Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:44, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Er bod y GIG yn ddeg a thrigain oed, mae'n dal i fod y peth gorau a ddyfeisiwyd gan Gymru, ac i'r staff, wrth gwrs, y mae arnom ni'r diolch mwyaf. Felly, rwy'n sicr fy mod i'n siarad ar ran pawb yma pan ddywedaf 'diolch o galon i chi i gyd' ar ran bob un ohonom ni.

Nawr, mae poblogaeth Cymru sy'n heneiddio yn golygu nad yw gwasanaethau gofal yn gallu ymdopi â'r pwysau sydd arnyn nhw, sy'n arwain at filoedd o atgyfeiriadau diangen i'r GIG. Mae yn eich rhodd, Prif Weinidog, i greu'r gwasanaeth gofal gwladol y mae Plaid Cymru wedi dadlau o'i blaid ers cryn amser bellach, i leddfu'r pwysau hynny. A wnewch chi hynny?