Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Wel, nid yw'n eglur beth fyddai gwasanaeth gofal gwladol yn ei wneud. Mae'n iawn i ddweud bod gwaith i'w wneud o hyd i gyfochri ymhellach gwaith gwasanaethau cymdeithasol gydag iechyd. Rydym ni'n gwybod na ellir ysgaru'r ddau. Mae'r ddau yn sicr yn rhedeg law yn llaw. A dyna'r ydym ni'n ei wneud, gweithio gyda'n cydweithwyr llywodraeth leol, i wneud yn siŵr bod llai o bobl sy'n cael eu hoedi yn yr ysbyty—rydym ni'n gweld nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn gostwng—a hefyd, wrth gwrs, yn gweithio gyda darparwyr gofal sylfaenol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu darparu'r gofal sydd ei angen ar bobl er mwyn iddynt allu osgoi mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf.