8. Dadl Plaid Cymru: Ynni hydrogen

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:37, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon? Dadl fer oedd hi i nodi cyhoeddi'r adroddiad, ond gallaf addo i chi y byddaf yn eich diflasu ynglŷn â hydrogen am beth amser i ddod, ac mae yna rai eraill sy'n frwd iawn yn ei gylch hefyd, felly mae hynny'n beth da i'w weld.

Dyma dechnoleg y credaf ei bod yn gwneud llawer i dicio llawer o flychau y mae gennym ddiddordeb ynddynt yng Nghymru. Mae'n arloesol. Cafodd ei lunio yma fel mae'n digwydd, sy'n ychwanegu at y rhamant; nid oes ots mewn gwirionedd, ond mae'n ychwanegu ato. Mae'n rhywbeth sy'n datgarboneiddio ein sector trafnidiaeth ac mae ganddo botensial mewn meysydd eraill yn ogystal. Hoffwn ddweud ar y dechrau—er na fyddaf o reidrwydd yn cefnogi pob un o'r gwelliannau—fy mod yn deall ysbryd y gwelliannau hynny: maent yn adeiladol, ac rydym yn cael dadl sy'n ceisio llunio syniadau ynglŷn â'r potensial ar gyfer hydrogen.

Y peth allweddol yw bod angen inni gael hydrogen gwyrdd ar y cyfan. Ceir peth hydrogen brown fel sgil-gynnyrch a allai barhau i fod yn rhan o'r gymysgedd, rwy'n credu, ond nid yw cynhyrchu hydrogen yn uniongyrchol o danwydd ffosil yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Ond gan ddefnyddio'r hyn a ddisgrifiwyd gan Alan Whitehead sy'n siarad ar ran y Blaid Lafur yn y DU, yn y New Statesman fel, ymddangosiad llwyth mawr o bŵer amrywiadwy, sef ynni adnewyddadwy wrth gwrs, yn rhan o'r system efallai y daw'r trydan "dros ben" hwn i fod ar gael ar gyfer cynhyrchu hydrogen. Fel y dyfynnais wrth Russell yn ei gwestiynau rhesymol, mae'n ymddangos bod storio trydan dros ben fel hydrogen yr un mor gosteffeithiol—yn wir, mae rhai o'r arbenigwyr a'r rhai sy'n ei ddefnyddio yn dweud ei fod yn fwy costeffeithiol—na'i storio fel trydan. Ac felly rydym hefyd yn osgoi rhai o'r costau batri a grybwyllodd Michelle Brown, ac rwy'n golygu costau amgylcheddol yn ogystal â chost wirioneddol. Felly, mae potensial enfawr yno.

Un peth nad yw wedi'i grybwyll yn y ddadl, ac fe wnaethom ganolbwyntio ar drafnidiaeth, ond mae rôl i hydrogen mewn gwresogi. I'r rhai hynny ohonom sy'n cofio nwy tref—nid fi, ond os ydych yn cofio nwy tref—roedd oddeutu 40 y cant o nwy tref yn hydrogen. Mae yna swyddfa nwy tref yn Aberystwyth o hyd, mewn gwirionedd. Mae Aberystwyth Gas Company wedi'i ysgrifennu uwch ei phen. Arferem gynhyrchu nwy tref o lo. Arferem gywasgu glo a'i losgi er mwyn cynhyrchu hydrogen. Dyna oedd ein system nwy. Nid yw ein system nwy bresennol—y prif gyflenwad nwy—yn hoffi mwy na chanran fach iawn o hydrogen ynddo, ond mae angen inni weithio gyda'r darparwyr nwy i weld a allwn bwmpio ychydig mwy o hydrogen i mewn i'r system nwy oherwydd mae yna—. Rydym yn ei gynhyrchu ar gyfer trafnidiaeth, gallwn ei gynhyrchu ar gyfer gwres, gallwn ei gynhyrchu wedyn i ddatgarboneiddio'n ehangach yn yr economi.

A gaf fi ddweud yn olaf fod sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn llawer mwy gobeithiol na'r gwelliant gan y Llywodraeth? Felly, rwy'n mynd i bwyso ar ei sylwadau, nid y gwelliant, ac rwy'n mynd i obeithio bod hynny'n golygu y gallwn gael dadl go iawn, wrth symud ymlaen yn y Cynulliad, ac yn wir y gallwn weithio i roi Cymru ar—. Er nad yw'n seiliedig ar dechnoleg benodol, ceir cyfleoedd enfawr yma. Mae pobl yn buddsoddi eisoes, ac rwyf am weld Cymru'n bod yn rhan o hynny, ac yn arwain ar hynny. Fe gymeraf ei sylwadau, yn hytrach na'r gwelliant, fel arwydd o obaith ar gyfer y dyfodol.