– Senedd Cymru am 2:53 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Fel mae’r Aelodau’n gwybod eisoes, mae’r wythnos hon yn nodi dengmlwyddiant a thrigain ein gwasanaeth iechyd. Rydyn ni yma yng Nghymru yn arbennig o falch o’r garreg filltir hon, o gofio mai ei sefydlwr oedd ein Aneurin Bevan ni wrth gwrs. Mab i löwr o Dredegar a adawodd yr ysgol yn 13 oed ac a oedd yn ymddangos y byddai’n treulio ei fywyd yn gweithio o dan y ddaear. Oni bai am fudiad undebau llafur a ymrwymodd i hunanwelliant a chyd-gymorth, ni fyddai wedi cael yr addysg a’r cyfleoedd a’i rhoddodd yn y pen draw ar lwybr gyrfa i mewn i wleidyddiaeth.
Wrth gwrs, roedd profiadau ffurfiannol Bevan yn cyfrannu’n annileadwy at ei safbwyntiau gwleidyddol: absenoldeb gwasanaeth gofal iechyd cyffredinol, clytwaith o drefniadau lleol yn seiliedig i raddau helaeth ar y Ddeddf Tlodion Fictoraidd lle byddai pobl a oedd yn gallu talu yn cael gofal, a phobl nad oeddent yn gallu talu fel arfer ddim yn ei gael. Mae’r gwahaniaethau a'r caledi y byddai hynny’n eu creu ac yn eu cynnal y tu hwnt i ddychymyg i ni sydd wedi cael ein magu gyda'r GIG. Fodd bynnag, fel y gwyddom, rhoddodd cymdeithas leol Cymorth Meddygol Tredegar gipolwg i Bevan ar yr hyn oedd yn bosibl pan fyddai unigolion yn cymryd camau ar y cyd er budd pawb.
Mae’r brwydrau a ymladdodd Bevan i sefydlu’r GIG wedi'u dogfennu'n dda, ac roedd ei enw fel penboethyn yn sicr yn un o'r rhesymau pam cafodd ei ddewis gan Attlee ar gyfer y dasg. Yn wyneb beirniadaeth ffyrnig a phersonol iawn, llwyddodd i ddarparu system gofal iechyd gyda thair egwyddor sylfaenol sy'n dal yn wir heddiw yng Nghymru: gwasanaethau yn rhad ac am ddim yn y man defnyddio, wedi’u hariannu o drethu canolog, a phawb yn gymwys.
Mae cyflawniadau’r gwasanaeth a ddarparodd, a’r effaith gadarnhaol y mae hyn wedi’i chael ar ein cymdeithas, yn rhy niferus i’w rhestru. Ac eto mae'n llawer rhy hawdd cymryd yn ganiataol i ba raddau rydyn ni i gyd yn dibynnu ar ein gwasanaethau iechyd a gofal o'r crud i'r bedd. Mae pob un ohonom wedi elwa o ddileu clefydau a fyddai yn y gorffennol wedi llesgáu neu ladd cannoedd o bobl bob blwyddyn. Heddiw, rydym yn gallu trin neu wella afiechydon a chyflyrau a fyddai, hyd yn oed 20 mlynedd yn ôl, wedi ymddangos yn amhosibl. O ganlyniad, wrth gwrs, mae mwy ohonom yn byw'n hirach.
Ac mae'r rhain yn llwyddiannau anhygoel y dylid eu dathlu. Ond eto rydyn ni’n gwybod bod rhagor i'w wneud bob amser. Mae poblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar ein gwasanaethau. Mae cyfradd datblygiad technolegol a meddygol, sy'n gyflymach nag erioed, yn creu cyfle a disgwyliad, ynghyd â mwy o gyfyngderau cyllido ar gyfer gwasanaethau â chyllidebau cyfyngedig a llu o flaenoriaethau sy'n cystadlu. Mewn llawer o ffyrdd, does dim o hyn yn newydd. Bron o'r diwrnod cyntaf un, mae’r GIG wedi cael ei amgylchynu â dadleuon dros arian, cynyddu cyllidebau, a dadleuon dros drefniadau strwythurol a sefydliadol, capasiti a dogni gwasanaethau.
Yr hyn sy'n wahanol nawr, fodd bynnag, yw maint yr her, ei brys a maint y gweithrediad. Y llynedd yng Nghymru roedd tuag 20 miliwn o gysylltiadau â chleifion, mwy na 700,000 o apwyntiadau cleifion allanol cyntaf, mwy na 600,000 o achosion cleifion mewnol a dydd, mwy na 479,000 o alwadau am ambiwlans a mwy na 1 miliwn o bobl yn cael eu gweld yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, tra'r oedd tuag 82,000 o oedolion a thuag 16,000 o blant yn dibynnu ar gymorth gan ein gwasanaethau gofal cymdeithasol. Rhyngddynt, mae gan y gwasanaethau hyn gyllideb gyfunol o dros £9 biliwn ac maen nhw’n cyflogi gweithlu o dros 170,000 o staff. A hyn oll ar gyfer poblogaeth o ychydig dros 3 miliwn.
A phan ystyriwn heddiw, wrth gwrs, ein bod yn dal i wynebu heriau dros ystod o anghydraddoldebau iechyd. Hoffwn gydnabod nawr y gwaith arloesol sydd wedi cael ei wneud ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn ardaloedd bwrdd iechyd Cwm Taf ac Aneurin Bevan a'r arwyddion eu bod wir yn cau bwlch ar anghydraddoldebau iechyd, sy’n gamp ryfeddol. Ac mae'n werth myfyrio, wrth gwrs, ar farwolaeth y meddyg teulu o Gymru, Julian Tudor Hart, yn 91 oed ddydd Sul. Fel eraill, cwrddais ag ef a gwnaeth argraff arnaf, ond, yn fwy na hynny, mae effaith ei bapur yn The Lancet yn 1971 ar ddeddf gofal gwrthgyfartal yn parhau i ysgogi dadl a chydnabyddiaeth o’r cyfrifoldeb sydd gennym o hyd i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd.
Rydym yn gwybod bod ateb yr heriau hyn ac ymdopi â’r gwahanol ofynion a ddaw yn y dyfodol yn golygu y bydd ein gwasanaethau’n gorfod newid ac addasu, fel y maent wedi gorfod ei wneud yn y gorffennol. Dyna pam, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, y gwnaethom gomisiynu’r arolwg seneddol annibynnol i edrych ar ein system iechyd a gofal, ac, ar ôl cymryd eu cyngor ar yr hyn y mae angen ei newid, rydym wedi treulio rhan gynnar y flwyddyn hon yn gweithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, 'Cymru Iachach' yw’r cynllun iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd cyntaf yn y DU. Mae'n nodi camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd fel Llywodraeth i gefnogi ein gwasanaethau fel y gallant sicrhau'r trawsnewid sydd ei angen a sicrhau bod ein gwasanaethau’n addas i'r dyfodol.
Wrth i ni fyfyrio ar ein gorffennol a’i ddathlu, mae gennym ddewisiadau i'w gwneud ar gyfer ein dyfodol. Ni all yr ateb fod yn fwy o'r un peth. Ni allwn ganiatáu i fethiant gwasanaethau newid ein GIG. Rhaid inni rymuso a galluogi newid i wella gwasanaethau a chanlyniadau. Ac, yn hollbwysig, rhaid inni wrando ar ein staff a rhoi llwyfan iddynt i arwain dadl gyda'r cyhoedd am y dyfodol.
Pan fyddaf yn cael canmoliaeth am y gwasanaeth iechyd gwladol, mae’r llythyrau a’r sgyrsiau a gaf ynddynt eu hunain yn aml yn cyfeirio at allu technegol anhygoel y gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, maent bob amser yn sôn am bobl. Oherwydd nid brics a morter yw’r gwasanaeth— ein staff, yn anad dim, yw’r gwasanaeth iechyd. Byddai'r GIG yn goroesi hebof fi, ond ni wnaiff oroesi heb ein staff—y meddygon, y nyrsys, y therapyddion, y gwyddonwyr, y staff gweinyddol, y cogyddion, y glanhawyr, y parafeddygon, y porthorion a llawer mwy—yr holl bobl sy'n cadw ein gwasanaeth yn fyw â’u sgiliau, eu hymrwymiad a’u cydymdeimlad, ac mae’n fraint aruthrol i wasanaethu ein staff.
Wrth gwrs, y 70 mawr arall yr ydyn ni’n ei ddathlu eleni yw Windrush 70. Chwaraeodd llawer o'r genhedlaeth Windrush ran ganolog wrth lunio ein gwasanaeth iechyd gwladol, yr un bobl anhygoel sy'n cael gwrthod eu lle yn y Brydain y gwnaethant helpu i’w chreu. Y wlad hon yw eu cartref, ac mae ein gwledydd yn lleoedd gwell oherwydd cenhedlaeth Windrush, ac maent wedi cael eu had-dalu’n wael am eu teyrngarwch. Ni allwn, ac ni wnawn, ganiatáu i’w tynged nhw staenio dwylo’r genhedlaeth hon.
Mae ein GIG a’n sector gofal cymdeithasol yn ffodus o’i weithlu sydd mor fedrus ac amrywiol. Mae gennym hanes cyfoethog o groesawu pobl a gafodd eu geni neu eu hyfforddi y tu mewn a thu allan i Ewrop. Dylem eu gwerthfawrogi am fwy na’u gwasanaeth cyhoeddus ond am eu cyfraniad fel ein ffrindiau a'n cymdogion ym mhob cymuned yr ydyn ni’n byw ynddynt ac yn eu cynrychioli. Dyfyniad enwog gan Bevan yw:
'ni all unrhyw gymdeithas alw ei hun yn gymdeithas wâr mewn gwirionedd os yw’n gwrthod cymorth meddygol i rywun sâl oherwydd diffyg adnoddau.'
