8. Dadl Plaid Cymru: Ynni hydrogen

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:16, 27 Mehefin 2018

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn ond yn sôn am ddŵr, so gobeithio bod hynny ddim wedi cael ei golli yn ormodol. 

Mae technoleg ar gael ac yn benodol rydw i â diddordeb gweld pa rôl sydd gan hydrogen fel tanwydd yn y diwydiant cludo ac yn y diwydiant trafnidiaeth torfol hefyd. So, rydym yn edrych ar fysys neu drenau, a chyfleoedd gyda masnachfraint Cymru a'r gororau a threnau yn dod i ddwylo Llywodraeth Cymru inni wneud rhywbeth mwy dyfeisgar a mwy arloesol yma.