Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Rwy'n croesawu'r cyfle i allu croesawu'r datganiad yma a hefyd gallu datgan pen-blwydd hapus i'r gwasanaeth iechyd yn 70 mlwydd oed. A hefyd a gaf i ddechrau drwy dalu teyrnged i Aneurin Bevan a hefyd i Dr Julian Tudor Hart, a fu farw yn y dyddiau diwethaf yma, ac y bum i'w gyfarfod ef sawl tro fel cyd-feddyg teulu yng Nghymoedd y De yma? Ond, yn y bôn, felly, rydym ni yn dathlu goroesiad gweledigaeth o driniaeth rhad ac am ddim yn seiliedig ar angen yn unig a gwasanaeth iechyd wedi'u ariannu o drethiant cyffredinol—pawb, felly, yn rhannu ac yn talu am y risg. A rhywbeth unigryw dros rhan fwyaf o'r byd, a dweud y gwir, ydy'r syniad yna bod pawb yn rhannu yn y risg yn ogystal ag yn cyfrannu i'r taliad. A'r gwasanaeth iechyd, felly, yn mynd i'r afael efo anghyfartaleddau iechyd go iawn felly, achos mae gorfod talu am driniaeth wastad yn mynd i waethygu pethau yn nhermau anghyfartaledd iechyd, gan na fydd rhai pobl yn gallu talu am y driniaeth.
Nawr, rwyf i wedi bod yn feddyg ers 38 o flynyddoedd nawr, sef dros hanner bodolaeth y gwasanaeth iechyd, ac yn falch iawn o dal i fod yn feddyg yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd y dyddiau hyn. Balchder hynod, mae'n rhaid cyfaddef, achos mae rhai pobl sy'n dod i fy ngweld i rŵan fel cleifion, roedden nhw'n blant pan wnes i ddechrau gweithio fel meddyg, a nawr maen nhw'n neiniau ac yn deidiau eu hunain, ac mae'n anrhydedd bod yn llinyn di-dor mewn bywydau nifer fawr o bobl yng Nghymru heddiw.
Nid ydym ni'n gallu gorbwysleisio'r rhyddhad o fynd ag arian allan o'r drafodaeth—o fynd ag arian allan o'r consultation. Wrth gwrs, mi ddaeth taliadau am bresgripsiwn i mewn yn 1951, ac mi wnaeth Aneurin Bevan adael y Cabinet yn sgil hynny. Ac, wrth gwrs, y Llywodraeth yn fan hyn ddaeth â'r polisi yna yn ôl i rym rhyw 11 mlynedd yn ôl. Gyda dileu talu am bresgripsiwn, rydym ni'n wirioneddol yn gallu canolbwyntio ar y triniaethau gorau, achos mae talu am bresgripsiwn yn Lloegr yn golygu eich bod chi'n talu dros £8 am bob eitem sydd ar eich presgripsiwn chi. Felly, nid oes yn rhaid i ni orfod tan-drin ein cleifion yma yng Nghymru achos ein bod ni fel meddygon yn pryderu am y gost i'r claf. Nid oes yn rhaid i ni newid y driniaeth neu beidio â phresgreibio rhywbeth o achos y gost, yma yng Nghymru, i'w gyferbynnu â'r sefyllfa dros y ffin yn Lloegr.
Byddem ni'n syfrdanu, felly, o orfod cynilo ein harian, neu werthu ein tŷ, neu dalu crocbris am gymorth iechyd—a allwch chi feddwl am y sefyllfa? Mewn sawl gwlad heddiw mae'n rhaid i chi gasglu arian cyn i chi gael llawdriniaeth; nid fel yna efo'r gwasanaeth iechyd. Ond, yn rhyfeddol, heddiw yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig, dyna yw ein sefyllfa ni efo gofal cymdeithasol. Mae disgwyl i bobl arbed eu harian, i gynilo. Mae disgwyl iddyn nhw, weithiau, werthu eu tŷ. Mae disgwyl iddyn nhw, weithiau, dalu crocbris am gymorth gofal cymdeithasol heddiw. Buaswn i'n dweud, wrth inni ddathlu gwasanaeth iechyd am ddim yn seiliedig ar angen yn unig, wedi'i ariannu o drethiant cyffredinol, fod angen yr un un ateb i ofal cymdeithasol, a chael hwnnw am ddim, ar sail gwasanaeth gofal cymdeithasol cenedlaethol. A fyddech chi'n cytuno?