Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch, Lywydd dros dro, ac rwy'n siŵr y bydd gan rai o'r Aelodau o Gynulliadau blaenorol atgofion melys wrth eich gweld yn y Gadair. A gaf finnau hefyd gofnodi fy llongyfarchiadau ar eich arwisgo â CBE ddoe gan y Tywysog Charles?
Y Pwyllgor Deisebau, cefais syndod o weld y Pwyllgor Deisebau yn dod yma heddiw er cymaint o amser a aeth heibio ers i'r deisebau hyn gael eu cyflwyno gyntaf. Mae'n bosibl fod rhesymau penodol dros yr oedi, ond o'm rhan i, hoffwn ddiolch i David Rowlands fel Cadeirydd, a'r pwyllgor, am barhau i fynd ar drywydd hyn, ac nid oedd y ffaith ei fod wedi bod yno ers amser maith yn rheswm dros ei anghofio, ond o leiaf, roedd ei gyflwyno heddiw ar gyfer dadl yn rhywbeth cadarnhaol yn fy marn i.
Rwy'n credu bod Lynne wedi siarad yn glir am yr anawsterau penodol, a buaswn yn cytuno â'i beirniadaeth o adroddiad yr arolygydd ar y cais i gyngor Torfaen, ond yn y pen draw, fe wnaeth y Gweinidog y penderfyniad cywir a oedd yn gyson â'r canllawiau. Ac mae'n ymddangos i mi fod y gyfundrefn ganllawiau yn darparu lefel synhwyrol o ddisgresiwn lleol, a bydd pob cais a phob datblygiad arfaethedig yn wahanol, ac mae'n ymddangos i mi yn synhwyrol fod gan Weinidogion, Llywodraeth a'r Cynulliad hwn fewnbwn ar gyfer darparu canllawiau ar yr hyn sy'n bethau priodol i'w hystyried. Wedyn gall y pwyllgor cynllunio ystyried sefyllfaoedd lleol, a'r un mor bwysig, safbwyntiau lleol. Mae'n amlwg nad yw cloddio glo brig yn boblogaidd yn aml iawn, a lle y cafodd ei gyflwyno, yn gyffredinol cafwyd gwrthwynebiad sylweddol. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na fyddai pwyllgor cynllunio a etholwyd yn lleol yn rhoi ystyriaeth briodol i'r gwrthwynebiadau gan y bobl sy'n byw yn eu hardal, a chredaf fod y gyfundrefn honno'n well wrth gefnogi lleoliaeth yn ôl pob tebyg, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn gefnogol iawn i hynny, yn hytrach na gwneud y canllawiau'n statudol neu gael gofyniad y dylech alw cais i mewn ym mhob achos, ni waeth beth yw manylion penodol yr ardal leol, os yw'n fwy na rhyw faint penodol.
Fodd bynnag, credaf fod y deisebwyr wedi llwyddo i raddau helaeth yn eu hamcanion. Efallai y bydd y Gweinidog yn ein goleuo ymhellach pan fydd yn siarad. Ond credaf fod drafft Polisi Cynllunio Cymru 10, y daeth yr ymgynghoriad yn ei gylch i ben ganol mis Mai, i'w weld wedi tynhau'r polisi'n eithaf sylweddol, ac mae'n anodd gweld sut y gall cloddio glo brig wneud ei ffordd drwyddo. Rhoddodd Cadeirydd y pwyllgor y frawddeg gyntaf; mae'n parhau:
'Pe bai cynigion yn cael eu cyflwyno o dan amgylchiadau cwbl eithriadol, byddai’n rhaid iddynt ddangos yn glir pam eu bod eu hangen yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau newid yn yr hinsawdd a diogelwch ynni.'
Credaf fod hynny'n ddiddorol, ac yn heriol mewn rhai ffyrdd, oherwydd mae'n gosod y cyfrifoldeb am yr eithriad ar ystyriaethau cenedlaethol, a DU gyfan mae'n debyg, ynghylch targedau newid hinsawdd a diogelwch ynni. Tybed, o fewn hynny, a geir argymhelliad a wnaed gan Lywodraeth y DU a pholisi—credaf iddo gael ei gefnogi o'r blaen, i raddau, gan Lywodraeth Cymru—y dylid dirwyn glo i ben yn raddol erbyn canol i ddiwedd y 2020au rwy'n credu, pe bai rhywun yn dweud yn y cyfamser, 'Wel, dyna'r polisi, dyna a gytunwyd, ond o ran sicrwydd ynni, onid yw'n well ei gynhyrchu gartref yn hytrach na dibynnu ar fewnforion o bell?' Rwy'n meddwl tybed beth fyddai arolygydd cynllunio yn ei wneud o'r ddadl honno, ac fe edrychwn ymlaen at weld y canllawiau terfynol y bydd y Gweinidog yn eu cyflwyno yn y maes hwn.
Mae'r Cymoedd wedi symud ymlaen ers dyddiau'r gweithfeydd glo a'r adeg pan oedd hi'n ardal lofaol fwyaf blaenllaw'r byd o bosibl, ac yn sicr o ran ansawdd y glo. Cawsom rywfaint o gloddio glo brig, ond mae wedi bod yn eithaf amhoblogaidd ar yr adegau pan gafodd ei gynnig. Gwn fod yna gynnig wedi bod ynghylch Dowlais Top lle roedd gan bobl safbwyntiau cryf iawn yn ei erbyn. Hefyd, ardal gorllewin Rhyd-y-car, lle y cafwyd cynigion o'r blaen ar gyfer cloddio glo brig—mae'n gyffrous iawn fod Marvel yn awr yn cyflwyno cynnig sylweddol iawn ar gyfer datblygiad y gobeithiaf, o leiaf, y bydd yn fwy poblogaidd na chloddio glo brig, canolfan eira dan do, parc sglefrio a beicio, parc dŵr dan do, a llety gwyliau a chartrefi, ac mae buddsoddiad sylweddol iawn eisoes wedi mynd tuag ato a diolch iddynt am eu gwahoddiad i ddigwyddiad gwybodaeth ddydd Gwener.
Ond credaf fod mater galw i mewn a gwneud penderfyniadau lleol—yn amlwg, mewn rhai ardaloedd, mae ceisiadau penodol yn heriol tu hwnt ac yn anodd iawn a cheir manylion niferus iawn ynghlwm wrthynt. I awdurdodau lleol sy'n brin o arian, yn enwedig rhai bach, gallant fod yn bethau sylweddol iawn. Ond credaf fod pwysigrwydd democratiaeth leol yn allweddol, ac rwyf wedi cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig ar hyn, a deallaf yr anawsterau, os yw'n dod at Weinidogion yn dilyn apêl ac arolygydd cynllunio, nad ydych chi eisiau rhagfarnu pethau, ond tybed a allai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ddarparu cymorth cynllunio neu adnoddau, efallai, y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio ar gyfer ceisiadau arbennig o fawr ar lefel ganolog, gan sicrhau ar yr un pryd na fyddai'r ddarpariaeth o adnoddau ac arbenigedd cyffredinol yn rhagfarnu unrhyw apêl ddiweddarach y gallai Gweinidogion orfod ymdrin â hi.
Rwy'n llongyfarch y deisebwyr a'r Pwyllgor Deisebau am ymdrin â hyn o'r diwedd, ac edrychaf ymlaen hefyd at glywed beth fydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud.