Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Yn gyntaf oll, roedd y croeso a gafodd yn y fan yna gan ei feinciau ei hun yn sylweddol, ac mae'n dangos eu bod nhw hiraeth ar ei ôl yn barod, rwy'n amau, ond yn ail, mae'n codi pwynt pwysig. Os gwnaiff ef ganiatáu i mi edrych ar y mater hwn ac ysgrifennu ato gydag ateb o sylwedd, gall ef wedyn gyfleu'r ateb hwnnw i'r rhai sydd wedi mynegi eu pryderon.