Y Sector Cydweithredol a Chydfuddiannol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Gallaf ddechrau trwy ddweud bod Busnes Cymdeithasol Cymru wedi darparu, hyd yma, cymorth i helpu'r grŵp i ddatblygu cynllun busnes, polisi amgylchedd cynaliadwyedd, cod eco ac archwiliad iechyd cynaliadwyedd, ac rydym ni'n cyfeirio unrhyw unigolyn sy'n dymuno sefydlu model cydweithredol at Busnes Cymdeithasol Cymru, gan ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n creu'r cymorth priodol sydd ei angen, trwy Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, ni a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i wneud yn siŵr bod prosiectau gwerth chweil fel hyn yn gallu ffynnu yn y dyfodol.