– Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2018.
Eitem 8 yw dadl Plaid Cymru ar ynni hydrogen a galwaf ar Simon Thomas i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6750 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad, ‘Potensial hydrogen yn y datgarboneiddio o drafnidiaeth yng Nghymru’, a gyhoeddwyd gan Simon Thomas AC.
2. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i adeiladu ar sgiliau ac arbenigedd i arwain y Deyrnas Gyfunol mewn ymchwil a datblygiad a buddsoddiad yn hydrogen.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod gyda busnesau, ymchwilwyr a chyrff i gynnal digwyddiad allweddol i gyfleu uchelgais Cymru mewn perthynas â’r economi hydrogen i gynulleidfa fyd-eang ac fel sbardun i ddatblygu strategaeth economi hydrogen gynhwysfawr.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae'n dda gen i gynnig hwn, sy'n seiliedig ar waith a gomisiynwyd gen i fel rhan o arian ymchwil y Cynulliad. Mae wedi cael ei gyhoeddi fel adroddiad, 'Potensial Hydrogen yn y Datgarboneiddio o Drafnidiaeth yng Nghymru'. Os oes unrhyw Aelod am gael copi, mae croeso iddyn nhw gysylltu am hynny. Hoffwn hefyd ddiolch i Riversimple, cwmni ceir hydrogen yn Llandrindod, a wnaeth gynnal lansiad y papur a rhoi cyfle i mi gael fy ngyrru o gwmpas mewn car hydrogen—a nifer o bobl eraill hefyd—a phrofi'r dechnoleg yma. Mae'n wych i weld nid yn unig fod ymchwil yn digwydd yng Nghymru ond bod ymgais i wireddu yr ymchwil yn brosiect go iawn, a hynny yn digwydd yng nghanolbarth Cymru ac nid, efallai, yn y llefydd arferol.
Mae'r adroddiad yn edrych i mewn i'r posibiliad o ddefnyddio hydrogen fel tanwydd yn y system drafnidiaeth yng Nghymru, ond yn ehangach yn manteisio ar y cyfle i ddatblygu economi seiliedig ar hydrogen yn ogystal. Rydym yn edrych ar nifer o ffyrdd ar draws y byd, yn enwedig yng ngorllewin Ewrop, lle mae hydrogen yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, a sut y mae arian Ewropeaidd ac arian ymchwil yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r dechnoleg—technoleg a aned yng Nghymru yn nwylo Syr William Grove, ond sydd â photensial ar gyfer y dyfodol.
Mae hydrogen yn bwysig i ni oherwydd ein bod ni angen pob arf yn y ffordd rydym ni'n ymladd yn erbyn y ddwy her o newid hinsawdd a llygredd awyr. Nid wyf yn dadlau bod hydrogen yn rhagori ar bob dull arall. Beth rwy'n dadlau yw bod hydrogen â rôl a photensial i'w chwarae wrth fynd i'r afael ochr yn ochr â phethau megis ceir trydan a phethau mwy penodol megis lleihau nifer y teithiau rydym yn eu gwneud mewn trafnidiaeth yn y lle cyntaf.
Y prif rinwedd sydd gan hydrogen yw nad yw yn cynhyrchu unrhyw nitrogen deuocsid na mater gwenwynol wrth gael ei ddefnyddio, a dim ond dŵr yw'r allyriadau o beiriant neu gell hydrogen, ac mae hynny'n golygu ein bod ni'n glanhau ein trefi ag awyr glân ac yn manteisio ar gyfleoedd—
Trefn. Mae'n ddrwg gennyf, Simon, rydym wedi colli'r cyfieithiad. Mae'r profion yn gweithio. A yw pawb yn cael y darllediad bellach? Diolch. Rwy'n ymddiheuro, Simon. Gallwch barhau.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn ond yn sôn am ddŵr, so gobeithio bod hynny ddim wedi cael ei golli yn ormodol.
Mae technoleg ar gael ac yn benodol rydw i â diddordeb gweld pa rôl sydd gan hydrogen fel tanwydd yn y diwydiant cludo ac yn y diwydiant trafnidiaeth torfol hefyd. So, rydym yn edrych ar fysys neu drenau, a chyfleoedd gyda masnachfraint Cymru a'r gororau a threnau yn dod i ddwylo Llywodraeth Cymru inni wneud rhywbeth mwy dyfeisgar a mwy arloesol yma.