Mae'r Llywodraeth hon yn cadw at yr egwyddor honno heddiw, fel bryd hynny. Bydd mwy inni ei wella yma yng Nghymru bob amser, ond rwy’n falch ein bod wedi aros yn driw i ddelfrydau Bevan. Rydyn ni wedi gwrthod y farchnad o blaid system wedi’i chynllunio, rydyn ni wedi cynyddu cyllidebau’n gyflymach na dros y ffin yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi diddymu taliadau presgripsiwn ac wedi capio costau gofal cymdeithasol.
Ond nid dim ond dyn o eiriau da ac egwyddor oedd Bevan ei hun. Roedd yn rhaid iddo gyfaddawdu â realiti i gyflawni'r gamp o werth parhaol sy'n cyffwrdd ac yn gwella bywydau pob un ohonom. Pe bai yma heddiw, rwy’n credu y byddai’n cydnabod yr angen i wella ac i beidio â chael ein gadael gyda'r hyn sydd gennym yn hytrach na'r hyn yr ydym yn ei haeddu. Rwy’n credu y byddai’n cydnabod y frwydr o syniadau a’r gwrthdaro rhwng gwerthoedd. Rwy’n sicr y byddai'n cydnabod ein gwerthoedd, yn eu cefnogi ac yn ymladd drostynt.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd am gyflwyno'r datganiad heddiw. Mae'n 2018—70 mlynedd o’n gwasanaeth iechyd gwladol. Waw, mae wedi bod yn dipyn o daith. Fel chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n bendant yn cydnabod penderfyniad ac angerdd Aneurin Bevan. Fe welodd yr angen, fe adeiladodd ar syniadau a gyflwynwyd yn ystod blynyddoedd y rhyfel, ac fel rhan o Lywodraeth Attlee, gofynnwyd iddo geisio dod â’n gwlad yn ôl at ei gilydd eto. Ei ddatblygiad ef oedd y GIG, y lluniad anhygoel sydd gennym heddiw.
I sôn yn fyr iawn, Dirprwy Lywydd, am rai o'r datblygiadau arloesol a'r dathliadau anhygoel y dylen ni eu cael—1958: cyflwyno brechiadau polio a difftheria. Roedd y rhain yn arfer lladd miliynau o bobl—wedi mynd. Pa mor wych yw hynny? Ym 1968: cynhaliwyd y trawsblaniad calon cyntaf erioed ym Mhrydain yn Marylebone gan Donald Ross. Ym 1978: Louise Brown. Ym 1998: Galw Iechyd Cymru. Yn 2008: cawsom ddadl yr wythnos diwethaf am ymestyn hyn—y rhaglen genedlaethol i frechu merched rhag y feirws papiloma dynol. Am wyrthiau rhyfeddol yr ydyn ni wedi eu gwneud.
Felly, rwy’n dweud wrthych, Ysgrifennydd y Cabinet, Aneurin Bevan—dechreuodd ef rywbeth, ond ein peth ni yw e nawr, ac mae’n perthyn i ni i gyd ac i bob plaid wleidyddol, i bob gwleidydd, ond yn anad dim, i chi Vaughan, i mi Angela, ac i eraill yn yr ystafell hon. Ein GIG ni yw hwn. Achubodd fy mywyd i dair blynedd yn ôl, mae'n achub bywydau llawer o bobl, mae bob amser ar gael pan fo ei angen, ac ni ddylem anghofio hynny, a'n gwaith ni yw datblygu'r GIG hwn.
Hoffwn ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, os awn yn ôl at brif egwyddorion Bevan—hoffwn ofyn tri chwestiwn ichi am dri ohonynt. Rhannu'r cyfrifoldeb dros iechyd rhwng pobl Cymru a'r GIG: sut y gallwn wir berswadio pobl Cymru i gyd-fynd â hyn, canolbwyntio ar atal ac nid dim ond ar wella, canolbwyntio nid yn unig ar bobl sy’n amlwg yn wael, fel rhywun sydd â chanser neu wedi torri ei goes, ond pobl sydd â salwch wedi'i gladdu'n ddwfn yn eu heneidiau sydd ddim mor hawdd eu gweld, pobl â phroblemau iechyd meddwl? Sut rydyn ni’n ymdrin â’r bobl hynny sydd ddim yn sâl yn ystyr arferol y gair, ond sy’n agored i niwed, yn oedrannus, yn fregus ac mae angen yr help hwnnw arnyn nhw? Sut allwn ailysgrifennu ac atgyfnerthu’r contract hwnnw rhwng ein GIG a phobl Cymru?
Un arall o egwyddorion Bevan yw gwasanaeth sy’n gwerthfawrogi pobl, ac yn anad dim sy’n gwerthfawrogi, rwy’n tybio, y staff. Mae tua 80,000 o staff yn gweithio yn ein GIG, a dyma pam rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro am gynllun mynediad cyflym at driniaeth ar gyfer staff y GIG. Rydyn ni’n colli dros 900 mlynedd o oriau staff bob blwyddyn oherwydd bod pobl i ffwrdd, dan straen ac yn wael. Soniasoch am y llythyrau yr ydych chi’n eu cael sy’n canmol y GIG, ac rwyf fi’n cael y llythyrau hynny. Rwy’n cael llythyrau yn canmol y staff ac rwy’n cael llythyrau sy’n anobeithio pan fydd y system wedi torri i lawr, a lle mae pobl wedi'u siomi oherwydd na allant gael apwyntiad, na allant gael galwad yn ôl, na allant gael y driniaeth sydd ei hangen. Ac mae’r staff hynny sy'n darparu'r gwasanaeth GIG hwnnw inni, bob dydd, ar ddydd Nadolig, Sul y Pasg, Sul y mamau, Sul y tadau, pryd bynnag—mae angen ein cymorth ni arnynt, oherwydd maent yn gweithio mewn system sy’n ddiffygiol, sy’n gwegian ac sydd heb ddigon o adnoddau i wneud popeth. Felly, beth allwch chi ei wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau bod yr 80,000 a mwy o bobl anhygoel hynny wrth wraidd ein GIG, oherwydd os na wnawn ni hynny, bydd y 3 miliwn o bobl Cymru yn cael eu siomi, ac rydyn ni am gadw’r GIG i fynd?
Yn olaf, sut ydyn ni’n cael gwir atebolrwydd cleifion a'r cyhoedd? Hoffwn ateb hynny'n rhannol, a’ch herio chi i’w ateb yn rhannol—mae'n ymwneud â’r bêl-droed wleidyddol. Heddiw, mae Comisiwn Bevan wedi dweud bod y GIG yn cael ei ddefnyddio’n rhy aml fel pêl-droed wleidyddol. Ddydd Llun, cyhoeddodd Jeremy Hunt yr ap mwyaf rhyfeddol y gall pobl ei ddefnyddio nawr i wneud pob math o bethau, o wneud apwyntiadau a chael galwadau GIG 111, i weld beth yw eu meddyginiaeth ar bresgripsiwn i gael ail-archebu—syniad gwych. Mae arloesi gwych yn digwydd yn yr Alban, yn enwedig gyda'r dechnoleg. Yma yng Nghymru, ein trawsblannu organau ni. Mae gan y gwledydd cartref i gyd syniadau gwych. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i edrych mewn gwirionedd ar sut y gallwn ddysgu o arfer gorau nid yn unig o fewn ein gwlad ni, ond yr arfer gorau yn Lloegr, yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon, fel bod y GIG sy’n perthyn i bob unigolyn yn y Deyrnas Unedig yma ymhen 70 mlynedd, nid dim ond i Aneurin Bevan, ond i chi ac i mi, ac i bawb arall yn yr ystafell hon?
Diolch, Angela. Rwy’n croesawu’r hyn a ddywedwch am y diolch personol i'r GIG, nid dim ond gwelliant cyffredinol iechyd y cyhoedd. Soniasoch am polio, y frech goch a llu o bethau eraill a laddodd lawer o bobl yn yr 1930au, yr 1940au a'r 1950au sydd wedi cael eu dileu oherwydd bod gennym wasanaeth cyffredinol a oedd yn gallu darparu rhaglen frechu gynhwysfawr. Felly, mae wedi bod yn gamp aruthrol, ac yn union fel y mae gennych chi resymau personol dros fod yn ddiolchgar i'r GIG, mae gen innau hefyd, ac rwy’n dychmygu y bydd gan bobl eraill yn yr ystafell hon eu straeon personol eu hunain amdanynt eu hunain neu am eu hanwyliaid.
