Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Mae'r adroddiad 'Mapio'r Sector Busnesau Cymdeithasol yng Nghymru' yn nodi bod y sector werth swm anhygoel o £2.37 biliwn i Gymru erbyn hyn ac yn darparu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli i tua 100,000 o bobl. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cytuno bod y sector yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'n cymdeithas.