Beth rŷm ni'n gobeithio ei weld fan hyn yw bod y Llywodraeth, a bod Cymru ei hunan yn dod yn genedl sydd yn achub y blaen ac yn arwain wrth ddatblygu y diwydiant hydrogen. Mae'n rhywbeth sydd yn ehangu yn brysur dros y byd i gyd. Mae'n rhywbeth sydd yn ychwanegu yn gryf iawn yn y gwledydd sydd â diddordeb mewn ymchwil ac mewn dulliau newydd. Mae yna gymuned hydrogen dros y byd i gyd lle mae yna rannu gwybodaeth, ac mae modd, rydw i'n credu, i ni fel cenedl sydd yn hyblyg a'r maint iawn, fel petai, gyda Llywodraeth ddyfeisgar, i arwain nifer o'r pethau yma. Byddwn i'n gobeithio'n fawr iawn—byddwn i wrth fy modd, a dweud y gwir—pe bai Llywodraeth Cymru yn gallu cynnull rhyw fath o summit neu ryw fath o uwchgyfarfod o'r cyrff yma i ddangos ein bod ni am arwain.
Rŷm ni'n gweld bod buddsoddi yn yr economi hydrogen yn rhywbeth sy'n mynd ochr yn ochr â theithio llesol, gyda pharthau awyr glân, gyda cherbydau trydan. Nid yw hydrogen yn rhagori, fel y dywedais i, ar bob un o'r rhain; mae'n rhan o'r mesurau i fynd i'r afael â llygredd awyr a newid hinsawdd.
Mae yna wledydd di-rif erbyn hyn yn arbrofi gyda'r dulliau yma. Mae bysys hydrogen mewn llefydd fel Aberdeen a Birmingham. Mae Llundain yn buddsoddi mewn bysys hydrogen, ac rydw i'n credu bod gyda ni ond tri bws trydan drwy Gymru i gyd. Nid yw'r rheini ar yr hewlydd eto, so rydym ar ei hôl hi go iawn. Efallai bod yr Almaen mas o Gwpan y Byd heddiw ond maen nhw'n buddsoddi mewn trenau hydrogen, gydag Awstria, Ontario a Tsieina, wrth gwrs, yn edrych i mewn i hyn hefyd. Mae Costa Rica yn wlad sydd yn edrych i fuddsoddi mewn trenau hydrogen. Mae cyfle gwych inni ddatblygu yn fanna.
Roeddwn i'n gweld yn atodlen y gyllideb atodol fod £5 miliwn wedi cael ei sicrhau gan yr Ysgrifennydd Cabinet tuag at ddatblygiadau sydd yn dod yn sgil peidio â bwrw ymlaen gyda chynlluniau ym Mlaenau Gwent ynglŷn â Chylchdaith Cymru, a bellach maent yn edrych i mewn i'r posibiliadau o fuddsoddi mewn carbon isel ym Mlaenau Gwent. Byddai'n wych o beth gweld bod hynny hefyd yn cael ei gyfeirio tuag at ddatblygu'r economi hydrogen. Rŷm ni'n gallu arwain fan hyn. Roeddwn yn gweld dim ond yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth yr Alban wedi cefnogi llong hydrogen i gael ei hadeiladu yn yr Alban. Dyna'r cyfleoedd sydd gyda ni, ac rwy'n gobeithio'n fawr, er gwaethaf gwelliannau braidd yn ddi-ddychymyg, ddi-uchelgais y Llywodraeth, fod modd manteisio ar y dechnoleg yma ac arwain y byd.
Diolch. Rwyf wedi dethol tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Ym mhwynt 1, ar ôl 'Simon Thomas AC', mewnosoder:
', ac yn nodi ymhellach:
a) potensial hydrogen fel ffurf amgen o danwydd;
b) pwysigrwydd tanwydd hydrogen i arallgyfeirio ein portffolio ynni;
c) y gwahaniaeth pwysig rhwng tanwydd hydrogen gwyrdd a brown;
d) bod tanwydd hydrogen gwyrdd dim ond yn ddichonadwy fel sgil-gynnyrch o gynhyrchu gormodedd o drydan, ac felly dylid cydnabod ei gyfyngiadau; ac
e) bod angen i Lywodraeth Cymru wneud gwelliannau i seilwaith y grid yng Nghymru er mwyn sicrhau y gellir defnyddio trydan a hydrogen fel dewisiadau gwyrdd amgen yn lle tanwyddau ffosil.'
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant yn enw Paul Davies, ac wrth wneud hynny rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr ac yn nodi ein cefnogaeth i'r amcanion sydd wedi'u cynnwys yng nghynnig Plaid Cymru. Rwy'n gobeithio y caiff ein gwelliannau eu cefnogi gan y credwn, wrth gwrs, eu bod yn cryfhau'r cynnig ymhellach.
Rhaid inni beidio ag anghofio bod Awdurdod Datblygu Cymru wedi datgan yn 2005, 13 mlynedd yn ôl, ei fod am ddatblygu microeconomi yn ne Cymru yn seiliedig ar dechnoleg ynni dŵr. Roedd y Gweinidog datblygu a thrafnidiaeth ar y pryd, Andrew Davies, yn rhagweld y byddai gennym orsafoedd hydrogen, rhwydweithiau trafnidiaeth integredig di-allyriadau, tacsis dŵr wedi'u pweru gan hydrogen a chanolfannau lle y gall cerbydau nwyddau trwm drosglwyddo nwyddau i'w dosbarthu ar gerbydau trydan. Ar y pryd, rhagwelwyd y byddai hyn i gyd yn digwydd o fewn 10 mlynedd, ac fel y dywedodd Jenny Rathbone yn briodol yn y Siambr fis Hydref diwethaf, nid oes dim o hyn wedi'i wireddu, ac er bod hynny'n anffodus, rwy'n meddwl, efallai fod hyn yn dangos bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio system drafnidiaeth Cymru wedi'i orddatgan braidd, a dyna pam rwy'n codi hyn, gan mai dyna pam y buaswn yn awgrymu na fyddwn yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth.
Darllenais bapur Simon Thomas gyda diddordeb mawr—dysgais lawer. Roeddwn yn meddwl ei fod yn ffordd dda iawn o ddefnyddio cronfeydd ymchwil y Cynulliad. Mae'n ddogfen dda iawn, ac mae'n sicr—. Mae'n iawn ein bod yn trafod eitem fel hon yn amser y gwrthbleidiau, fel rydym yn ei wneud heddiw.
Nawr, mae cerbydau trydan a chelloedd tanwydd hydrogen yn lanach na thanwyddau carbon ac mae ganddynt botensial i gyflawni llu o fanteision gan gynnwys lleihau allyriadau carbon a chostau rhedeg isel a gwelliannau diogelwch, ond er mwyn sicrhau, wrth gwrs, fod Cymru yn arwain yn hyn o beth, er mwyn addasu i'r dechnoleg newydd hon ac arallgyfeirio ein portffolio ynni, bydd angen gwelliannau i seilwaith grid Cymru wrth gwrs, neu fel arall ni chaiff y cynlluniau a amlinellir yn adroddiad Simon Thomas byth mo'u gwireddu.
Rwy'n deall bod hyfywedd cynhyrchiant tanwydd hydrogen gwyrdd yn dod o gynhyrchiant trydan dros ben, ac wrth i'r grid ddatblygu, caiff y trydan sy'n cael ei storio ei ymgorffori ym model y grid, a byddai yna lai o drydan dros ben, wrth gwrs, gan y byddai bellach yn cael ei storio gan weithredwyr y system ddosbarthu ar gyfer ei ddosbarthu'n diweddarach. Dyna a ddeallais, ond rwy'n ddigon hapus i gael fy nghywiro gan Simon Thomas os nad wyf wedi cael hynny'n iawn.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Yn sicr, gwnaf.
Nid wyf am ei gywiro yn yr ystyr honno—credaf ei fod at ei gilydd yn gywir—ond yr hyn y mae'n ei fethu, a dyna pam nad wyf yn gwbl fodlon â'i welliant, ac rwy'n deall ei fod yn ceisio bod yn welliant adeiladol—. Rwy'n credu ei fod yn methu'r cyfle yng Nghymru yn arbennig, lle'r ydym yn cynhyrchu trydan adnewyddadwy dros ben—byddem yn sicr wedi'i gael gyda'r morlyn llanw, ond hefyd mae llawer o'n ffermydd gwynt yn cynhyrchu trydan ar adeg pan nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn gwirionedd, ac mae potensial gan hydrogen i sefyll yn y bwlch. Mae'n fwy effeithiol fel dull o storio ynni na storio ynni fel trydan am nad yw ein technoleg batri mor effeithlon â'n technoleg hydrogen.
Diolch, Simon Thomas. Mae hyn yn rhywbeth newydd rwy'n ei archwilio fy hun, felly rwy'n hapus i gael y pwynt hwnnw.
Gallaf weld fod fy amser bron â dod i ben, ond credaf mai un mater sydd angen ei ddatrys yw'r tensiwn hefyd rhwng y rôl y mae hydrogen yn ei chwarae yn erbyn yr angen am gerbydau trydan, neu gynhyrchiant trydan yn ogystal, oherwydd ceir cyfyngiadau yn hynny o beth. Felly, credaf ei bod yn iawn inni fwrw ymlaen â phwyntiau gwefru cerbydau trydan yn ogystal. Ond yr hyn rwy'n ceisio ei amgyffred yw'r cydbwysedd rhwng y ddau a lle maent, a dyna rwy'n gobeithio ei gael o'r ddadl y prynhawn yma, ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet a chyfraniadau Aelodau eraill a'ch casgliadau chi yn ogystal. Diolch.