Rwy’n mynd i ddechrau â'ch pwynt am rannu cyfrifoldeb rhwng pobl a'r gwasanaeth iechyd. Rwy’n cofio mai un o'r pethau cyntaf imi bleidleisio arnynt ar ôl dod yn Aelod Cynulliad yn 2011 oedd adroddiad gan Gomisiwn Bevan am egwyddorion allweddol ar gyfer dyfodol y gwasanaeth. Roedd un o'r rheini’n ymwneud â chyfrifoldeb personol dinasyddion unigol, a bod angen inni sicrhau bod gennym sgwrs a pherthynas gadarnhaol rhwng y dinesydd, y gwasanaeth ac, wrth gwrs, weddill y wladwriaeth, oherwydd rydym yn rhannu’r cyfrifoldeb am y dewisiadau a wnawn. Mae'n un o'r pethau yr ydym yn sôn amdanynt yn rheolaidd ar bron pob prif ffactor sy’n achosi clefyd, salwch a marwolaeth—felly ysmygu, faint yr ydyn ni’n ei yfed, faint o ymarfer corff yr ydyn ni’n ei wneud a beth ydyn ni’n ei fwyta. Yn ogystal â hynny, mae angen inni wneud rhai o'r dewisiadau iachach hynny—[Anghlywadwy.]—yn haws. Mae hynny'n rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud, oherwydd os mai dim ond darlithio neu bwyntio bysedd sy’n digwydd, fe gawn yr hyn sydd gennym. Felly, mae newid eang gan y Llywodraeth, gan wasanaethau cyhoeddus ond hefyd gan y byd busnes, oherwydd mae gwaith yn cael effaith enfawr ar ganlyniadau iechyd pobl. Nid dim ond gwaith, ond mae gwaith da yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ganlyniadau pobl. Wrth gwrs, yna mae angen inni berswadio pobl i dderbyn eu mesur eu hunain ar gyfer eu cyfrifoldeb am y dewisiadau a wnânt, ac yn benodol y dewisiadau a wnawn dros ein plant.
Hoffwn droi nesaf at eich pwynt am bêl-droed wleidyddol y gwasanaeth iechyd, ac ar y naill law mae hyn, wrth gwrs, yn anochel. Bydd Aelodau Llafur yn deall ac rwy’n credu y byddan nhw, yn ddigon teg, yn cwyno am y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn cael sylw rheolaidd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Rydym wedi clywed cyn hyn y pwyntiau mai Clawdd Offa yw 'llinell bywyd a marwolaeth'. Nawr, rwy’n credu bod y pethau hynny wrth gwrs yn sicr o gynhyrchu ymateb gwleidyddol anochel a dig. Ond yr hyn y mae’n rhaid inni allu ei wneud, fodd bynnag, yw cydnabod bod arloesi yn digwydd ledled y Deyrnas Unedig, a dysgu i'w wneud. Ceir pwyntiau lle mae, a dweud y gwir, o fudd i ni weithio gyda'n gilydd. Y fisâu haen 2, er enghraifft—gofynnais i am i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, ond rwy’n gwybod bod pob sefydliad sy'n cynrychioli staff yn y DU wedi gwneud hynny, ac rwy’n gwybod hefyd bod adran iechyd y DU eisiau i’r Swyddfa Gartref yn y DU newid cwrs cyn gynted â phosibl. Felly, roedd gwneud y newid hwnnw er budd pob un o bedair rhan y DU. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y newid wedi cael ei wneud, er y byddwn yn parhau i gael dadleuon ynghylch pam na chafodd y newid ei wneud yn gynharach, ac eto rydym yn gwybod, wrth arloesi, bod pobl yn edrych ar Gymru. Rwy’n mynd i roi enghraifft ichi. O ran gwasanaethau ambiwlans, rwy’n gwybod y bydd craffu ac anghytundeb yn dal i ddigwydd ynghylch y newidiadau y dewisais eu gwneud ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans. Ac eto i gyd, os siaradwch chi â phobl o fewn y gwasanaeth ambiwlans ledled y DU, maen nhw’n dod i Gymru i edrych ar yr hyn yr ydyn ni wedi ei wneud, sut a pham, ac rydyn ni’n gweld cynlluniau peilot o Gymru, lle mae’r Alban a Lloegr yn edrych yn hynod o debyg i’r hyn yr ydyn ni wedi'i wneud yma. Wnewch chi ddim clywed Gweinidog o Loegr yn sefyll ac yn dweud ei fod yn bwriadu dysgu gan Gymru, ond dyna sy'n digwydd yn ymarferol. Felly, mewn rhyw ffordd, mae gwleidyddiaeth anochel y peth yn ymwneud â'r hyn sydd gennyn ni i’w ddysgu gan rannau eraill o'r DU, gan gynnwys Lloegr, yn ogystal â'r hyn sydd gennyn ni i’w roi.
Hoffwn ddod yn ôl at eich pwynt bod y gwasanaeth yn gwerthfawrogi pobl a’r niferoedd mawr iawn o weithwyr sydd gennyn ni. Rydyn ni’n cyflogi dros 91,000 o bobl yn y gwasanaeth a bron 80,000 cywerth ag amser llawn, ac eto mae’r nod pedwarplyg a’r angen i werthfawrogi ein staff yn rhan allweddol o 'Cymru Iachach'. Bydd lle da i weithio gyda staff brwdfrydig yn darparu gwell gwasanaeth ym mhob rhan o'r gweithgarwch, yn y gwasanaeth cyhoeddus a'r sector preifat. Rwy’n gwybod y byddwch chi’n gwybod hynny, gan eich bod wedi rhedeg eich busnes eich hun. Rwyf i'n gwybod hynny ers fy amser fy hun fel rheolwr a chyflogwr.
Ar adeg lansio’r cynllun—dyma'r pwynt rwy’n mynd i orffen arno, Dirprwy Lywydd—gwnaethom siarad â staff o fewn y gwasanaeth, ac maent yn cydnabod bod newidiadau a wnaed i'r ffordd y maen nhw’n darparu iechyd a gofal eisoes wedi cyflawni gofal o ansawdd gwell, ond hefyd le gwell iddynt weithio ynddo, ac mae’r newid hwnnw’n gymhelliant iddyn nhw. Rwy’n clywed yn rheolaidd, yn ystod pob ymweliad, ymdeimlad o rwystredigaeth ynghylch y ffordd y mae gwleidyddion yn ymddwyn ac yn sôn am y gwasanaeth a’u bod eisiau inni gael nid yn unig yr aeddfedrwydd i ddweud, 'Dyma’r heriau mawr, dewch inni greu arolwg seneddol', ond mae’n ymwneud â’r ffordd y mae pob un ohonom yn dewis ymddwyn wrth fwrw ymlaen â’r cynllun hwnnw. Hoffai’r rhan fwyaf o’r bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd gwladol weld ychydig mwy o onestrwydd am yr heriau hynny ac ychydig mwy o ryddid a chymorth i ymgymryd â’r heriau mawr yr ydyn ni’n cydnabod eu bod yn bodoli a bod yn ddigon dewr i wneud dewisiadau amdanynt yn y dyfodol.
Yn gyntaf, a gaf i ddymuno pen-blwydd hapus i sefydliad sydd mor bwysig i bob un ohonom ni?
Pen-blwydd hapus iawn i'r GIG. Mae pen-blwydd yn amser i ddathlu ac, yn fwy na dim, rwy’n credu ein bod ni’n dathlu holl staff y GIG—cannoedd ar filoedd ohonynt dros 70 o flynyddoedd sydd wedi gwneud y GIG yr hyn ydyw. Maen nhw’n ffrindiau, yn deulu, ac yn anwyliaid inni. Byddai fy mam-gu—roeddwn i’n ceisio ystyried hyn heddiw—wedi gadael y GIG yn ystod ei flynyddoedd cyntaf. Roedd hi’n nyrs yn Ysbyty Brenhinol Lerpwl ac rwy’n gwybod y byddai hi’n edrych yn ôl gyda syndod ar y GIG fel y mae heddiw. Mae unrhyw ben-blwydd yn amser i fyfyrio; mae’r 70 mlwyddiant yn amser i fyfyrio ar y gamp ynddi ei hun bod gennym GIG sydd wedi para cyhyd. Mae'n llwyddiant gwych ynddo'i hun. Pan gafodd ei greu, roedd amheuon mawr ynghylch a fyddai’n para, a fyddai'n gynaliadwy, ac a fyddai'r syniad o ddarparu gofal am ddim yn y man cyflenwi’n arwain at lu o bobl yn ceisio triniaeth am ddim. I wynebu’r risg o chwarae pêl-droed gwleidyddol, mae rhai ar yr ochr dde i wleidyddiaeth sy'n dal i gwestiynu cynaliadwyedd y GIG ac sy’n credu mai preifateiddio yw'r ffordd ymlaen ac sy’n codi ofnau am lu o bobl yn ceisio presgripsiynau am ddim ac ati. Ond rwy’n hyderus y byddwn yn edrych yn ôl ar 140 mlynedd, pan fydd 70 mlynedd arall wedi mynd heibio, ac rwy’n siŵr y bydd yr un cwestiynau am gynaliadwyedd yn cael eu gofyn bryd hynny. Ond y peth allweddol yw bod yn rhaid i bob un ohonom fod yn glir bod cynaliadwyedd yn flaenoriaeth, yn flaenoriaeth inni ym mhob peth a wnawn.
Codwyd y pwynt am ddefnyddio’r GIG fel pêl-droed wleidyddol, ac rwy’n mynd i ddweud ar y cychwyn yma nad wyf yn amau bod y Llywodraeth hon a’r Ceidwadwyr a phawb arall a gynrychiolir eisiau gweld y GIG yn perfformio cystal ag y bo modd. Mae gennym syniadau gwahanol, wrth gwrs, ynghylch sut i gyflawni hynny, ac rwy'n credu, lle y gallwn gydweithio, bod hynny er budd pawb yng Nghymru—staff y GIG a chleifion hefyd—ond mae'n bwysig ein bod yn dal y Llywodraeth i gyfrif. Ac nid wyf yn ymddiheuro—20 mlynedd ar ôl i Lafur gymryd awenau’r GIG yng Nghymru—am ofyn cwestiynau ynghylch pam rydych chi wedi methu ag ymdrin â’r heriau gweithlu fel y credaf y gellid bod wedi'i wneud; pam mae diffyg integreiddio gofal cymdeithasol o hyd; pam mae perfformiad yn dal i fod yn wael o ran amseroedd aros o'i gymharu â gwledydd eraill y DU. Ac mae cleifion a staff y GIG yn disgwyl i ni eich dal chi yn y Llywodraeth i gyfrif ar y meysydd hynny.
