Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
O ran y tanau, hoffwn i hefyd dalu teyrnged i'r staff sydd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau diogelwch y cefn gwlad a'r bobl sy'n defnyddio'r cefn gwlad. A, Llywydd, rwy'n ailadrodd yr apeliadau gan y gwasanaeth tân i bobl fod yn ofalus iawn, er enghraifft o ran pethau fel ble y maen nhw'n parcio, i sicrhau nad yw'r bibell wacáu boeth yn cyffwrdd â glaswelltau hynod fflamadwy, er enghraifft, sydd, yn ystod y tywydd sych iawn hwn, yn gallu achosi problemau gwirioneddol. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr amgylchiadau pan fydd gennym ni ddarlun llawn o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd.
O ran diwygio llywodraeth leol, fy nealltwriaeth i yw bod y Gweinidog yn bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad pan fydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'u dadansoddi'n briodol. Roedd y sgwrs yr oedd yn ei chael yn ymwneud â'r sgwrs a oedd yn cael ei chynnal yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd, wrth gwrs, yn ymgynghoriad parhaus.