Diolch. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?
Gwelliant 2—Julie James
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn eu lle:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati drwy’r Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi i ddatgarboneiddio modelau busnes traddodiadol, gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yng Nghymru a symud ymlaen at ddyfodol carbon isel mewn ffordd a all helpu’n heconomi i arallgyfeirio ac i dyfu.
Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yr ymrwymiad diweddar i sicrhau gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau ar draws rhwydwaith rheilffordd Cymru a’r Gororau erbyn 2023.
Yn nodi bod yn rhaid i waith i ddatgarboneiddio system drafnidiaeth Cymru fod yn eang ei sail, a bod angen gwneud gwaith ymchwil a datblygu creadigol ar atebion eraill o ran seilwaith ac ar draws amrywiaeth o danwyddau arloesol a systemau tyniant, gan gynnwys hydrogen.
Yn ffurfiol.
Diolch. A gaf fi alw ar Michelle Brown yn awr i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones? Michelle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ynni hydrogen yn dechnoleg gyffrous a diddorol iawn y gellir ei defnyddio i greu ynni ar gyfer pweru ceir, cerbydau nwyddau trwm, llongau, a hefyd i wresogi cartrefi. Felly, rwy'n falch dros ben o allu cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.
Cyhyd â bod yr hydrogen ei hun yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy, mae'n darparu ateb i'r llygredd sy'n niweidiol i iechyd ac yn achosi marwolaethau niferus bob blwyddyn yn y wlad hon. Fodd bynnag, fel y nodais o'r blaen, oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r llygredd a grëir gan longau, ni fyddwn byth yn datrys problem llygredd y byd. Ond mae yna obaith oherwydd hydrogen. Mae llong arbrofol Race for Water yn defnyddio pŵer solar a stacio hydrogen i ehangu ei gyrhaeddiad pan fo'n bell o'r cyhydedd. Mae peiriannau hydrogen yn cael eu datblygu hefyd i'w defnyddio mewn cerbydau nwyddau trwm yn ogystal. Mae dull Riversimple o ddylunio ceir o amgylch y gell pŵer nid yn unig yn anhygoel o resymegol, mae wedi arwain hefyd at y posibilrwydd hyfyw o gar heb fawr o anfanteision ceir trydan a cheir hybrid sydd braidd yn wrthgynhyrchiol, o fod yn gyfuniad o danwydd ffosil a batris trwm.
Mae arloesedd a gallu technolegol y cwmni cynhenid hwnnw i'w canmol, ac maent yn rhan o draddodiad balch o beirianwyr Prydeinig a holltodd yr atom ac a roddodd y cyfrifiadur i'r byd. Felly, gadewch i ni beidio â gwneud yr un camgymeriad ag a wnaeth cenedlaethau blaenorol, a welodd ddyfeisiadau gan Brydeinwyr yn creu ffortiwn i gwmnïau mewn gwledydd eraill.
Gwnaed pwynt allweddol ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan ddywedwyd y dylem ofalu rhag rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged cerbydau trydan. Rwy'n cytuno'n llwyr y dylem gael ffynhonnell gymysg o gynhyrchiant ynni. Nid ydym eisiau bod yn gaeth i gartél fel rydym ar hyn o bryd gyda phetrol a diesel, a bydd cymysgedd ynni addas yn atal hynny rhag digwydd.
Mae cerbydau trydan wedi'u pweru gan fatri yn gwneud peth niwed i'r amgylchedd, fel y dywedais yma yn y gorffennol. Rhaid cynhyrchu'r trydan, ac ar y cyfan rydym yn dal i wneud hynny drwy ddefnyddio tanwydd ffosil. Hefyd, mae angen cloddio a phrosesu'r deunyddiau ar gyfer y batris enfawr—proses a allai fod yn niweidiol i'r amgylchedd ac i iechyd pobl. Mae cael gwared ar y batris hyn yn broblem hefyd. Mae'n gadarnhaol yn yr ystyr nad yw cerbydau trydan yn cynhyrchu allyriadau gwenwynig, ond o fewn ein cymysgedd pŵer cyfredol, wedi cael eu symud i fannau eraill y mae'r allyriadau hyn—maent yn dal i fynd i mewn i'r atmosffer. Nid yw'r diffyg dewis hwnnw'n bodoli yn achos cerbydau tanwydd hydrogen.