Rwy’n mynd i ofyn rhai cwestiynau ichi: un, rwy’n credu mai’r bygythiad mwyaf, ac rwy’n siŵr y gwnewch chi gytuno â mi, ar ddechrau ail 70 mlynedd y GIG, yw’r bygythiad gwirioneddol o Brexit caled. Byddwn yn gwerthfawrogi eich sylwadau am rai o’r—. Yr ateb sy'n peri pryder a glywais gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, pan awgrymodd nad oes paratoadau'n cael eu gwneud o fewn y GIG yng Nghymru ar gyfer Brexit caled. Awgrymodd ef nad oes unrhyw ffordd y gallai'r GIG baratoi am Brexit caled. Dydw i ddim yn credu hynny am eiliad, a nawr yw'r amser i wneud yn siŵr bod pob cam posibl—pa bynnag mor heriol—yn cael ei gymryd i'n paratoi ar gyfer Brexit caled.
Yn ail, ynghylch gwerthfawrogi staff. Byddwn yn gwerthfawrogi eich barn am sut ydyn ni’n cefnogi staff sy’n cael eu gorweithio. Gwyddom fod angen mwy o staff yn y GIG, ac, wrth gwrs, rydyn ni wedi cyflwyno syniadau fel hyfforddi meddygon, er enghraifft, ym Mangor. Mae angen inni leddfu'r straen hwnnw, ond sut fyddwch chi’n ymdrin â staff sy’n cael eu gorweithio a’r help sydd ei angen arnynt nawr?
Ac yn olaf, o ran y dyfodol, mae trydydd paragraff, rwy’n credu, eich datganiad yn cyfeirio at yr egwyddorion sylfaenol sy'n sail i'r GIG. Dydw i ddim o'r farn ein bod ni wedi cyflawni’r egwyddorion sylfaenol o ran gofal, a byddwn yn gwerthfawrogi eich sylwadau ynghylch sut ydyn ni’n cyflawni'r nod o ddarparu gofal yn ogystal â gofal iechyd i bobl Cymru, oherwydd mae’r egwyddorion hynny yr un mor bwysig mewn gofal ag y maent yn y GIG.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Yn gyntaf rwy'n mynd i adlewyrchu ar y cynnydd a wnaed ers cyn y gwasanaeth iechyd, fel y mae rhai wedi cyfeirio ato. Ddoe, roeddwn yn Ysbyty Llandochau yn edrych ar y murlun lle'r oeddent wedi datblygu rhywfaint o'r gydnabyddiaeth a'r ymchwil i niwmoconiosis. Ar ôl hynny, gwelais gwilt clytwaith yn dangos nifer o wahanol straeon am y GIG. Un ohonynt oedd mam-gu a oedd wedi gwneud cwilt clytwaith er cof am ei chwaer 10 mlwydd oed a fu farw cyn creu'r gwasanaeth iechyd gwladol am fod ei ffrog wedi mynd ar dân, ac roedd adroddiad y crwner yn dweud bod y meddyg wedi gwrthod ei gweld hi heb i’w ffi gael ei thalu. Mae hynny'n dangos y math o gynnydd sydd wedi’i wneud. Felly, er ein dadleuon i gyd, ceir cynnydd enfawr—pethau nad ydynt yn digwydd erbyn hyn, neu os ydynt, maent yn sgandal genedlaethol yn hytrach nag yn rhan gyffredin o fywyd.
Mae hefyd yn werth myfyrio ar y ffaith bod twf presgripsiynau yng Nghymru—gan eich bod chi wedi sôn am bresgripsiynau—mae’r twf wedi bod yn is yng Nghymru nag yn Lloegr ers inni gyflwyno’r polisi presgripsiynau am ddim, felly nid yw wedi arwain at roi mwy a mwy o bresgripsiynau.
O ran eich cwestiynau, rwy’n credu mai’r ddau fygythiad mwyaf sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd gwladol yw dau gwmwl storm Brexit a llymder. Os ydym yn parhau i danariannu nid yn unig y gwasanaeth iechyd, ond yr ystod ehangach o wasanaethau cyhoeddus sy’n benderfynyddion allweddol o ran iechyd pobl, byddwn yn parhau i bentyrru mwy o alw ar y gwasanaeth iechyd, a ni fydd yn cael y bai am hynny, tra bo gwasanaethau eraill yn cwyno bod mwy o arian yn mynd i mewn i'r gwasanaeth iechyd ei hun. Bydd gennym gylch anrhinweddol.
Byddwch yn cofio o ddatganiad yr wythnos diwethaf fod Brexit caled yn peri risgiau sylweddol i’r gwasanaeth iechyd gwladol. Ceir rhywfaint o ddiffyg ymwybyddiaeth ynghylch maint y risgiau hynny. Dydw i ddim yn credu ei fod yn gyflwyniad teg na chywir i ddweud bod y Llywodraeth hon mewn unrhyw ffordd yn ddifater ynghylch y risgiau hynny, nac yn ddidaro ynghylch unrhyw angen i gynllunio ar eu cyfer. Wrth gwrs rydyn ni’n cynllunio paratoadau ar gyfer Brexit caled, ond y pwynt sy’n cael ei wneud yw bod rhai o ganlyniadau Brexit caled yn amhosibl eu datrys heb oblygiadau.
Yr wythnos diwethaf, cawsom enghraifft dda iawn a godwyd gennych chi, ac rwyf wedi sôn am hon ar adegau eraill cyn hynny. Y radioisotopau a ddefnyddir ar gyfer triniaeth yn y gwasanaeth iechyd, mae bron pob un ohonynt yn dod o Amsterdam. Os cawn ni Brexit caled, fyddwn ni ddim yn gallu dyblygu cynhyrchu’r rheini rhwng nawr a mis Mawrth y flwyddyn nesaf, neu hyd yn oed yn y cyfnod pontio sy'n debygol, ac felly, yn syml, fydd dim triniaeth i’w chael mewn amrywiaeth o feysydd. Rhaid ichi fod yn onest bod hynny'n un o oblygiadau Brexit caled, ac ni allwch gadw stoc o radioisotopau. Felly, mae yna heriau sy’n gwbl amhosibl eu dyblygu os gwnawn ni adael ar delerau Brexit caled. Ac fel y dywedais yr wythnos diwethaf, y perygl mwyaf i ddyfodol y gwasanaeth iechyd, yn y dyfodol agos, yw Brexit caled. Ac, wrth gwrs, mae Simon Stevens a’r GIG yn Lloegr yn cydnabod hynny hefyd, a dyna pam maen nhw wedi sôn am y peth yn gyhoeddus.
O ran cynllunio'r gweithlu, bydd creu AGIC yn rhoi strwythur newydd i ni gynllunio ar gyfer y gweithlu cyfan. Ac, unwaith eto, ni allwn gael galwadau croes gan grwpiau staff yn gofyn am fwy ohonynt neu am grwpiau lobïo. Felly, os yw'n fwy o bobl mewn un maes meddygaeth, mwy o bobl mewn un maes nyrsio neu therapi, bydd rhaid inni edrych ar y gwasanaeth cyfan yn y cylch a chydnabod bod yno dîm o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gofal iechyd. Rwy'n disgwyl gweld gwelliant sylweddol o ran cynllunio'r gweithlu a byddwch yn gweld mwy o hynny unwaith y caiff AGIC ei greu o fis Hydref eleni ymlaen.
Ynglŷn â’ch pwynt ynghylch gofal, mae'n werth ystyried, wrth gwrs, fod gofal cymdeithasol wedi bod yn destun profion modd erioed. Rhan o'r anhawster o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yw bod y gwasanaeth iechyd am ddim, yn cael ei dalu amdano drwy drethi, a bod gofal cymdeithasol yn destun profion modd. Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yw ceisio cael gwared ar rai o’r anghydfodau am arian, fel nad yw'r dinesydd yn syrthio rhwng y craciau, rhwng y ddau wasanaeth. Dyna pam mae argymhellion yr adolygiad seneddol a’r cynllun sydd gennym ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol mor bwysig. Dyna pam rwy'n rhoi cymaint o werth ar sicrhau bod byrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cynllunio gyda'i gilydd, fel nad oes angen i’r dinesydd wybod na phoeni gormod a yw mewn gofal iechyd neu ofal cymdeithasol. Bydd yn ei gwneud yn haws i ddinasyddion gael mynediad at y gwasanaethau hynny, a dyna pam nad yw’r cynnydd ar gyllidebau cyfun yn ddim mwy na modd i gyflawni diben o wneud yn siŵr ein bod yn cael llawer mwy o werth o’r £9 biliwn o gyllid integredig sy’n bodoli yno, a llawer gwell canlyniadau. Rwy’n disgwyl y bydd y model integredig hwnnw’n sicrhau'r union ganlyniadau hynny yr hoffai pawb ohonom yn yr ystafell hon eu gweld.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n fraint enfawr gallu sefyll yma heddiw a dathlu 70 mlynedd o’r GIG.
