiol, a fydd yn berthnasol i'n hamgylchiadau penodol yng Nghymru, gobeithio, yn ogystal ag yn Lloegr. Credaf felly ei bod hi'n wirioneddol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i edrych ar y materion hyn mewn cydweithrediad agos â Llywodraeth y DU, ond hefyd ein bod yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn gan Aelod, a fydd yn ymdrin yn eglur ag un agwedd ar y problemau ar gyfer y dyfodol.
Diolch i Mick Antoniw am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym yn trafod llawer o feysydd tebyg i'r hyn a drafodwyd yn y ddadl gan Aelod unigol y cymerodd Mick ran ynddi hefyd, gyda phobl eraill, felly nid wyf am ailadrodd popeth a ddywedais bryd hynny—mae'r rhan fwyaf o'r pwyntiau yn dal yn ddilys. Yn UKIP rydym yn cytuno'n fras â'r egwyddor o gyfyngu'n ddifrifol ar lesddeiliadaeth ar gyfer tai a adeiladir o'r newydd yn y dyfodol, sef yr hyn y mae Mick yn ceisio ei gyflawni, ac mae'n broblem go iawn. Diwygiwyd lesddaliadau yng Nghymru yn ystod y 1950au, ond rydym yn gwybod bod lesddaliadau'n sleifio'n ôl. Dyfynnodd Mick y ffigur o 200,000 o gartrefi lesddaliad yng Nghymru, felly rydym yn cytuno ei bod yn broblem a byddai'n dda pe gallem ymdrin â hi mewn ffordd ystyrlon. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried hyn a bod rhai camau yn yr arfaeth, felly bydd yn ddiddorol clywed beth sydd ganddynt i'w ddweud heddiw.
I ddychwelyd at ystyriaethau perthnasol sy'n deillio o'r broblem hon, soniodd John Griffiths am renti tir yn codi. Mae yna broblem hefyd gyda'r gwahaniaeth sylweddol mewn prisiadau tai pan fyddant yn mynd ar y farchnad, os oes gwahaniaethau rhwng rhywun sy'n berchen ar rydd-ddaliad a rhywun arall drws nesaf sy'n berchen ar lesddaliad. I ddangos hynny, mae gennyf etholwr yng Nghwm Cynon a werthodd ei thŷ yn y pen draw am £110,000 am mai lesddeiliad yn unig oedd hi, er bod eiddo arall yn yr un stryd yn mynd am £140,000, sy'n golled sylweddol. Nid oedd yr unigolyn yn sylweddoli pan brynodd ei heiddo beth oedd lesddaliad hyd yn oed, felly mae hynny'n ein harwain at fater cysylltiedig addysg ariannol a helpu i sicrhau bod pobl yn gwybod beth y maent yn ymrwymo iddo pan fyddant yn cael cytundeb morgais yn y lle cyntaf.
