Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Fel y gwyddoch chi, mae'n siŵr, mae timau argyfwng wrthi yn fy ardal i ac yn gweithio’n galed iawn er mwyn diffodd tanau sydd wedi cael eu hachosi gan y tywydd sych. Mae Carmel, Bethesda a Mynydd Bangor wedi cael eu heffeithio, efo o leiaf 45 o deuluoedd wedi gorfod gadael eu cartrefi, ac rydw i yn hynod ddiolchgar i’r diffoddwyr tân, y gwasanaethau argyfwng eraill, a hefyd y cymunedau eu hunain sydd wedi dod ynghyd er mwyn cefnogi’r rheini sydd wedi eu heffeithio. Felly, a gaf i ofyn pa gysylltiad sydd yna rhwng y Llywodraeth a’r gwasanaethau lleol, ac a ydych chi’n hyderus bod ganddyn nhw adnoddau digonol er mwyn delio efo’r argyfwng hwn yn Arfon ac mewn rhannau eraill o Gymru?
A throi at fater diwygio llywodraeth leol, ychydig fisoedd yn ôl, mi gawsom ni wybod mewn blog gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol ei fod o’n mynd i symud ymlaen efo cynlluniau newydd ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol, gan roi heibio’r cynigion a oedd ym Mhapur Gwyn y Gweinidog blaenorol ar gydweithio rhanbarthol. Ddydd Gwener, mi ges i wybod drwy drydariad gan newyddiadurwr o gynhadledd y WLGA yn Llandudno bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol rŵan yn hapus i roi’r ffidil yn y to efo’i fap ad-drefnu llywodraeth leol, sydd ddim yn syndod i neb ohonom ni, nid ydw i’n meddwl. Ond efo datganiadau mor bwysig â hyn, sydd yn effeithio’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yn y dyfodol, onid ydych chi’n meddwl bod angen meddwl o ddifri ai cyhoeddi ar wefannau cymdeithasol ydy’r ffordd briodol o gyhoeddi newidiadau polisi mawr fel hyn, heb ddatganiad ysgrifenedig ffurfiol i Aelodau Cynulliad? Mae hynny, i mi, yn tanseilio hygrededd Llywodraeth Cymru, a hefyd hygrededd y Cynulliad cyfan. Felly, buaswn i’n licio cael dau ddatganiad: un yn nodi beth ydy’r ffordd ymlaen rŵan—beth nesaf i lywodraeth leol, beth nesaf ar gyfer ad-drefnu—ond hefyd buaswn i’n hoffi gwybod pa gyfarwyddiadau sydd yna i Weinidogion wrth iddyn nhw gyflwyno gwybodaeth sydd efo arwyddocâd cenedlaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol yma.