Y Sector Cydweithredol a Chydfuddiannol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Dyfarnwyd cyllid craidd ar gyfer cymorth i fentrau cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon i Ganolfan Cydweithredol Cymru a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru. Maen nhw'n cynorthwyo darpariaeth ein hamcanion i ddatblygu'r farchnad mentrau cymdeithasol ac yn darparu cymorth busnes arbenigol wedi'i deilwra i fentrau cymdeithasol. I'r rhai nad ydynt yn fentrau cymdeithasol, wrth gwrs, ceir meysydd eraill o gymorth sydd ar gael. Ac, wrth gwrs, fel y soniais yn gynharach, rydym ni'n darparu cyllid tuag at brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru sydd werth £11 miliwn ac a gefnogir gan ERDF.