Adroddiad 'Cadernid Meddwl'

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:36, 3 Gorffennaf 2018

Rydw innau hefyd eisiau cofrestru fy siom, a dweud y gwir, ar ymateb cwbl lipa'r Llywodraeth i argymhellion yr adroddiad yma. Yn amlwg, i fi, nid yw'r Llywodraeth yn rhannu'r un uchelgais ag aelodau'r pwyllgor o safbwynt y newid trawsnewidiol sydd ei angen yn y maes yma, yn enwedig wrth edrych ar y trajectory o ran y cynnydd yn y broblem rydym ni'n ei weld. Mae'n rhaid i ni gwrdd â'r her yna gyda llawer mwy o frwdfrydedd na derbyn mewn egwyddor, sydd, i fi, yn god, yn aml iawn, am fusnes fel arfer.

Nawr, mae cael mwy nag un Ysgrifennydd Cabinet neu mwy nag un Gweinidog yn gyfrifol am rai meysydd weithiau'n gallu bod yn gryfder, ond i fi, yn yr achos yma, mae'n amlwg yn wendid, oherwydd nid oes dim un person yn cymryd gafael, yn cymryd perchnogaeth o'r gwelliannau ac yn gyrru'r newidiadau yna drwyddo. Felly, a gaf i ofyn a wnewch chi, fel Prif Weinidog, oherwydd natur y modd y mae'r pwyllgor yn teimlo bod yn rhaid i hyn nawr fod yn flaenoriaeth genedlaethol, gymryd y rôl yna?