Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Diolch i'r Prif Weinidog. Ar ôl siom yr wythnos diwethaf, roedd yn braf ymweld ag Ynys Môn gyda Rhun ap Iorwerth ddydd Gwener a gweld nifer o gynlluniau cyffrous yna yn ymwneud ag ynni'r môr—yn bennaf, Minesto, sydd newydd lansio eu dyfais ynni llanw yn yr harbwr yng Nghaergybi. Y cwestiwn sy'n codi yw: a yw'r £200 miliwn roeddech chi fel Llywodraeth wedi'i neilltuo i gefnogi un cynllun penodol ar gyfer y morlyn llanw ym mae Abertawe nawr ar gael ar gyfer rhychwant o ddatblygiadau ynni môr, megis yn Ynys Môn, neu ar gael ar gyfer cynllun newydd morlyn ym mae Abertawe? Beth ydych chi'n bwriadu ei wneud i arwain datblygiad yn y maes yma?