Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 27 Mehefin 2018.
Mae'r ail ddeiseb i'r Cynulliad, P-04-575, yn galw am alw i mewn pob cais cynllunio cloddio glo brig i'w penderfynu gan Lywodraeth Cymru. Fe'i cyflwynwyd gan Grŵp Gweithredu United Valleys, dan arweiniad Terry Evans, a chasglwyd 180 o lofnodion. Hoffai'r Pwyllgor Deisebau gydnabod y modd cydwybodol, penderfynol ac amyneddgar y mae'r ddwy set o ddeisebwyr wedi ymwneud â'r Cynulliad yn ystod y cyfnod y bu'r deisebau hyn dan ystyriaeth.
Gosodwyd ein hadroddiad ar y deisebau hyn yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill. Mae'r adroddiad yn cynnwys trosolwg o'r dystiolaeth a gawsom yn ystod ein hystyriaeth o'r materion hyn, yn y pedwerydd a'r pumed Cynulliad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y dystiolaeth a gawsom, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, hefyd ar gael i'r cyhoedd drwy wefan y Cynulliad.
Fe siaradaf am beth o'r dystiolaeth yn ystod gweddill y cyfraniad hwn. Mae canllawiau MTAN yn cwmpasu amrywiaeth eang o faterion sy'n ymwneud â datblygiadau glo, gan gynnwys dewis safleoedd, diogelu'r amgylchedd a lleihau effaith cloddio glo ar gymunedau lleol. Dylid ei ystyried mewn penderfyniadau cynllunio, fel polisïau a chanllawiau cynllunio eraill, ond ni cheir gofyniad statudol penodol i'w ddilyn.
Mae deiseb Dr Cox yn galw am roi'r MTAN ar sail statudol a gorfodol mewn cyfraith gynllunio. Cafodd y ddeiseb ei hysgogi gan y broses gynllunio a ddilynodd gais am waith glo brig yn y Farteg yn Nhorfaen. Gwn ei fod yn fater a godwyd yn y Siambr hon ar nifer o achlysuron blaenorol, yn arbennig gan Lynne Neagle, ac rydym yn cydnabod ei chyfraniad sylweddol i'r trafodaethau ynghylch MTAN.
Roedd y cais hwn yn mynd yn groes i agweddau ar y canllawiau MTAN, gan gynnwys mewn perthynas â'r glustogfa o amgylch y gwaith arfaethedig. Gwrthodwyd y cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ond daeth yn destun apêl gan y datblygwr yn dilyn hynny. Barn Dr Cox oedd bod yr arolygydd cynllunio wedi anwybyddu'r canllawiau MTAN yn ystod y gwrandawiadau ac wrth wneud y penderfyniad i gymeradwyo'r cais. Y canlyniad oedd honiad y ddeiseb y dylid cryfhau'r canllawiau drwy eu rhoi ar sail statudol.
Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod angen i bolisïau cynllunio fod yn hyblyg mewn modd na fyddai'n bosibl pe baent yn gyfraith. Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan ei barn y dylid ystyried polisi cynllunio ar bob cam yn ystod y broses gynllunio. Mae'r pwyllgor yn cytuno â hyn. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi lleisio pryderon ynghylch graddau'r oruchwyliaeth o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio ei hun, a pha un a ddylid cynnal archwiliadau ar y penderfyniadau a wneir gan arolygwyr. Credwn fod hyn yn hynod bwysig ar gyfer sicrhau dull sylfaenol gyson o weithredu, yn enwedig mewn perthynas ag apeliadau.
Roedd y ddeiseb gan Grŵp Gweithredu United Valleys yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru alw i mewn pob cais cynllunio cloddio glo brig dros faint penodol. Byddai hyn yn ffordd o sicrhau'r cysondeb hwnnw o bosibl. Mae'r deisebwyr wedi dadlau bod goblygiadau'r datblygiadau hyn yn bellgyrhaeddol a hirsefydlog, gydag effeithiau y tu hwnt i'r ardal leol. Felly, maent yn teimlo y dylid ystyried ceisiadau o'r fath ar sail genedlaethol.
