Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 27 Mehefin 2018.
Yn sicr a gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r adroddiad hwn i'w drafod? Nid oeddwn yma pan gyflwynwyd y deisebau hyn yn wreiddiol, ond rwy'n ymwybodol iawn o frwydr fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, ac rwy'n wynebu brwydrau tebyg yn awr yn fy etholaeth gyda'r ceisiadau ar gyfer Nant Llesg y byddaf yn eu trafod mewn eiliad. Felly, rwyf wedi dilyn yr ystyriaeth o'r deisebau gyda diddordeb, oherwydd ers cael fy ethol fel AC dros Ferthyr Tudful a Rhymni, mae cloddio glo brig wedi bod yn ystyriaeth bwysig yn y gwaith rwy'n ei wneud, ac ym mhryderon yr etholwyr a gynrychiolaf. Mae'r gwaith glo brig presennol yn Ffos-y-frân ym Merthyr Tudful wedi bod o ddiddordeb mawr i fy etholwyr, oherwydd bod mater adfer y safle wedi bod yn llusgo yn ei flaen. Bellach, rydym wedi cael cais ar gyfer Nant Llesg yng Nghwm Rhymni uchaf, a chyflwynwyd y ddeiseb, yr ail ddeiseb, mewn perthynas â hynny. Roedd nifer o fy etholwyr yn rhan o'r broses o gyflwyno'r ddeiseb honno i alw i mewn pob cais ar gyfer cloddio glo brig, gan gynnwys Terry Evans, y cyfeirioch chi ato, David Rowlands, ac mae'r bobl hynny wedi bod yn rhan fawr o'r ymgyrch groch yn erbyn datblygiad Nant Llesg yng Nghwm Rhymni uchaf.
Ond mae gennyf ddiddordeb mewn dau faes yn benodol: adfer, ac rwyf eisoes wedi cyfeirio at hynny, a cheisiadau yn y dyfodol. Felly, fel y dywedais eisoes, yn ystod yr amser byr y bûm yn Aelod Cynulliad, mae'r dirwedd o gwmpas Merthyr Tudful wedi newid yn llwyr o ganlyniad i ddatblygiad Ffos-y-frân, wrth i'r glo gael ei gloddio ac wrth i waith adfer graddedig ddigwydd. Yn fwy diweddar, fodd bynnag, testun pryder i mi oedd yr achos llys rhwng perchnogion y gwaith yn Ffos-y-frân a'r awdurdod lleol. Nawr, mae fy safbwynt yn glir ac yn gwbl ddiamwys. Erys budd cyhoeddus hollbwysig i sicrhau, ar ôl cwblhau'r gwaith cloddio glo brig presennol, fod yn rhaid i'r perchenogion adfer y safle mewn cydymffurfiaeth â'u rhwymedigaethau. Hynny, a hynny'n unig, yw'r budd gorau ar gyfer y cyhoedd yn y mater hwn. Fodd bynnag, o ystyried yr ymgyfreitha parhaus ar hynny—a chredaf y gallem gael penderfyniad yn yr achos llys hwnnw heddiw—nid wyf yn bwriadu dweud mwy na hynny. Fodd bynnag, mae'n fy arwain at y pwynt mwy cyffredinol o egwyddor, sef y dylai awdurdodau lleol, yr Arolygiaeth Gynllunio a Llywodraeth Cymru sicrhau bod darpariaeth ariannol addas ar gyfer gwaith adfer yn cael ei gweithredu, ei monitro a'i gorfodi'n effeithiol, y pwynt y credaf ei fod yn cael ei nodi yng nghasgliad 3 o adroddiad y pwyllgor. Ni ddylai unrhyw gymuned byth orfod wynebu'r ansicrwydd o etifeddu problemau wedi i weithredwyr gwneud miliynau o bunnoedd o'u gweithfeydd.
A dyna pam y mae'r adolygiad presennol o 'Polisi Cynllunio Cymru' i'w groesawu hefyd, o ystyried y ceisiadau y cyfeiriais atynt sy'n peri pryder ac sydd heb gael eu datrys eto, gan gynnwys Nant Llesg. Gwrthodwyd cais Nant Llesg eisoes gan yr awdurdod lleol. Nid yw'n rhan o gynllun datblygu lleol yr awdurdod hwnnw. Caiff ei wrthwynebu bron yn unfrydol gan y gymuned leol. Ac eto mae'n destun apêl ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gobeithio, yn unol â chasgliad 2 yr adroddiad, y bydd y polisi yn y dyfodol nid yn unig yn atgyfnerthu barn Llywodraeth Cymru ar ddyfodol cloddio am danwydd ffosil, ond y bydd hefyd yn parchu hawl cymunedau lleol i benderfynu a oes gwaith o'r fath yn digwydd ar garreg eu drws. Oherwydd er na allwn ddianc rhag hanes cloddio glo yn ein gorffennol ac yn ein cymunedau yn y Cymoedd—yn wir, rwy'n credu ein bod yn ymfalchïo ynddo—mae'n glir hefyd, fel y dywedodd Mark Reckless, fod y cymunedau hyn wedi symud ymlaen oddi wrth y math hwnnw o ddiwydiant, ac mae'n amlwg nad ydynt am weld diwydiannau sy'n seiliedig ar garbon a diwydiannau dibynnol yn cael eu hatgyfodi a fyddai'n dinistrio'r tirweddau hardd sydd ganddynt yn awr ac yn niweidio'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, ar hyn o bryd, Gadeirydd, mae tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet i'r Pwyllgor Deisebau a'r cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo ar hyn yn rhoi tawelwch meddwl i mi. Fodd bynnag, mae'n hanfodol, drwy'r broses briodol, ein bod yn gweld yr adolygiad o'r polisi cynllunio yng Nghymru yn mynd ar drywydd hyn.