Gan droi at ein gwelliant, rydym yn cydnabod y bydd cyflwyno cerbydau wedi'u pweru gan hydrogen ar raddfa eang yn galw am seilwaith sy'n costio arian i'w osod. Roedd hynny'n wir, wrth gwrs, gyda dyfodiad cart-a-cheffyl yn y lle cyntaf. Er bod gennym arosfannau ar gyfer trafnidiaeth a dynnid gan geffylau ar un adeg, gyda phorthiant a stablau, bu'n rhaid creu seilwaith cyfan ar gyfer storio, cludo a phuro, neu gynhyrchu petrol, diesel ac olew gwresogi.
Mae gorsafoedd petrol eisoes wedi'u cyfarparu i ymdrin â thanwydd hylosg, ac er ei bod yn wir y byddai angen eu haddasu i ddarparu ar gyfer hydrogen, nid yw'n dasg mor fawr â'r hyn a oedd yn ofynnol yn flaenorol, ar ddechrau oes y cerbydau tanwydd ffosil. Rwy'n siŵr y byddai unrhyw ddigwyddiadau allweddol megis yr hyn a grybwyllir yn y cynnig yn cynhyrchu amrywiaeth o syniadau, ac rwy'n gwbl gefnogol i'r cynnig o safbwynt hynny. Ond buaswn yn gofyn inni gadw'r opsiynau sy'n cael eu hystyried yn realistig o fforddiadwy.
Mae angen inni sicrhau elw da ar fuddsoddiad, a bod y risgiau o greu'r seilwaith angenrheidiol, ac ymchwil a datblygu, a hyrwyddo'r dechnoleg wedyn yn cael eu rhannu'n deg rhwng y cwmnïau a fydd yn elwa arni, y Llywodraeth, a'r trethdalwr yn y pen draw.
Bydd angen inni gael cefnogaeth y cyhoedd hefyd, ond nid yw hynny'n mynd i ddigwydd os ydynt yn ofni eu bod yn mynd i cael eu taro gan dreth werdd gostus arall. Felly, rwy'n credu y byddai sicrwydd gan y Llywodraeth yn hynny o beth yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Ac i'r perwyl hwnnw, rwy'n eich annog i gefnogi gwelliant UKIP. Diolch.
Roeddwn i’n teimlo’n ddrygionus iawn ychydig funudau yn ôl yn meddwl pa bleidlais frys gallem ni ei galw gan fod Plaid Cymru mewn mwyafrif dros y pleidiau eraill i gyd yma yn y Cynulliad ar hyn o bryd. [Chwerthin.]
Rydw i’n falch o gael cymryd rhan, yn fyr iawn, yn y ddadl yma, ac rydw i'n llongyfarch Simon ar y gwaith mae o wedi’i wneud yn paratoi'r adroddiad yma sy’n edrych ar botensial hydrogen ar gyfer Cymru, a’r gair 'potensial' yna sy’n bwysig i fi yn fan hyn, achos fel cymaint o dechnolegau newydd, a ffyrdd o ddefnyddio’r technolegau hynny, megis dechrau ydym ni mewn gweld pa mor bell y gallwn ni wthio’r ffiniau.
Mae angen pob arf arnom ni mewn sawl brwydr ar hyn o bryd—y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac yn amlwg mae hydrogen yn cynnig rhywbeth inni yn y maes hwnnw. Mae angen pob arf arnom ni yn y frwydr i sicrhau bod yr awyr yn lanach o’n cwmpas ni, ac mae hydrogen unwaith eto yn cynnig rhywbeth yn hynny o beth. Rydw i'n meddwl bod angen pob arf hefyd pan fo'n dod at edrych ar y potensial economaidd i Gymru. Mewn cymaint o wahanol feysydd, mae Cymru yn syrthio ar ei hôl hi, mewn meysydd amgylcheddol hefyd. Mae'r Iwerddon—efo'r Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, roeddwn i'n genfigennus iawn o'r gwaith oedd wedi cael ei wneud ar yr adroddiad 'Harnessing Our Ocean Wealth' yn edrych ar sut i gael y gorau allan o ynni morol a'r lles economaidd ac amgylcheddol fyddai'n dod o hynny.
