Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Yn gyntaf rwy'n mynd i adlewyrchu ar y cynnydd a wnaed ers cyn y gwasanaeth iechyd, fel y mae rhai wedi cyfeirio ato. Ddoe, roeddwn yn Ysbyty Llandochau yn edrych ar y murlun lle'r oeddent wedi datblygu rhywfaint o'r gydnabyddiaeth a'r ymchwil i niwmoconiosis. Ar ôl hynny, gwelais gwilt clytwaith yn dangos nifer o wahanol straeon am y GIG. Un ohonynt oedd mam-gu a oedd wedi gwneud cwilt clytwaith er cof am ei chwaer 10 mlwydd oed a fu farw cyn creu'r gwasanaeth iechyd gwladol am fod ei ffrog wedi mynd ar dân, ac roedd adroddiad y crwner yn dweud bod y meddyg wedi gwrthod ei gweld hi heb i’w ffi gael ei thalu. Mae hynny'n dangos y math o gynnydd sydd wedi’i wneud. Felly, er ein dadleuon i gyd, ceir cynnydd enfawr—pethau nad ydynt yn digwydd erbyn hyn, neu os ydynt, maent yn sgandal genedlaethol yn hytrach nag yn rhan gyffredin o fywyd.
Mae hefyd yn werth myfyrio ar y ffaith bod twf presgripsiynau yng Nghymru—gan eich bod chi wedi sôn am bresgripsiynau—mae’r twf wedi bod yn is yng Nghymru nag yn Lloegr ers inni gyflwyno’r polisi presgripsiynau am ddim, felly nid yw wedi arwain at roi mwy a mwy o bresgripsiynau.
O ran eich cwestiynau, rwy’n credu mai’r ddau fygythiad mwyaf sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd gwladol yw dau gwmwl storm Brexit a llymder. Os ydym yn parhau i danariannu nid yn unig y gwasanaeth iechyd, ond yr ystod ehangach o wasanaethau cyhoeddus sy’n benderfynyddion allweddol o ran iechyd pobl, byddwn yn parhau i bentyrru mwy o alw ar y gwasanaeth iechyd, a ni fydd yn cael y bai am hynny, tra bo gwasanaethau eraill yn cwyno bod mwy o arian yn mynd i mewn i'r gwasanaeth iechyd ei hun. Bydd gennym gylch anrhinweddol.
Byddwch yn cofio o ddatganiad yr wythnos diwethaf fod Brexit caled yn peri risgiau sylweddol i’r gwasanaeth iechyd gwladol. Ceir rhywfaint o ddiffyg ymwybyddiaeth ynghylch maint y risgiau hynny. Dydw i ddim yn credu ei fod yn gyflwyniad teg na chywir i ddweud bod y Llywodraeth hon mewn unrhyw ffordd yn ddifater ynghylch y risgiau hynny, nac yn ddidaro ynghylch unrhyw angen i gynllunio ar eu cyfer. Wrth gwrs rydyn ni’n cynllunio paratoadau ar gyfer Brexit caled, ond y pwynt sy’n cael ei wneud yw bod rhai o ganlyniadau Brexit caled yn amhosibl eu datrys heb oblygiadau.
Yr wythnos diwethaf, cawsom enghraifft dda iawn a godwyd gennych chi, ac rwyf wedi sôn am hon ar adegau eraill cyn hynny. Y radioisotopau a ddefnyddir ar gyfer triniaeth yn y gwasanaeth iechyd, mae bron pob un ohonynt yn dod o Amsterdam. Os cawn ni Brexit caled, fyddwn ni ddim yn gallu dyblygu cynhyrchu’r rheini rhwng nawr a mis Mawrth y flwyddyn nesaf, neu hyd yn oed yn y cyfnod pontio sy'n debygol, ac felly, yn syml, fydd dim triniaeth i’w chael mewn amrywiaeth o feysydd. Rhaid ichi fod yn onest bod hynny'n un o oblygiadau Brexit caled, ac ni allwch gadw stoc o radioisotopau. Felly, mae yna heriau sy’n gwbl amhosibl eu dyblygu os gwnawn ni adael ar delerau Brexit caled. Ac fel y dywedais yr wythnos diwethaf, y perygl mwyaf i ddyfodol y gwasanaeth iechyd, yn y dyfodol agos, yw Brexit caled. Ac, wrth gwrs, mae Simon Stevens a’r GIG yn Lloegr yn cydnabod hynny hefyd, a dyna pam maen nhw wedi sôn am y peth yn gyhoeddus.
O ran cynllunio'r gweithlu, bydd creu AGIC yn rhoi strwythur newydd i ni gynllunio ar gyfer y gweithlu cyfan. Ac, unwaith eto, ni allwn gael galwadau croes gan grwpiau staff yn gofyn am fwy ohonynt neu am grwpiau lobïo. Felly, os yw'n fwy o bobl mewn un maes meddygaeth, mwy o bobl mewn un maes nyrsio neu therapi, bydd rhaid inni edrych ar y gwasanaeth cyfan yn y cylch a chydnabod bod yno dîm o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gofal iechyd. Rwy'n disgwyl gweld gwelliant sylweddol o ran cynllunio'r gweithlu a byddwch yn gweld mwy o hynny unwaith y caiff AGIC ei greu o fis Hydref eleni ymlaen.
Ynglŷn â’ch pwynt ynghylch gofal, mae'n werth ystyried, wrth gwrs, fod gofal cymdeithasol wedi bod yn destun profion modd erioed. Rhan o'r anhawster o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yw bod y gwasanaeth iechyd am ddim, yn cael ei dalu amdano drwy drethi, a bod gofal cymdeithasol yn destun profion modd. Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yw ceisio cael gwared ar rai o’r anghydfodau am arian, fel nad yw'r dinesydd yn syrthio rhwng y craciau, rhwng y ddau wasanaeth. Dyna pam mae argymhellion yr adolygiad seneddol a’r cynllun sydd gennym ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol mor bwysig. Dyna pam rwy'n rhoi cymaint o werth ar sicrhau bod byrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cynllunio gyda'i gilydd, fel nad oes angen i’r dinesydd wybod na phoeni gormod a yw mewn gofal iechyd neu ofal cymdeithasol. Bydd yn ei gwneud yn haws i ddinasyddion gael mynediad at y gwasanaethau hynny, a dyna pam nad yw’r cynnydd ar gyllidebau cyfun yn ddim mwy na modd i gyflawni diben o wneud yn siŵr ein bod yn cael llawer mwy o werth o’r £9 biliwn o gyllid integredig sy’n bodoli yno, a llawer gwell canlyniadau. Rwy’n disgwyl y bydd y model integredig hwnnw’n sicrhau'r union ganlyniadau hynny yr hoffai pawb ohonom yn yr ystafell hon eu gweld.