8. Dadl Plaid Cymru: Ynni hydrogen

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:28, 27 Mehefin 2018

Roeddwn i’n teimlo’n ddrygionus iawn ychydig funudau yn ôl yn meddwl pa bleidlais frys gallem ni ei galw gan fod Plaid Cymru mewn mwyafrif dros y pleidiau eraill i gyd yma yn y Cynulliad ar hyn o bryd. [Chwerthin.]

Rydw i’n falch o gael cymryd rhan, yn fyr iawn, yn y ddadl yma, ac rydw i'n llongyfarch Simon ar y gwaith mae o wedi’i wneud yn paratoi'r adroddiad yma sy’n edrych ar botensial hydrogen ar gyfer Cymru, a’r gair 'potensial' yna sy’n bwysig i fi yn fan hyn, achos fel cymaint o dechnolegau newydd, a ffyrdd o ddefnyddio’r technolegau hynny, megis dechrau ydym ni mewn gweld pa mor bell y gallwn ni wthio’r ffiniau.

Mae angen pob arf arnom ni mewn sawl brwydr ar hyn o bryd—y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac yn amlwg mae hydrogen yn cynnig rhywbeth inni yn y maes hwnnw. Mae angen pob arf arnom ni yn y frwydr i sicrhau bod yr awyr yn lanach o’n cwmpas ni, ac mae hydrogen unwaith eto yn cynnig rhywbeth yn hynny o beth. Rydw i'n meddwl bod angen pob arf hefyd pan fo'n dod at edrych ar y potensial economaidd i Gymru. Mewn cymaint o wahanol feysydd, mae Cymru yn syrthio ar ei hôl hi, mewn meysydd amgylcheddol hefyd. Mae'r Iwerddon—efo'r Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, roeddwn i'n genfigennus iawn o'r gwaith oedd wedi cael ei wneud ar yr adroddiad 'Harnessing Our Ocean Wealth' yn edrych ar sut i gael y gorau allan o ynni morol a'r lles economaidd ac amgylcheddol fyddai'n dod o hynny.

Yn y gwaith rydw i'n trio ei wneud ar geir trydan ar hyn o bryd, rydw i'n gresynu at y ffaith ein bod ni'n syrthio ar ei hôl hi, lle mae gweddill Prydain yn datblygu ac yn buddsoddi llawer mwy mewn pwyntiau gwefru ac yn y blaen ar gyfer ceir trydan, lle'r oeddem ni ychydig flynyddoedd yn ôl yma yng Nghymru yn sôn am y posibilrwydd, fel gwlad fach, hyblyg, am allu bod yn arweinwyr mewn creu rhwydweithiau gwefru. Ar hyn o bryd, dim ond dymuno cael bod yn y gêm ydym ni. Lle mae gan Gymru un pwynt gwefru wedi ei gyllido o'r pwrs cyhoeddus ar gyfer pob 100,000 o bobl, mae gan yr Alban un pwynt gwefru ar gyfer pob 7,000 o bobl. Dyna faint yr her sydd o'n blaenau ni, ac rydw i'n edrych ymlaen at fynd i Dundee cyn bo hir, sy'n ddinas sy'n gwneud gwaith rhyfeddol yn y maes yma. 

Oes, mae yna rai pobl, a dweud y gwir, sydd yn efengylu am geir trydan yn troi eu trwynau ychydig bach ar y posibilrwydd o ddatblygu technolegau hydrogen ar gyfer ceir. Fy nadl i wrthyn nhw ydy bod eisiau inni edrych ar bob ffordd o sicrhau ein bod ni'n troi ein dulliau trafnidiaeth ni at ffyrdd sydd yn isel iawn, iawn, iawn neu'n ddim allyriadau o gwbl. Ac yn sicr, ym maes cerbydau masnachol, bysus a loris ac ati, rydw i'n meddwl bod ynni hydrogen rŵan, nid yn y dyfodol, yn cynnig gwir botensial. Felly, yr apêl heddiw ydy: cefnogwch y cynnig yma a gadewch inni sylweddoli bod gan, yn fan hyn, y gwaith sy'n cael ei ddatblygu yma yng Nghymru botensial i greu'r math o fyd yn ogystal â'r math o Gymru rydym ni'n chwilio amdano fo.