I gloi, rydym yn cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i'r cynnig hwn, ac rydym yn hapus i'w gefnogi heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch o gefnogi cynnig deddfwriaethol Mick Antoniw. Mae'n ymdrin â mater y siaredais amdano yn y ddadl gan Aelod unigol, ac mae'n effeithio ar fy etholwyr ym Mro Morgannwg, gyda 3,500 o dai newydd yn y Quays yn ardal y glannau yn y Barri a adeiladwyd gan gonsortiwm Taylor Wimpey, Barratt a Persimmon. Ar y pryd, tynnais sylw at y ffaith bod cynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru wedi cefnogi canran fawr o brynwyr newydd yn y lleoliad hynod ddymunol hwn, sy'n cysylltu'r dref ag Ynys y Barri drwy ffordd newydd—datblygiad pwysig ar gyfer tref y Barri. Ond lleisiwyd pryderon ynghylch y defnydd o lesddaliad gan y datblygwyr, a chrybwyllais y pryderon wrth y Gweinidog yn gynharach eleni. Gwneuthum y pwynt ym mis Ionawr ein bod yn sybsideiddio cefnogaeth i berchenogion tai drwy Cymorth i Brynu gydag arian cyhoeddus, ac felly'n ymyrryd yn y farchnad dai er budd datblygwyr ac yn wir, er budd prynwyr tai. Ond gallent fod dan anfantais yn y tymor byr a'r tymor hir oherwydd trefniadau lesddaliadol a orfodwyd arnynt yn y datblygiadau newydd, felly roeddwn yn falch iawn o gydnabod cyhoeddiad y Gweinidog ar 6 Mawrth. Mae'r pecyn hwnnw o fesurau, a lansiwyd ganddi yn y Barri, ar ymweliad â'r Quays, lle y cyfarfu â'r datblygwyr—ar gyfer tai a fflatiau sydd â hawl i gael cymorth o dan Cymorth i Brynu, ac fe gynhwysodd y pecyn newydd hwn, gan gynnwys meini prawf newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwr gyflwyno rheswm dilys dros farchnata tŷ fel lesddaliad yn ogystal â nifer o fesurau pwysig.
Gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y datblygiadau, oherwydd o ran gwaith gyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, maent yn gweithio ar ddewisiadau amgen yn lle lesddaliadau, megis cyfunddaliadau, gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hawl i reoli. Ond clywsom dystiolaeth gref heddiw eto am fethiannau, am gwmnïau rheoli sy'n gwneud elw yn gadael trigolion yn agored i niwed ac i fyw mewn amgylchiadau annerbyniol. Felly, er y bydd angen diwygio lesddeiliadaeth, yn enwedig mewn perthynas â fflatiau a chartrefi mewn eiddo a rennir, rwy'n cefnogi Mick Antoniw yn ei alwad am ateb deddfwriaethol a wnaed yng Nghymru. Mae gennym bwerau i wahardd tai newydd rhag cael eu datblygu fel lesddaliadau. Gallai Cymru arwain y ffordd.
A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau, fel yr Aelodau eraill sydd wedi siarad y prynhawn yma, drwy ddiolch i Mick Antoniw am gyflwyno'r cynnig hwn? Credaf fod pawb ohonom sydd wedi gwrando ar y ddadl fer hon heddiw wedi ein calonogi gan lefel y cytundeb ar bob ochr i'r Siambr. Gwn fod pob Aelod wedi siarad o brofiad personol a phrofiad etholaeth ar y materion hyn, a phe bawn i'n sefyll yma fel Aelod dros Flaenau Gwent, buaswn innau hefyd yn ymuno yn llawer o'r sgyrsiau hynny. Credaf ei bod yn glir iawn nid yn unig fod yna safbwyntiau cryfion ar draws y Siambr, ond bod cytundeb cryf ar draws y Siambr yn ogystal, fel y nodais.
Gwnaeth disgrifiad Mick Antoniw o lesddaliad fel crair ffiwdal sy'n perthyn i'r gorffennol gryn argraff arnaf, ac mae'n rhywbeth y mae gennyf gydymdeimlad mawr ag ef, rhaid imi ddweud. Nid wyf yn anghytuno â'r Aelod dros Bontypridd ar y materion hyn. A gwn ei fod wedi trafod gyda'r Gweinidog ar nifer o achlysuron fod y rhain yn broblemau go iawn i filoedd lawer o bobl.