Yn y gwaith rydw i'n trio ei wneud ar geir trydan ar hyn o bryd, rydw i'n gresynu at y ffaith ein bod ni'n syrthio ar ei hôl hi, lle mae gweddill Prydain yn datblygu ac yn buddsoddi llawer mwy mewn pwyntiau gwefru ac yn y blaen ar gyfer ceir trydan, lle'r oeddem ni ychydig flynyddoedd yn ôl yma yng Nghymru yn sôn am y posibilrwydd, fel gwlad fach, hyblyg, am allu bod yn arweinwyr mewn creu rhwydweithiau gwefru. Ar hyn o bryd, dim ond dymuno cael bod yn y gêm ydym ni. Lle mae gan Gymru un pwynt gwefru wedi ei gyllido o'r pwrs cyhoeddus ar gyfer pob 100,000 o bobl, mae gan yr Alban un pwynt gwefru ar gyfer pob 7,000 o bobl. Dyna faint yr her sydd o'n blaenau ni, ac rydw i'n edrych ymlaen at fynd i Dundee cyn bo hir, sy'n ddinas sy'n gwneud gwaith rhyfeddol yn y maes yma.
Oes, mae yna rai pobl, a dweud y gwir, sydd yn efengylu am geir trydan yn troi eu trwynau ychydig bach ar y posibilrwydd o ddatblygu technolegau hydrogen ar gyfer ceir. Fy nadl i wrthyn nhw ydy bod eisiau inni edrych ar bob ffordd o sicrhau ein bod ni'n troi ein dulliau trafnidiaeth ni at ffyrdd sydd yn isel iawn, iawn, iawn neu'n ddim allyriadau o gwbl. Ac yn sicr, ym maes cerbydau masnachol, bysus a loris ac ati, rydw i'n meddwl bod ynni hydrogen rŵan, nid yn y dyfodol, yn cynnig gwir botensial. Felly, yr apêl heddiw ydy: cefnogwch y cynnig yma a gadewch inni sylweddoli bod gan, yn fan hyn, y gwaith sy'n cael ei ddatblygu yma yng Nghymru botensial i greu'r math o fyd yn ogystal â'r math o Gymru rydym ni'n chwilio amdano fo.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn heddiw, a diolch i Simon Thomas am gyflwyno'r adroddiad hwn. Hefyd, hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedodd Russell George; credaf fod hwn yn ddefnydd campus o gyllidebau ymchwil. Mae'n adroddiad ymchwil gwych ac rwy'n ei groesawu'n fawr iawn. Credaf ei bod yn deg dweud bod y dyfodol, mewn llawer o ffyrdd, yn perthyn i'r meddyliau agored, yn hytrach na'r rhai caeedig; y rhai sy'n agored i syniadau newydd; y rhai sy'n agored i her; y rhai sy'n agored i dechnoleg newydd; ac yn hollbwysig, y rhai sy'n agored i newid.
Fel y dywedodd Simon, rwy'n credu bod angen inni edrych ar rôl hydrogen yn y broses o ddatgarboneiddio trafnidiaeth o fewn cyd-destun ehangach ac integredig y rôl sydd gan hynny i'w chwarae yn datgarboneiddio ein heconomi gyfan, a'n cymunedau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Wrth ddatblygu'r ymrwymiadau o dan Ddeddf yr amgylchedd, byddwn yn lansio ymgynghoriad fis nesaf ar ein llwybrau datgarboneiddio hyd at 2030 a thu hwnt, a byddwn yn gofyn am farn ar y camau gweithredu y dylid eu blaenoriaethau ar gyfer Cymru.
Gan mai 5 y cant yn unig o hydrogen sy'n wyrdd ar hyn o bryd, mae angen inni sicrhau, wrth symud tuag at hydrogen, nad ydym drwy amryfusedd yn cyfyngu ar ein gallu i ddatgarboneiddio, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae pawb yn ei gydnabod. Felly, er mwyn gwneud hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gallwn gynhyrchu hydrogen gan ddefnyddio cynhyrchiant ynni adnewyddadwy dros ben ochr yn ochr â defnyddio dal a storio carbon ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth, ochr yn ochr â gwres, diwydiant a phŵer.
Rydym yn canolbwyntio ar ganlyniadau penodol yn ein hymrwymiad i symud tuag at sector trafnidiaeth di-garbon yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn niwtral ynghylch rôl gwahanol danwyddau a thechnolegau ar gyfer cyflawni'r nod hwn, gan gynnwys rôl hydrogen. Mae'r duedd bresennol tuag at gerbydau trydan a hybrid, ond ceir diddordeb cynyddol mewn hydrogen a gyriant celloedd tanwydd hydrogen, ac rydym eisoes yn eu cefnogi.