Heb y gwasanaeth iechyd gwladol, fyddwn i ddim yn yma heddiw. Un ar ddeg mlynedd yn ôl, darganfu meddyg GIG gweithgar ganser ar fy mron a gwnaeth byddin o feddygon, nyrsys, radiograffyddion a fferyllwyr eraill gweithgar achub fy mywyd i. Heb y GIG, fyddai llawer o'm hetholwyr, fy nheulu a fy ffrindiau ddim yma. Saith deg mlynedd yn ôl, roedd y disgwyliad oes cyfartalog yn 65 oed a marwolaethau babanod o gwmpas 52 o farwolaethau i bob 1,000 o enedigaethau byw. Heddiw, gallwn ddisgwyl byw ymhell i’n 80au a’r gred yw y gallai plant sy’n cael eu geni heddiw fyw ymhell dros 100 oed. Mae marwolaethau babanod wedi gostwng i lawer llai na thair marwolaeth i bob 1,000 ac rydyn ni fwy neu lai wedi dileu llawer o'r clefydau plentyndod mwyaf.
Mae’r diolch am hyn i Gymru. Heb Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar a gweledigaeth Aneurin Bevan AS a anwyd yn Nhredegar, ni fyddai gennym GIG, a heb y GIG, ni fyddai gennym drawsblaniadau arennau, triniaeth i osod cluniau newydd, sganiau CT, trawsblaniadau mêr esgyrn na llu o welliannau gwyddoniaeth feddygol.
Yr hyn sy'n gwneud y GIG yn gymaint o lwyddiant yw’r staff. Rhaid dathlu eu hymrwymiad a'u hymroddiad ac mae arnom ni i gyd ddyled o ddiolchgarwch iddynt. O’r porthoriaid i’r pediatregyddion, o’r cynorthwywyr gweinyddol i'r anaesthetyddion, fyddai’r GIG yn ddim heb ei staff gweithgar.
Mae'r GIG yn gamp anhygoel ac yn un y dylem fod yn falch ohoni. Ond wrth ddathlu llwyddiant y 70 mlynedd diwethaf, rhaid inni hefyd edrych i'r dyfodol. Wrth i’n poblogaeth dyfu ac wrth i lawer ohonom ddatblygu cyflyrau hirdymor sy'n cyfyngu ar fywyd, a wrth i feddyginiaethau fynd yn fwy pwrpasol ac felly’n ddrutach mae’n rhaid inni addasu. Mae’r GIG heddiw yn wahanol iawn i’r GIG ym 1948 a bydd yn wahanol iawn yn y blynyddoedd i ddod.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu bod eich cynllun hirdymor yn mynd i’r cyfeiriad cywir, ond rhaid inni sicrhau bod y polisïau’n cael eu gwireddu ar lawr gwlad. Disgrifiodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygiad y GIG fel gwasanaeth gweddol, gan ddweud nad yw polisïau gwych yn cael eu troi’n arferion gwych. Beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod polisïau’n gallu cyrraedd y rheng flaen, a sut y gallwn sicrhau bod y staff yn eu derbyn? Y GIG yw’r pumed cyflogwr mwyaf yn y byd, felly bydd angen i lawer o bersonél dderbyn unrhyw newidiadau.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymdeithas Anesthetyddion Prydain Fawr ac Iwerddon, Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion a'r Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys wedi codi pryderon am effaith patrymau shifft a blinder ar weithlu'r GIG ac wedi lansio’r ymgyrch Ymladd Blinder. Mae ein GIG yn dibynnu ar y staff, a rhaid inni roi lles staff yn gyntaf. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gefnogi'r ymgyrch Ymladd Blinder a sicrhau y caiff ei chyflwyno ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r staff, unwaith eto, ac rwy’n gobeithio y gallaf chwarae rhan fach iawn i sicrhau bod y GIG o gwmpas i ddathlu ei ben-blwydd yn gant a deugain, ac yn parhau i ddarparu gofal o'r radd flaenaf yn rhad ac am ddim ar y pwynt cyflenwi. Diolch.
Diolch, Caroline. Unwaith eto, rwy’n cydnabod eich stori bersonol a'ch cydnabyddiaeth o'r ffaith bod y GIG wedi helpu i ddiogelu a chynnal eich bywyd chi, a hefyd y cynnydd aruthrol a wnaed i wella iechyd ac i ddileu achosion sylweddol o anabledd, salwch a marwolaeth. Unwaith eto, rydym i gyd wedi sôn am staff o fewn y gwasanaeth, ac mae'n hollol iawn ein bod yn gwneud hynny.
Yr her wedyn yw a ydyn ni'n barod i fwrw ymlaen â’n prif ymrwymiad i gael sgwrs am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol a chyflawni arni. Nid yw hynny'n atal pobl rhag gofyn cwestiynau lletchwith i’r Llywodraeth—ni wnaiff byth wneud hynny, ac ni ddylai—ond ceir heriau o hyd ynglŷn â sut i wneud dewisiadau pan gynigir newid mewn gwahanol rannau o'r wlad a’r hyn yr ydyn ni'n barod i’w wneud mewn gwirionedd. Nid dim ond her i un blaid yw hon, mae'n her i bob un ohonom, oherwydd bydd pob un ohonom yn cael ein herio gan newidiadau yn ein hardaloedd lleol, yr ydym yn eu cynrychioli, a gan bryder pobl oherwydd cynnig i newid rhywbeth y maen nhw’n ei werthfawrogi ac yn ei ddeall. Dyna pam mae mor bwysig bod y staff yn arwain y sgwrs, staff yn siarad â staff eraill, staff yn siarad â’r cyhoedd ac yn gwrando arnynt, oherwydd rwy’n gwarantu na chaiff 10 o wleidyddion yn sôn wrth y cyhoedd am y GIG byth eu credu o'i gymharu â llond llaw o aelodau staff yn sôn am yr heriau sy'n eu hwynebu. Mae'n hawdd deall pam mae pobl yn ymddiried yn y staff yn y modd hwnnw. Felly, mae angen inni wrando ar y staff, ond y rhanddeiliad allweddol o ran gwella iechyd y cyhoedd yw'r dinesydd unigol ei hun, yn ei gyd-destun ei hun. Mae’r dewisiadau yr ydyn ni’n eu gwneud yn cael effaith fwy o lawer ar ganlyniadau iechyd y genedl na'r gwasanaeth technegol a ddarperir gan y GIG.
Ar eich pwynt am Ymladd Blinder, yr wythnos diwethaf, cytunais ar siarter blinder gyda Chymdeithas Feddygol Prydain. Felly rwy’n edrych i weld sut y bydd yr ymgyrch Ymladd Blinder yn cysylltu â’r siarter y cytunwyd arni, oherwydd rwy’n cydnabod bod angen i’n staff allu mynd i'r gwaith ac nid dim ond bod yn hapus a brwdfrydig, ond bod ag amser i orffwys ac i gyflawni eu dyletswyddau heb ymdopi â blinder ei hun. Felly, mae gennyf ddiddordeb yn y maes, byddaf yn edrych ar yr ymgyrch sy’n cael ei lansio a sut mae hi mewn gwirionedd yn gyson â’r siarter yr wyf fi wedi cytuno arni gyda chynrychiolwyr meddygon o fewn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.
Mae'n wych defnyddio'r cyfle hwn i gydnabod holl gyflawniadau’r GIG dros y 70 mlynedd diwethaf, gan gydnabod yn enwedig y bywydau hirach a'r gostyngiad yn y gyfradd marwolaethau babanod, y gostyngiad enfawr mewn beichiogrwydd heb ei gynllunio. Ac rwy’n arbennig o falch o groesawu’r mentrau y llwyddwyd i'w cynnal yma yn benodol yng Nghymru, fel y presgripsiynau am ddim, oherwydd rwy’n credu bod hynny’n gwbl iawn o ran darparu gofal iechyd am ddim yn y pwynt galw. Credaf fod Llywodraeth Lafur Cymru yn haeddu clod mawr am gyflwyno presgripsiynau am ddim ac, wrth gwrs, y parcio am ddim hefyd. Rwy’n credu bod y parcio am ddim mewn ysbytai yn hanfodol bwysig, oherwydd y peth olaf yr ydych chi eisiau ei wneud yw poeni am ddod o hyd i arian i barcio pan ydych naill ai'n mynd i apwyntiad claf allanol neu, yn wir, yn ymweld â’ch anwyliaid. Felly, credaf fod llawer i'w ddathlu, ac afraid dweud, fy ymrwymiad llwyr a’m cefnogaeth i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros y GIG.
Ond roedd arnaf eisiau defnyddio'r cyfle hwn i sôn am y sgandal gwaed wedi'i heintio, oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn un o'r materion mawr y mae’r GIG wedi gorfod ymdopi â nhw. Roedd arnaf eisiau sôn amdano heddiw, oherwydd cafwyd cytundeb ar y cylch gorchwyl ddoe yn y Senedd, sy’n golygu y gallwn nawr symud ymlaen gyda'r ymchwiliad. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wybod, rydym i gyd wedi chwarae rhan flaenllaw gyda'r ymchwiliad hwn yma, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, gyda’r teuluoedd a’r bobl sydd wedi dioddef. Wrth gwrs, yng Nghymru, bu farw 70 o bobl o ganlyniad i’r sgandal hwn. Felly, yr hyn y mae gwir angen inni ei wneud nawr yw gwneud popeth a allwn i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael atebion. Mae dau ymchwiliad blaenorol wedi bod, ond dydy’r rheini ddim mewn gwirionedd wedi darganfod pam roedd y gwaed wedi'i heintio hwn yn dal i gael ei roi i bobl a oedd yn dioddef o hemoffilia, a bod llawer ohonynt wedyn wedi dal AIDS/HIV drwy’r gwaed wedi'i heintio.
Felly, tybed beth allai Ysgrifennydd y Cabinet ei ddweud wrthym am sut y mae’n gweld Llywodraeth Cymru yn ymwneud â hyn nawr bod yr ymchwiliad hwn wedi dechrau, ac a all y Llywodraeth gynnig unrhyw gymorth i'r grŵp sydd, o dan arweinyddiaeth Hemoffilia Cymru, yn cyflwyno achos cleifion Cymru i'r ymchwiliad cenedlaethol. Rwy’n gobeithio y gall y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed wedi'i heintio gymryd rhan fel cyfranogwr craidd, gan mai ni sydd wedi bod yn ymgyrchu am yr ymchwiliad hwn dan arweiniad barnwr, ond hoffem sicrhau bod lleisiau pawb yng Nghymru yn cael eu clywed. Felly, rwy’n credu ei bod yn briodol codi'r mater hwn ar y diwrnod pan ydyn ni’n nodi’r dengmlwyddiant a thrigain, oherwydd mae'n fater sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd sydd mor hanfodol bwysig ac mor gyfredol i lawer o'n hetholwyr yng Nghymru.
Ie, a hoffwn gydnabod yn benodol y pwynt am yr ymchwiliad i waed wedi'i heintio. Mae effaith y gwasanaeth iechyd mor fawr oherwydd ein bod yn cydnabod yr heriau a fyddai gennym hebddo. Mae hynny hefyd yn golygu bod yna adegau pan fydd gofal iechyd yn mynd o'i le ac yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl hefyd. Ac mae bob amser rhywbeth i'w ddysgu o gwynion ac o achosion pan fyddwn yn gwneud pethau'n anghywir. Ac, mewn gwirionedd, mae'r sgandal gwaed wedi'i heintio wedi arwain at welliant sylweddol yn niogelwch a'r gallu i olrhain y defnydd o waed a chynhyrchion gwaed yn ein gwasanaeth iechyd. Gallwn fod yn falch iawn o'r gwaith a wneir gan Wasanaeth Gwaed Cymru wrth arloesi amrywiaeth o wahanol ffyrdd o gyflawni buddion meddygol. Yr her wedyn, wrth edrych yn ôl, yw nid yn unig sut y byddwn yn dysgu gwersi ond yr her hon o ddeall beth ddigwyddodd mewn gwirionedd. Dyna'r gŵyn fwyaf sydd gan bobl, yn fy marn i, eu bod yn credu nad ydynt erioed wedi cael gwybod y gwir ac na wnaethant erioed gyrraedd y gwir. Felly, rwy'n croesawu nid yn unig yr ymchwiliad, ond y ffordd y mae Syr Brian Langstaff wedi mynd ati i gynnal yr ymchwiliad fel y Cadeirydd a benodwyd—barnwr sydd wedi ymddeol yn ddiweddar a dyn sy'n meddu ar unplygrwydd sylweddol. Rwy'n credu ei fod wedi datblygu ffydd gan gymuned nad oedd yn siŵr, mewn gwirionedd, y gallen nhw fod â ffydd yn yr ymchwiliad ei hun. Ac rwy'n credu hefyd y bu o gymorth i symud yr adran noddi o Adran Iechyd y DU i Swyddfa Cabinet y DU, ac rwy'n croesawu'r cam a gymerwyd i wneud hynny.
Felly, rydym ni eisiau annog pobl i roi tystiolaeth. Mae fy swyddogion yn parhau i gael sgyrsiau rheolaidd â Hemoffilia Cymru a rhanddeiliaid eraill yma yng Nghymru am eu disgwyliadau ar gyfer yr ymchwiliad a'r busnes ymarferol o sut yr ydym yn eu cefnogi i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad, gan gynnwys yma yng Nghymru. Rydym wedi gofyn am hynny a chredaf y bydd hynny'n digwydd. A'n her ni yw sut y cawn ni sgwrs â nid yn unig Swyddfa'r Cabinet, ond yr ymchwiliad ei hun ynghylch sut y mae'n mynd ati i weithredu i wneud yn siŵr y gall pobl ddweud eu stori mewn gwirionedd a gofyn cwestiynau os ydyn nhw o'r farn nad ydyn nhw wedi cael eu hateb o'r blaen. Ac, yn hynny o beth, rwy'n falch iawn fod Syr Brian wedi nodi ei fod yn disgwyl y bydd arbenigwyr ychwanegol ar gyfer rhannau penodol o'r ymchwiliad. Felly, dydyn nhw heb ddiystyru bod ag aelodau ategol ychwanegol i eistedd gydag ef pan ddaw'r trafodaethau, ond, yn y rhan casglu tystiolaeth ohono, mae'n bwriadu gwneud defnydd o arbenigedd ychwanegol ar gyfer gwahanol rannau o'r hyn a aeth o'i le ar y pryd, ac rwy'n credu bod hynny yn fantais wirioneddol. Felly, rwy'n ymdrin â hyn gyda rhywfaint o optimistiaeth bwyllog ar y cychwyn, ond byddwn, wrth gwrs, yn parhau i wrando a gweithio gyda rhanddeiliaid yma yng Nghymru.
Rwy'n croesawu'r cyfle i allu croesawu'r datganiad yma a hefyd gallu datgan pen-blwydd hapus i'r gwasanaeth iechyd yn 70 mlwydd oed. A hefyd a gaf i ddechrau drwy dalu teyrnged i Aneurin Bevan a hefyd i Dr Julian Tudor Hart, a fu farw yn y dyddiau diwethaf yma, ac y bum i'w gyfarfod ef sawl tro fel cyd-feddyg teulu yng Nghymoedd y De yma? Ond, yn y bôn, felly, rydym ni yn dathlu goroesiad gweledigaeth o driniaeth rhad ac am ddim yn seiliedig ar angen yn unig a gwasanaeth iechyd wedi'u ariannu o drethiant cyffredinol—pawb, felly, yn rhannu ac yn talu am y risg. A rhywbeth unigryw dros rhan fwyaf o'r byd, a dweud y gwir, ydy'r syniad yna bod pawb yn rhannu yn y risg yn ogystal ag yn cyfrannu i'r taliad. A'r gwasanaeth iechyd, felly, yn mynd i'r afael efo anghyfartaleddau iechyd go iawn felly, achos mae gorfod talu am driniaeth wastad yn mynd i waethygu pethau yn nhermau anghyfartaledd iechyd, gan na fydd rhai pobl yn gallu talu am y driniaeth.
Nawr, rwyf i wedi bod yn feddyg ers 38 o flynyddoedd nawr, sef dros hanner bodolaeth y gwasanaeth iechyd, ac yn falch iawn o dal i fod yn feddyg yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd y dyddiau hyn. Balchder hynod, mae'n rhaid cyfaddef, achos mae rhai pobl sy'n dod i fy ngweld i rŵan fel cleifion, roedden nhw'n blant pan wnes i ddechrau gweithio fel meddyg, a nawr maen nhw'n neiniau ac yn deidiau eu hunain, ac mae'n anrhydedd bod yn llinyn di-dor mewn bywydau nifer fawr o bobl yng Nghymru heddiw.
Nid ydym ni'n gallu gorbwysleisio'r rhyddhad o fynd ag arian allan o'r drafodaeth—o fynd ag arian allan o'r consultation. Wrth gwrs, mi ddaeth taliadau am bresgripsiwn i mewn yn 1951, ac mi wnaeth Aneurin Bevan adael y Cabinet yn sgil hynny. Ac, wrth gwrs, y Llywodraeth yn fan hyn ddaeth â'r polisi yna yn ôl i rym rhyw 11 mlynedd yn ôl. Gyda dileu talu am bresgripsiwn, rydym ni'n wirioneddol yn gallu canolbwyntio ar y triniaethau gorau, achos mae talu am bresgripsiwn yn Lloegr yn golygu eich bod chi'n talu dros £8 am bob eitem sydd ar eich presgripsiwn chi. Felly, nid oes yn rhaid i ni orfod tan-drin ein cleifion yma yng Nghymru achos ein bod ni fel meddygon yn pryderu am y gost i'r claf. Nid oes yn rhaid i ni newid y driniaeth neu beidio â phresgreibio rhywbeth o achos y gost, yma yng Nghymru, i'w gyferbynnu â'r sefyllfa dros y ffin yn Lloegr.
Byddem ni'n syfrdanu, felly, o orfod cynilo ein harian, neu werthu ein tŷ, neu dalu crocbris am gymorth iechyd—a allwch chi feddwl am y sefyllfa? Mewn sawl gwlad heddiw mae'n rhaid i chi gasglu arian cyn i chi gael llawdriniaeth; nid fel yna efo'r gwasanaeth iechyd. Ond, yn rhyfeddol, heddiw yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig, dyna yw ein sefyllfa ni efo gofal cymdeithasol. Mae disgwyl i bobl arbed eu harian, i gynilo. Mae disgwyl iddyn nhw, weithiau, werthu eu tŷ. Mae disgwyl iddyn nhw, weithiau, dalu crocbris am gymorth gofal cymdeithasol heddiw. Buaswn i'n dweud, wrth inni ddathlu gwasanaeth iechyd am ddim yn seiliedig ar angen yn unig, wedi'i ariannu o drethiant cyffredinol, fod angen yr un un ateb i ofal cymdeithasol, a chael hwnnw am ddim, ar sail gwasanaeth gofal cymdeithasol cenedlaethol. A fyddech chi'n cytuno?
Diolch i chi am eich sylwadau. Yn rhyfedd ddigon, fe wnaethoch chi sôn am Julian Tudor Hart—dyn yr ydych chi wedi ei gyfarfod sawl gwaith eich hun—cyfarfûm ag ef ddiwethaf yng nghyfadran de-orllewin Cymru o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ac roedd yn dal ganddo ddigon i'w ddweud ar yr adeg honno, fel yr oedd ganddo bob amser. Rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych yn ei ddweud am rannu risg a rhannu buddion, ac rydym yn gweld gwledydd datblygedig—nid dim ond gwledydd datblygol y byd, gwledydd datblygedig—lle nad oes ganddyn nhw yr un mynediad breintiedig ag sydd gennym ni fel hawl yn y wlad hon, yr Unol Daleithiau yw'r enghraifft fwyaf amlwg, lle mae pobl yn dal i fod yn methu fforddio yr hyn y byddem ni yn ei ystyried yn ofal iechyd sylfaenol.