Ond rydym hefyd yn gwybod bod lesddaliad yn ddeiliadaeth sy'n berthnasol i raddau lle y ceir safleoedd sy'n cynnwys mannau a chyfleusterau cymunedol, a gwn y bydd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn cydnabod hynny unwaith eto y prynhawn yma. Ond rhaid inni gytuno hefyd ei bod yn ymddangos nad oes fawr o gyfiawnhad dros gynnig tai a adeiladwyd o'r newydd fel lesddaliadau. Mae hi hefyd yn glir iawn nad oedd llawer o bobl sydd wedi prynu eiddo lesddaliad yn llwyr ymwybodol o'r hyn y mae lesddaliad yn ei olygu mewn gwirionedd a beth yw eu hawliau a'u rhwymedigaethau o ganlyniad i'r math hwnnw o berthynas gytundebol. Gall gwasanaeth cynghori ar lesddaliadau a ariennir gan y Llywodraeth helpu, ac mae wedi cael dros 30,000 o ymweliadau â'i wefan gan gleientiaid yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym eisoes wedi gweithredu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Fro Morgannwg am gydnabod hynny ac mae'r Gweinidog eisoes wedi rhoi nifer o fesurau ar waith. Disgrifiwyd y cyhoeddiad a wnaed ym mis Mawrth eisoes, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cydnabod bod y Llywodraeth yn mynd ati i weithredu'r camau y gallwn eu rhoi ar waith.
Rydym wedi cael gwared ar gymorth drwy Cymorth i Brynu—Cymru ar gyfer tai lesddaliad newydd ac rydym hefyd yn sicrhau bod ymrwymiad gan y pum prif ddatblygwr yng Nghymru na fyddant yn cynnig tai a adeiladwyd o'r newydd i'w gwerthu fel lesddaliadau, heblaw lle y ceir ychydig o eithriadau angenrheidiol. Er mwyn sicrhau bod yr eiddo a gynigir yn gyfreithlon drwy Cymorth i Brynu—Cymru ar sail lesddaliad yn cynnig bargen deg, mae gofyniad newydd ar gyfer hyd lesddaliad a chyfyngiadau i rent tir yn gymwys bellach ar gyfer eiddo a brynir drwy'r cynllun. Gall unrhyw un sy'n prynu cartref ddewis defnyddio trosgludiaethwr Cymorth i Brynu—Cymru achrededig a chael sicrwydd eu bod wedi'u hyfforddi i ddarparu'r cyngor y mae prynwyr ei eisiau a'i angen.
Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn faes hynod o gymhleth o'r gyfraith a dyma pam y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi prosiect Comisiwn y Gyfraith i symleiddio a gwella'r dull o ryddfreinio lesddaliad ac ailfywiogi cyfunddaliadau fel dewis amgen yn lle lesddaliad. Gan fod y materion hyn yn galw am ystyriaeth ofalus, gobeithiaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod bod Comisiwn y Gyfraith mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain y gwaith. Yn ogystal â'r mesurau hyn, rydym hefyd yn dwyn grŵp amlddisgyblaethol ynghyd i roi cyngor ar gamau anneddfwriaethol pellach, gan gynnwys cod ymarfer i godi safonau a phroffesiynoli rheoli eiddo. Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y materion hyn yn yr wythnosau nesaf. Mae'r Gweinidog hefyd wedi gofyn am wneud ymchwil i ganfod cwmpas a maint y problemau sy'n gysylltiedig â lesddaliadau yng Nghymru fel y byddwn mewn gwell sefyllfa i gymryd y camau cywir i fynd i'r afael â'r problemau go iawn y mae pobl yn eu dioddef. A gadewch imi ddweud hyn a bod yn gwbl glir: mae'r Llywodraeth yn gwbl glir fod yr anawsterau hyn yn bodoli ac rydym yn cydnabod grym y ddadl a wnaed y prynhawn yma.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu gwaith Mick Antoniw ar gadw'r mater pwysig hwn yn uchel ar yr agenda wleidyddol, a hoffwn ei sicrhau'n bendant nad yw'r Llywodraeth wedi diystyru deddfwriaeth yn y maes hwn yn y dyfodol. Mae'r Gweinidog cynllunio, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, yn ei lle ac mae hithau hefyd wedi gwrando ar y ddadl hon y prynhawn yma, ac mae'n deall ac yn cydnabod y problemau gyda'r system gynllunio a'r strwythurau cynllunio y mae eich deddfwriaeth yn ceisio mynd i'r afael â hwy.