Mae'r cymorth gwerth £2 filiwn i Riversimple yn arwydd o'n cefnogaeth i'r newid i economi a sector trafnidiaeth carbon isel. Ariannwyd y prosiect uchelgeisiol ac ysbrydoledig hwn gennym ar adeg pan oedd llawer o'r farn ei fod yn annhebygol iawn o ddod yn fusnes hyfyw, ac rydym bellach yn helpu Cyngor Sir Fynwy i archwilio cyfleoedd i adeiladu ar y treial hydrogen Riversimple sy'n digwydd yn eu hardal mewn perthynas â thanwyddau cynaliadwy a symudedd doethach. Mae'n waith hynod o gyffrous, yn enwedig o ystyried ei fod mewn amgylchedd gwledig. Mae ein rhaglen Sêr Cymru yn ariannu ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe i danwydd hydrogen ar gyfer cerbydau ac ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n ymchwilio i dechnoleg ar gyfer cynhyrchu hydrogen gwyrdd.
Mae ein buddsoddiad o £5 biliwn yn y gwasanaeth rheilffyrdd newydd ar gyfer Cymru yn cynnwys ymrwymiad mawr i ddatgarboneiddio. Ystyriwyd yr opsiwn o dechnoleg hydrogen yn llawn gyda'r rhai a gynigiodd am wasanaeth rheilffordd Cymru a'r gororau yn ystod yr ymarfer caffael, a byddwn yn parhau i edrych am arloesedd ar y rhwydwaith yn y dyfodol. Ein nod, fel yr amlinellwyd yn—[Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs, iawn.
Ar y pwynt hwnnw, rwy'n gweld y cyhoeddiad calonogol yr wythnos hon ynglŷn â chyfleuster treialu ar gyfer rheilffyrdd, hefyd yn ne Cymru, yn eithaf agos fel y mae'n digwydd i Faglan a ffynonellau hydrogen. A fyddai honno'n ardal bosibl lle y gellid ymchwilio i hyn?
Gallai fod. Yn bendant. Yn bendant. Mae'n ychwanegu at atyniad y cyfleuster. Fel y dywedais yn y datganiad ynglŷn â'r hyn a gâi ei alw o fewn y gwasanaeth sifil a fy swyddfa yn 'Brosiect Hornby', ond a fydd yn ganolfan ragoriaeth ymchwil fyd-eang, câi hyn ei arwain gan y diwydiant yn ôl y galw ac fel y gwyddoch, neulltuir symiau mawr iawn o arian ar gyfer datblygu trenau mwy datblygedig a yrrir gan hydrogen, ac rwy'n hyderus, fel cyfleuster prawf, y gallem weld y cynhyrchion hynny, y trenau hynny, y cerbydau hynny, yn cael eu profi yng Nghymru.
Ein nod, fel yr amlinellwyd yn y cynllun gweithredu economaidd, yw gwasanaeth a sectorau bws a thacsi di-garbon o fewn 10 mlynedd, ac ar hyn o bryd rydym yn cwmpasu llwybrau posibl i hynny allu digwydd. Gallai fod rhan gan hydrogen i'w chwarae—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—yn enwedig yn y sector bysiau, ond mae bysiau hydrogen ar hyn o bryd yn denu premiwm cryn dipyn yn uwch o gymharu ag opsiynau eraill. Bydd hynny, wrth gwrs, yn lleihau dros amser wrth i fysiau hydrogen gael eu prif-ffrydio o fewn y rhwydwaith.
Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i gynorthwyo'r sector trafnidiaeth i ddatblygu a gweithredu technolegau newydd, gan adlewyrchu eu rôl yn ein llwybrau datgarboneiddio, a'r cyfleoedd y maent yn eu cynnig i economi lwyddiannus yn y dyfodol drwy gefnogi ein nodau llesiant ehangach. Credaf y bydd ein buddsoddiad yn y Cymoedd Technoleg yn annog hyn, fel y bydd ein buddsoddiad mewn busnesau megis Riversimple, ac mewn cyfleusterau megis y cyfleuster treialu rheilffyrdd sy'n mynd i gael ei adeiladu ar y ffin rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys.
O ran capasiti'r grid, ar y pwynt a gododd Russell George, buaswn yn cytuno bod angen buddsoddiad pellach ar frys mawr i gryfhau capasiti'r grid, ond rwy'n falch fod y Grid Cenedlaethol yn agor canolfan ragoriaeth ac ymchwil yng Nghymru.
Felly, diolch unwaith eto am y cyfle i drafod y mater pwysig hwn heddiw, ac i Simon Thomas yn arbennig am fy arbed rhag yr angen i wylio Match of the Day yn nes ymlaen, ar ôl iddo ddatgelu canlyniad gêm yr Almaen yng nghwpan y byd.
Diolch. A gaf fi alw ar Simon Thomas i ymateb i'r ddadl?