Ar eich her ynghylch cyllido gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yn 'Cymru Iachach', fe wnaethom ymrwymo i adolygu anghenion yn y dyfodol ar sail gofal cymdeithasol ac i wneud hynny mewn partneriaeth â llywodraeth leol ac, yn benodol, Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, ond i adolygu'r cyllid i fynd gyda hynny hefyd. Yn hynny o beth, yn yr wythnos ddiwethaf cawsom yr adroddiad gan Gerry Holtham, yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer y dyfodol a'r opsiynau posibl ar gyfer sut y gallem ni ddewis defnyddio ein pwerau yn y lle hwn i lenwi'r bwlch yn y cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol. Byddwn i'n falch iawn pe na fyddai angen i ni wneud hynny, pe byddai yna setliad gwahanol ar lefel y DU ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ond ni ddylem ni aros i hynny fod yn wir. Mae ei gynnig ef o greu cronfa sy'n cael ei neilltuo at ddibenion gofal cymdeithasol yn arbennig o ddiddorol, ac mae Gweinidogion o bob rhan o'r Llywodraeth yn edrych ar y cynigion hynny i geisio deall beth y mae'r cynigion hyn yn ei olygu i ni. Rwy'n edrych ymlaen at amrywiaeth o ymgysylltiad traws-sector ac ymwneud yn yr hyn y mae'r cynigion yn ei olygu, oherwydd mae hon yn her i'r wlad ac nid dim ond i un blaid wleidyddol.
Mae gennyf ddau siaradwr arall, a galwaf ar y ddau ohonyn nhw er ein bod ni'n brin o amser, ond dydy hynny ddim yn arwydd y gallwch chi fynd ymlaen am bum munud, ac rwy'n siŵr na wnewch chi, y naill na'r llall ohonoch chi. David Rees.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a wnaf i ddim. A gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'n gyfle i mi gofnodi fy niolch a fy ngwerthfawrogiad o holl staff y GIG sydd wedi gweithio dros y 70 mlynedd hynny ac sy'n dal i weithio ac a fydd yn gweithio yn y blynyddoedd sydd i ddod. Eto rwy'n cofnodi, Dirprwy Lywydd, fod fy ngwraig yn un o'r aelodau staff hynny ar hyn o bryd. A gaf i hefyd dalu teyrnged i Dr Julian Hart, a fu farw ddydd Sul? Wrth gwrs, roedd yn feddyg teulu yng Nglyncorrwg yn fy Nghwm Afan i. Mewn gwirionedd, gweithiodd ochr yn ochr â Dr Brian Gibbons, fy rhagflaenydd, a chyn Weinidog iechyd hefyd. Felly, mae'n adnabyddus i lawer ohonom ni, ac mae ei golli yn golled drist i gymdeithas oherwydd y gwaith a wnaeth dros gymunedau difreintiedig, yn enwedig yn y Cymoedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi tynnu sylw at nifer o faterion, a chredaf efallai mai un o'r pethau mwyaf yr ydych chi wedi tynnu sylw ato yw'r ddealltwriaeth bod angen newid, ac mae'n rhaid inni rymuso'r newid hwnnw, o fewn y gwasanaeth a hefyd o fewn y cyhoedd. Rhan o'n swyddogaeth ni fel gwleidyddion yw derbyn yr her honno ac arwain y newid hwnnw—[Anghlywadwy.]—unrhyw le arall ac i gydnabod na allwn ni ddal ati i ddweud, 'Wel, roedd yn gweithio'n well 10 mlynedd yn ôl, felly dyna'r ffordd y mae'n rhaid iddo aros', ond wrth wneud hynny, mae angen inni hefyd felly edrych ar strategaethau ar gyfer y newid hwnnw. Yn amlwg, yn ddiweddar, yn fy ardal i fy hun, rydym ni wedi gweld newid yn y strategaeth o gau gwelyau fel enghraifft, ond nid oes gennym ni strategaeth glinigol. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio cynlluniau a rhaglenni gwych—y cynllun cyflawni gofal canser, y cynllun gofal anadlol, a llawer o rai eraill—ond y cwestiwn yr wyf i eisiau ei ofyn yw: ble mae'r ystyriaeth gydgysylltiedig i sicrhau y gall yr holl gynlluniau hyn weithio gyda'i gilydd i gyflawni strategaeth glinigol ar gyfer y gwasanaeth cyfan, a sut mae'r byrddau iechyd hefyd yn sicrhau bod ganddyn nhw strategaeth glinigol? Felly, pan fyddwn yn dod ar draws gwasanaeth sy'n gweithio'n well, sy'n gwella oherwydd mesurau effeithlonrwydd, yn hytrach na chau gwelyau rydym yn ystyried sut orau y gallwn ni ddefnyddio'r gwelyau hynny i wella'r strategaethau mewn meysydd eraill i ddarparu'r gwasanaeth ar gyfer ein cleifion. Rwy'n credu bod hynny'n gam pwysig ymlaen oherwydd yr wyf i—fel Angela Burns—eisiau ei weld, nid dim ond am 30 mlynedd neu 70 o flynyddoedd—a byddaf i ddim yma mewn 70 mlynedd—ond am flynyddoedd i ddod, fel bod gan ein plant ni, eu hwyrion a'u plant hwythau y tu hwnt i hynny wasanaeth y gallan nhw ddibynnu arno am ddim pan fydd ei angen. Mae gen i chwaer yn America, ac nid oes ganddi hi'r gwasanaeth hwnnw. Credwch chi fi, dydyn ni ddim eisiau gweld unrhyw beth tebyg i hynny. Mae angen inni sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn parhau, ond mae'n rhaid inni groesawu newid, ond hefyd newid sy'n mynd â ni gydag ef, ac sy'n cario cleifion gydag ef. Felly, mae hynny'n bwysig.
A gaf i hefyd ofyn y cwestiwn: roedd Rhaglen De Cymru yn amlwg yn un o'r dulliau hyn y byddem ni'n gweld y newid hwn yn ei sgil, ond ychydig iawn yr wyf i'n ei weld o ganlyniad i Raglen De Cymru, felly pryd fyddwn ni'n gweld mwy ar hynny i sicrhau y bydd y newid yn y gwasanaeth, a gafodd ei arwain gan glinigwyr, yn sicrhau y newidiadau hynny y mae eu hangen arnom ni mor druenus? Oherwydd rydym ni'n gwybod bod her anodd o'n blaenau. Rydym ni'n gwybod bod yr adnoddau yn anodd.
Yn olaf, o ran y gweithlu, rwy'n credu bod Rhun ap Iorwerth wedi codi pwynt pwysig iawn ynghylch sut yr ydym ni'n ei ddatblygu, a gwnaethoch chi ateb yn eithaf da. Nid yw'n ymwneud â nyrsys a meddygon yn unig; mae'n ymwneud ag amrywiaeth eang o staff. A allwch chi sicrhau bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cwmpasu'r amrediad eang hwnnw o staff, ac, os ydym ni'n sôn am offer newydd, fod gennym ni hefyd y staff ychwanegol i ddefnyddio'r offer newydd hwnnw? Oherwydd mae sganiwr tomograffeg allyrru positronau mewn ysbyty newydd yn wych, ond mae angen staff i weithredu'r sganiwr PET hwnnw, ac mae'r staff hynny yn bwysig i'r ddarpariaeth.
Da clywed sôn am un o'm rhagflaenwyr, Dr Gibbons, a welais yn ddiweddar, wrth gyfeirio at Julian Tudor Hart hefyd—ac mae Dr Gibbons yn dal i fod yn llawn syniadau a safbwyntiau ynghylch dyfodol y gwasanaeth.
O ran eich pwynt ynglŷn â strategaeth glinigol, mae yna her ynghylch beth ddylai fod yn genedlaethol a beth ddylai fod yn rhanbarthol, a sut mae angen i'r strategaeth glinigol gyd-fynd a chael ei chynllunio ar y cyd â'r strategaeth gofal ehangach yn y rhanbarthau. Dyna pam yr ydym ni'n edrych ar sut mae gan ofal cymdeithasol ac iechyd gynlluniau lefel uchel sydd wedi'u cynllunio gyda'i gilydd, yn ogystal, yn wir, â sut mae'r byrddau iechyd eu hunain yn gweithio ochr yn ochr. Felly, mae'r gwaith y mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, er enghraifft, yn raddol yn gwneud mwy ohono gyda Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn bwysig iawn. Mae ganddyn nhw ddarlun mwy cydgysylltiedig o ba wasanaethau y dylid eu darparu ymhle, a beth y mae hynny'n ei olygu o ran mynediad a rhagoriaeth y gwasanaethau hynny hefyd, heb anghofio, wrth gwrs, ein bod ni eisiau cynnal gwasanaethau lleol o hyd. Pan fyddwn yn sôn am uno gwasanaethau, mae'r pwyslais unwaith eto yn aml ar wasanaethau ysbyty yn hytrach na lle mae mwy na 90 y cant o ymadweithiau salwch yn digwydd. Daw hynny eto yn ôl at y pwynt am ein staff, a phwysigrwydd hanfodol mai'r staff sy'n arwain sgwrs am ba fath o newid a pham mae'n beth da neu beidio. Fel yr oeddwn yn dweud, dydy'r ffaith fy mod i'n mynd yno mewn siwt ddim yn mynd i argyhoeddi criw mawr o bobl beth ddylai dyfodol y gwasanaeth fod—mae cael chwech o wahanol weithwyr iechyd a gofal yn argyhoeddi llawer, llawer mwy, yn enwedig os ydyn nhw'n cael eu hadnabod fel pobl sy'n byw yn y gymuned honno ac sy'n gwasanaethu'r gymuned arbennig honno, lle bynnag y bo.