Heb gynnig manwl, ni allwn ymrwymo'r Llywodraeth y prynhawn yma i gynnig sydd wedi'i gyflwyno yma, felly byddaf yn gofyn i Weinidogion ymatal ar hyn, ond wrth wneud hynny, hoffwn gofnodi ymrwymiad clir iawn hefyd, Ddirprwy Lywydd, y byddwn yn parhau i gael sgwrs gyda'r Aelod dros Bontypridd ac Aelodau eraill sydd wedi codi materion y prynhawn yma i wneud yn siŵr ein bod mewn sefyllfa i sicrhau bod gennym strwythurau ar waith—rhai deddfwriaethol os bydd angen, rhai anneddfwriaethol yn bendant—i sicrhau bod amddiffyniadau ar waith ar gyfer pobl sy'n chwilio am gartref.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Mick Antoniw i ymateb i'r ddadl?
A gaf fi yn gyntaf ddiolch i'r rhai a siaradodd yn y ddadl a'r rhestr anochel sydd gennym o straeon arswyd am y system bresennol? A gaf fi hefyd ddiolch yn fawr iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymrwymiad a wnaeth, a chredaf ei fod wedi symud ymhellach ymlaen i o leiaf ddechrau edrych ar realiti posibl deddfwriaeth? Roeddwn yn cytuno'n fawr â llawer o'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n ymwneud â mater Comisiwn y Gyfraith a'r holl faterion ôl-weithredol. Y pwynt am yr argymhelliad penodol hwn mewn perthynas â deddfwriaeth yw ei fod yn dweud y gallwn gyfleu neges glir egwyddorol, a hefyd, gallwn glirio'r byrddau, gallwn ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ar gyfer creu darn syml iawn o ddeddfwriaeth, gyda ffocws clir iawn, sy'n dweud yn y bôn, 'Digon yw digon—ni fydd rhagor o lesddaliadau mewn perthynas â pherchnogaeth ar dai a adeiladir o'r newydd.'
Y rheswm pam y dylem ddefnyddio'r pŵer hwnnw—fe fyddaf yn blwmp ac yn blaen am y peth—yw nad yw'r ymrwymiadau sydd gennym gan y sefydliadau adeiladu tai yn werth y papur y maent wedi eu hysgrifennu arnynt i fod yn onest. Ymhen pedair neu bum mlynedd, os gellir cynyddu anghenion proffidioldeb y cwmnïau hynny drwy gael lesddeiliadaeth, dyna fydd yn digwydd. Cwmnïau yw'r rhain. Rydym yn byw mewn cymdeithas gyfalafol, yn anffodus. Rydym yn byw mewn cymdeithas gyfalafol a diben y cwmnïau hyn yw gwneud cymaint â phosib o elw. Felly, mae angen inni sicrhau bod y materion hyn—boed yn fancio tir, crynhoi tir, uwchgynllunio, fel y mae'r cwmnïau hyn yn ei wneud, dros 10, 20, 30 mlynedd ymlaen llaw—rydym yn dileu, rydym yn diddymu'r posibilrwydd o lesddaliadau pellach yn dod yn ôl i aflonyddu arnom yn y dyfodol. Mae'n rhoi eglurder egwyddorol llwyr inni ac mae'n enghraifft o lle y gallwn ddefnyddio ein pwerau er budd ein pobl ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Onid dyna oedd diben Deddf cenedlaethau'r dyfodol? Mae'n ymwneud â chymryd camau, mae'n ymwneud â gwneud pethau sy'n diogelu cenedlaethau'r dyfodol mewn gwirionedd. A byddai darn byr, syml o ddeddfwriaeth fel hyn yn cyfrannu'n sylweddol at sefydlu'r egwyddor honno a'r eglurder hwnnw a byddai'n dangos bod gan y Cynulliad hwn bwerau a'i fod yn defnyddio'i bwerau er budd pobl Cymru.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.