Diolch. A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon? Dadl fer oedd hi i nodi cyhoeddi'r adroddiad, ond gallaf addo i chi y byddaf yn eich diflasu ynglŷn â hydrogen am beth amser i ddod, ac mae yna rai eraill sy'n frwd iawn yn ei gylch hefyd, felly mae hynny'n beth da i'w weld.
Dyma dechnoleg y credaf ei bod yn gwneud llawer i dicio llawer o flychau y mae gennym ddiddordeb ynddynt yng Nghymru. Mae'n arloesol. Cafodd ei lunio yma fel mae'n digwydd, sy'n ychwanegu at y rhamant; nid oes ots mewn gwirionedd, ond mae'n ychwanegu ato. Mae'n rhywbeth sy'n datgarboneiddio ein sector trafnidiaeth ac mae ganddo botensial mewn meysydd eraill yn ogystal. Hoffwn ddweud ar y dechrau—er na fyddaf o reidrwydd yn cefnogi pob un o'r gwelliannau—fy mod yn deall ysbryd y gwelliannau hynny: maent yn adeiladol, ac rydym yn cael dadl sy'n ceisio llunio syniadau ynglŷn â'r potensial ar gyfer hydrogen.
Y peth allweddol yw bod angen inni gael hydrogen gwyrdd ar y cyfan. Ceir peth hydrogen brown fel sgil-gynnyrch a allai barhau i fod yn rhan o'r gymysgedd, rwy'n credu, ond nid yw cynhyrchu hydrogen yn uniongyrchol o danwydd ffosil yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Ond gan ddefnyddio'r hyn a ddisgrifiwyd gan Alan Whitehead sy'n siarad ar ran y Blaid Lafur yn y DU, yn y New Statesman fel, ymddangosiad llwyth mawr o bŵer amrywiadwy, sef ynni adnewyddadwy wrth gwrs, yn rhan o'r system efallai y daw'r trydan "dros ben" hwn i fod ar gael ar gyfer cynhyrchu hydrogen. Fel y dyfynnais wrth Russell yn ei gwestiynau rhesymol, mae'n ymddangos bod storio trydan dros ben fel hydrogen yr un mor gosteffeithiol—yn wir, mae rhai o'r arbenigwyr a'r rhai sy'n ei ddefnyddio yn dweud ei fod yn fwy costeffeithiol—na'i storio fel trydan. Ac felly rydym hefyd yn osgoi rhai o'r costau batri a grybwyllodd Michelle Brown, ac rwy'n golygu costau amgylcheddol yn ogystal â chost wirioneddol. Felly, mae potensial enfawr yno.
Un peth nad yw wedi'i grybwyll yn y ddadl, ac fe wnaethom ganolbwyntio ar drafnidiaeth, ond mae rôl i hydrogen mewn gwresogi. I'r rhai hynny ohonom sy'n cofio nwy tref—nid fi, ond os ydych yn cofio nwy tref—roedd oddeutu 40 y cant o nwy tref yn hydrogen. Mae yna swyddfa nwy tref yn Aberystwyth o hyd, mewn gwirionedd. Mae Aberystwyth Gas Company wedi'i ysgrifennu uwch ei phen. Arferem gynhyrchu nwy tref o lo. Arferem gywasgu glo a'i losgi er mwyn cynhyrchu hydrogen. Dyna oedd ein system nwy. Nid yw ein system nwy bresennol—y prif gyflenwad nwy—yn hoffi mwy na chanran fach iawn o hydrogen ynddo, ond mae angen inni weithio gyda'r darparwyr nwy i weld a allwn bwmpio ychydig mwy o hydrogen i mewn i'r system nwy oherwydd mae yna—. Rydym yn ei gynhyrchu ar gyfer trafnidiaeth, gallwn ei gynhyrchu ar gyfer gwres, gallwn ei gynhyrchu wedyn i ddatgarboneiddio'n ehangach yn yr economi.
A gaf fi ddweud yn olaf fod sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn llawer mwy gobeithiol na'r gwelliant gan y Llywodraeth? Felly, rwy'n mynd i bwyso ar ei sylwadau, nid y gwelliant, ac rwy'n mynd i obeithio bod hynny'n golygu y gallwn gael dadl go iawn, wrth symud ymlaen yn y Cynulliad, ac yn wir y gallwn weithio i roi Cymru ar—. Er nad yw'n seiliedig ar dechnoleg benodol, ceir cyfleoedd enfawr yma. Mae pobl yn buddsoddi eisoes, ac rwyf am weld Cymru'n bod yn rhan o hynny, ac yn arwain ar hynny. Fe gymeraf ei sylwadau, yn hytrach na'r gwelliant, fel arwydd o obaith ar gyfer y dyfodol.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, pleidleisiwn ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio.