8. Dadl Plaid Cymru: Ynni hydrogen

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:17, 27 Mehefin 2018

Beth rŷm ni'n gobeithio ei weld fan hyn yw bod y Llywodraeth, a bod Cymru ei hunan yn dod yn genedl sydd yn achub y blaen ac yn arwain wrth ddatblygu y diwydiant hydrogen. Mae'n rhywbeth sydd yn ehangu yn brysur dros y byd i gyd. Mae'n rhywbeth sydd yn ychwanegu yn gryf iawn yn y gwledydd sydd â diddordeb mewn ymchwil ac mewn dulliau newydd. Mae yna gymuned hydrogen dros y byd i gyd lle mae yna rannu gwybodaeth, ac mae modd, rydw i'n credu, i ni fel cenedl sydd yn hyblyg a'r maint iawn, fel petai, gyda Llywodraeth ddyfeisgar, i arwain nifer o'r pethau yma. Byddwn i'n gobeithio'n fawr iawn—byddwn i wrth fy modd, a dweud y gwir—pe bai Llywodraeth Cymru yn gallu cynnull rhyw fath o summit neu ryw fath o uwchgyfarfod o'r cyrff yma i ddangos ein bod ni am arwain. 

Rŷm ni'n gweld bod buddsoddi yn yr economi hydrogen yn rhywbeth sy'n mynd ochr yn ochr â theithio llesol, gyda pharthau awyr glân, gyda cherbydau trydan. Nid yw hydrogen yn rhagori, fel y dywedais i, ar bob un o'r rhain; mae'n rhan o'r mesurau i fynd i'r afael â llygredd awyr a newid hinsawdd. 

Mae yna wledydd di-rif erbyn hyn yn arbrofi gyda'r dulliau yma. Mae bysys hydrogen mewn llefydd fel Aberdeen a Birmingham. Mae Llundain yn buddsoddi mewn bysys hydrogen, ac rydw i'n credu bod gyda ni ond tri bws trydan drwy Gymru i gyd. Nid yw'r rheini ar yr hewlydd eto, so rydym ar ei hôl hi go iawn. Efallai bod yr Almaen mas o Gwpan y Byd heddiw ond maen nhw'n buddsoddi mewn trenau hydrogen, gydag Awstria, Ontario a Tsieina, wrth gwrs, yn edrych i mewn i hyn hefyd. Mae Costa Rica yn wlad sydd yn edrych i fuddsoddi mewn trenau hydrogen. Mae cyfle gwych inni ddatblygu yn fanna. 

Roeddwn i'n gweld yn atodlen y gyllideb atodol fod £5 miliwn wedi cael ei sicrhau gan yr Ysgrifennydd Cabinet tuag at ddatblygiadau sydd yn dod yn sgil peidio â bwrw ymlaen gyda chynlluniau ym Mlaenau Gwent ynglŷn â Chylchdaith Cymru, a bellach maent yn edrych i mewn i'r posibiliadau o fuddsoddi mewn carbon isel ym Mlaenau Gwent. Byddai'n wych o beth gweld bod hynny hefyd yn cael ei gyfeirio tuag at ddatblygu'r economi hydrogen. Rŷm ni'n gallu arwain fan hyn. Roeddwn yn gweld dim ond yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth yr Alban wedi cefnogi llong hydrogen i gael ei hadeiladu yn yr Alban. Dyna'r cyfleoedd sydd gyda ni, ac rwy'n gobeithio'n fawr, er gwaethaf gwelliannau braidd yn ddi-ddychymyg, ddi-uchelgais y Llywodraeth, fod modd manteisio ar y dechnoleg yma ac arwain y byd.