Mae'r pwyllgor yn nodi bod y broses galw i mewn yn ymwneud â'r cwestiwn ynglŷn â phwy ddylai wneud penderfyniad cynllunio, yn hytrach na rhinweddau, neu fel arall, unrhyw gais penodol. Gall y seiliau ar gyfer galw i mewn gynnwys achosion lle y gallai cais gael effaith y tu hwnt i'r ardal gyfagos; mae'n debygol o effeithio'n sylweddol ar ardaloedd tirwedd neu natur; neu mae'n groes i bolisïau cynllunio cenedlaethol. Dadl y deisebydd yw bod y meini prawf hyn oll yn berthnasol i geisiadau ar gyfer datblygiadau glo brig. Ar ben hynny, maent wedi mynegi pryderon ynglŷn ag i ba raddau y ceir arbenigedd a gwybodaeth dechnegol mewn awdurdodau cynllunio lleol i ymdrin yn effeithiol â cheisiadau cynllunio o'r math hwn. Fodd bynnag, mae Gweinidogion o'r farn y dylid defnyddio'r pŵer i alw ceisiadau i mewn yn ddetholus. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod polisi hollgynhwysol ar gyfer galw i mewn pob cais cynllunio o'r math hwn yn briodol.
Trof yn awr at ddatblygiadau cyffredinol diweddar mewn perthynas â chloddio glo, a pholisïau cynllunio Llywodraeth Cymru yn benodol. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet hi'n glir ar sawl achlysur mai bwriad Llywodraeth Cymru yw symud tuag at economi carbon isel ac oddi wrth y defnydd parhaus o danwydd ffosil. Mae'r ymgynghoriad diweddar ar newidiadau i 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cadarnhau'r cyfeiriad teithio hwn. O ran cloddio glo brig, nododd y fersiwn o'r polisi a oedd yn destun ymgynghori,
'Ni ddylid caniatáu cynigion ar gyfer datblygiadau glo brig, pyllau glo dwfn na gwaredu gwastraff pyllau glo.'
Croesawodd y Pwyllgor Deisebau y dull hwn o weithredu yn ein hadroddiad. Mae'r ymgynghoriad bellach wedi cau, ac wrth gwrs, byddai gennym ddiddordeb mewn unrhyw ddiweddariadau y gall Ysgrifennydd y Cabinet eu darparu heddiw ar yr agwedd hon ar bolisi cynllunio cenedlaethol yn y dyfodol.
Hoffwn gyffwrdd yn fyr hefyd ar faterion etifeddiaeth a gwaith adfer. Amlygwyd nifer o enghreifftiau i ni lle roedd gwaith adfer ar safleoedd glo brig yn annigonol, neu hyd yn oed heb ddigwydd o gwbl. Dadleuai'r ddwy set o ddeisebwyr yn gryf fod angen gwneud llawer mwy ar hyn, gan gynnwys yr angen i awdurdodau lleol gael blaendal sy'n cyfateb i gostau llawn y gwaith o adfer y safle ymlaen llaw. Rydym yn nodi bod y mater hwn hefyd wedi bod yn destun sylw gan y cyfryngau yn ddiweddar. Unwaith eto, dyma fater sydd wedi'i gynnwys yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Fodd bynnag, er bod y polisi drafft yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith adfer, nid yw'n gwneud blaendal llawn yn ofynnol ymlaen llaw. Mae'n amlwg fod y dull hwn o weithredu wedi arwain at broblemau yn y gorffennol pan na fu'n bosibl i awdurdodau lleol adennill y costau angenrheidiol ar gyfer gwneud gwaith adfer. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod yn rhaid cael gwarantau effeithiol gan y rhai sy'n gyfrifol am ddatblygiadau cloddio glo brig. Gallai hyn gynnwys blaendal ymlaen llaw ar gyfer holl gostau adfer safle. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gadw effeithiolrwydd polisi cenedlaethol yn hyn o beth o dan adolygiad manwl.
I gloi, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd dros gyfnod sylweddol o amser, daeth y pwyllgor i bedwar casgliad. Rydym yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi ei chefnogaeth yn dilyn hynny i bob un o'r rhain. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd Cymru'n gweld rhagor o geisiadau ar gyfer cloddio glo brig yn y dyfodol. At hynny, os yw polisi cynllunio yn cael ei ddiwygio ar hyd y llinellau a argymhellwyd, byddai'n ymddangos yn debygol y byddai unrhyw geisiadau o'r fath yn cael eu gwrthod. Er y byddai hyn yn rhywfaint o gysur i'r bobl sydd wedi cyflwyno deiseb i'r Cynulliad ar y pwnc hwn, mae hefyd yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol yn mynd ati'n effeithiol i orfodi'r polisïau hyn sy'n bodoli er mwyn diogelu cymunedau lleol a'r amgylchedd. Rhaid i hyn gynnwys sicrhau bod polisïau cynllunio cenedlaethol yn cael eu dilyn a'u cynnal, heblaw, efallai, mewn amgylchiadau eithriadol, ac y gellir gwarantu a defnyddio darpariaeth ddigonol i adfer safleoedd ar gyfer eu defnyddio mewn modd addas gan gymunedau lleol. Diolch yn fawr.