Mae eich pwynt ynghylch Rhaglen De Cymru yn un da. Cafodd ei harwain gan glinigwyr. Cafwyd cytundeb ar yr hyn y dylid ei wneud, ac rydym wedi cyflawni nifer o'r pethau hynny. Ond, unwaith eto, mae'n ddefnyddiol yn tynnu sylw at y pwynt ynghylch cyflymder a maint y newid. Rydym ni wedi cymryd amser hir i beidio â darparu'r rhaglen gyfan, a dyna un o'r pethau y mae angen i ni allu ei oresgyn a'i osgoi yn y dyfodol, oherwydd mae'r cyflymder yr ydym ni'n gallu symud ymlaen yn peri rhwystredigaeth i bawb, mae'n gwneud pobl yn bryderus ynghylch a fydd newid yn digwydd mewn gwirionedd ac mae'n golygu nad ydym yn cyflawni'r gwelliannau yr ydym yn cydnabod sy'n angenrheidiol mor gyflym ag y bo modd. Felly, ydy, mae gwaith de Cymru yn dal i gael ei gyflawni, ac mae blociau adeiladu allweddol wedi digwydd, ond rwyf eisiau gweld hyn yn digwydd yn llawer cyflymach yn y dyfodol ar gyfer y newid yr ydym ni'n sôn amdano. Fel arall, bydd pwy bynnag fydd yn fy olynu i yn y swydd hon ar ryw adeg yn y dyfodol yn dal i fod yn sôn am yr un pethau, yr un heriau a'r un problemau, heb allu gwneud i newid ddigwydd. Gallaf eich sicrhau chi, gobeithio, y bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn defnyddio dull holl staff ar gyfer pob gradd a math o staff. Mae'n ymwneud â gweithredu mewn dull cyfannol a gwirioneddol integredig ar ddyfodol y staff y mae eu hangen arnom heddiw, ac, wrth gwrs, ar gyfer yfory.
Yn olaf, Jane Hutt.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ben-blwydd y GIG yn saith deg? Cafodd ei eni yng Nghymru o ganlyniad i un dyn, Aneurin Bevan, a oedd â'r ewyllys gwleidyddol ac argyhoeddiad cryf a gweledigaeth i fwrw ymlaen â hyn, gan ddatblygu ar y Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar leol, fel y dywedasoch, a'i hysbrydolodd cymaint.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai nad ydych chi wedi cael y cyfle yn eich amserlen brysur i weld y gerdd i'r GIG a grëwyd gan y bardd o Gymru Owen Sheers a'i ffilm To Provide All People. Cafodd ei darlledu yr wythnos diwethaf a phenwythnos diwethaf. Dewisodd anrhydeddu ei ysbyty cyffredinol dosbarth lleol, Nevill Hall, ac mewn rhagolwg yn y Radio Times—cafodd ei ffilmio yn Ysbyty Nevill Hall—siaradodd fel teyrnged i Ysbyty Nevill Hall, lle cafodd ei fam ei phen-glin newydd, lle cafodd ei ferch ei geni'n gynnar gan dderbyn gofal a achubodd ei bywyd, a lle mae ei ferch hynaf yn mynychu clinigau offthalmoleg. A wnewch chi ymuno ag Owen Sheers a minnau i ddiolch i staff Ysbyty Nevill Hall am eu hymroddiad i ofal a rhagoriaeth glinigol, y gwyddom y cânt eu hailadrodd yn ein hysbytai ledled Cymru? A fyddech chi hefyd yn cytuno ag Owen Sheers pan fo'n disgrifio'r hyn a gyflawnodd Nye Bevan—creu'r GIG fel cofeb gymunedol, ac eto darparu gofal i'r unigolyn, a diwallu anghenion iechyd y boblogaeth? A ydych chi'n cytuno mai dyma sut y mae'n rhaid i ni gynnal a diogelu ein GIG yng Nghymru?
Hoffwn i hefyd roi teyrnged i Dr Julian Tudor Hart, a fu farw dros y penwythnos yn dilyn ymddeoliad gweithgar iawn, yn arwain y Gymdeithas Iechyd Sosialaidd, ar ôl 30 mlynedd fel 'math newydd o feddyg'. Ysgrifennodd lyfr am hynny, yn amlwg, o'i brofiad yn ei ganolfan iechyd yng Nglyncorrwg, pan ysbrydolodd Dr Brian Gibbons i ddod o Iwerddon i weithio yno ac yna i ddod yn Weinidog iechyd yma. Roedd Julian yn ddylanwad enfawr arnaf i cyn imi ddod yn Aelod o'r Cynulliad a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyntaf. Yn ystod fy nghyfnod yn y swydd honno, bu'n ddylanwad ysbrydoledig a chefnogol yn y dyddiau cynnar hynny. Hoffwn ichi fynegi unwaith eto eich bod yn cydnabod ei gyfraniad i'r gyfraith gofal gwrthgyfartal. Edrychais ar y papur yn The Lancet a ysgrifennodd—roedd hynny yn ôl yn 1971—ac yn y crynodeb mae'n dweud:
Mae argaeledd gofal meddygol da yn tueddu i amrywio yn wrthgyfartal â'r angen amdano yn y boblogaeth a wasanaethir. Mae'r gyfraith gofal gwrthgyfartal hon yn gweithredu'n fwy cyflawn lle mae gofal meddygol fwyaf agored i rymoedd y farchnad, a llai felly pan fo amlygiad o'r fath yn llai.
A ydych chi'n cytuno ei bod yn dal yn berthnasol heddiw fel tystiolaeth, a bod gennym ni ddyletswydd yma yng Nghymru i sicrhau mai ein polisi a'n hymrwymiad ni yw darparu gofal iechyd am ddim i bawb, heb effaith negyddol grymoedd y farchnad?
Bydd gwaith Julian Tudor Hart yn parhau i herio nid yn unig y rhan hon o system y gwasanaeth iechyd gwladol, ond mewn gwirionedd bob rhan o'r byd datblygedig. Yr her yw mai'r rhai sydd fwyaf angen gofal meddygol yw'r lleiaf tebygol o'i dderbyn a'i ddefnyddio, er bod y rhai hynny â'r angen lleiaf am ofal iechyd yn tueddu i ddefnyddio gwasanaethau iechyd yn fwy, ac yn fwy effeithiol. Mae hynny'n her i amrywiaeth o'n gwasanaethau cyhoeddus, mewn gwirionedd, nid dim ond y gwasanaeth iechyd. Dyna pam mae'n arbennig o ddiddorol—a soniais amdano yn fy natganiad agoriadol—eich bod yn gallu gweld byrddau iechyd prifysgol Cwm Taf ac Aneurin Bevan yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar eu gwaith ar raglen y gyfraith gofal gwrthgyfartal. Mae hynny'n achos gwirioneddol inni ddathlu, eu bod yn troi'r gornel ar anghydraddoldeb iechyd. Yr her erbyn hyn, fel yn achos cymaint o rai eraill, yw gallu ei gyflwyno'n fwy cyson ar draws y wlad.
Rwy'n cydnabod eto y pwyntiau a wnaed am y cyfraniad a'r fantais gymunedol ac unigol i'r gwasanaeth iechyd. Rwyf wedi cael amser i wylio To Provide All People. Fe wnes i ei mwynhau yn fawr: amrywiaeth o straeon, a'r actorion yn darllen geiriau a ddarparwyd gan bobl yn disgrifio eu profiad gwirioneddol o'r gwasanaeth iechyd mewn amrywiaeth o wahanol feysydd. Doedd e' ddim yn waith ffuglen. Roedd yn adrodd straeon am bobl yn y gwasanaeth ac o'i gwmpas. Roedd yn arbennig o drist i mi oherwydd dyna lle bu farw fy nhad—Ysbyty Nevill Hall. Rwy'n cofio cael galwad ddagreuol gan fy mam a mynd i'r tŷ lle'r oeddynt wedi ymddeol iddo yn Llangynidr a dod o hyd i olion y fan lle'r oedd fy nhad wedi cael codwm, ymweld ag ef yn yr ysbyty, siarad ag ef. Fi oedd yr un olaf yn fy nheulu i siarad ag ef yn Nevill Hall. Nid y ffaith eu bod wedi gofalu am fy nhad yn unig yr wyf yn ei gofio, ond rwy'n cofio'n arbennig am y caredigrwydd a'r tosturi y gwnaethant ei ddangos i fy mam. Ni allai hi dderbyn nad oedd e'n mynd i ddod yn ôl. Pan oedd ar beiriant anadlu, doedd hi ddim yn credu nad oedd e'n mynd i ddod yn ôl, ac roedd y ffaith iddynt wneud hynny'n dyner, ond gwneud hynny fel y dylasent fod wedi'i wneud, heb roi gobaith ffug, yn garedigrwydd mawr, yn fy marn i. Rwy'n credu mai'r caredigrwydd a'r tosturi hwnnw yw'r hyn y mae pobl yn ei gofio pan fyddan nhw'n meddwl am y rhan orau o'n gwasanaeth iechyd—nid dim ond y peiriannau, ond y bobl sy'n rhoi ac yn darparu'r gofal.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.