Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
A allaf i ddiolch hefyd i’r Gweinidog am ei ddatganiad? Ie, yn wir, rhaglen gwella bywydau'r sawl sydd ag anabledd dysgu—wrth gwrs, o’r teitl yna, a hefyd o'm profiad personol dros y blynyddoedd, mae gwir angen gwella bywydau'r sawl sydd ag anabledd dysgu achos, yn wir iawn, mae’r bobl hyn wedi cael eu hanghofio. Buasai’n well imi ddatgan rŵan fy mod i wedi bod yn ymddiriedolwr efo Pobl yn Gyntaf Abertawe, Swansea People First—y mudiad i bobl ag anabledd dysgu—ers bron 20 mlynedd nawr, rydw i’n credu. Mae gyda ni brofiad helaeth yn lleol efo’r cydlynu y mae ei angen efo gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal hefyd. Ond, yn gyntaf, rydw i’n nodi'r gwaith rhagorol y mae’r sector wirfoddol yn ei wneud yn y maes yma. Mae Pobl yn Gyntaf Abertawe, fel mudiadau cyffelyb drwyddi draw yng Nghymru, yn rhoi cefnogaeth fendigedig i’n pobl. Ond, wrth gwrs, mae yna her sylweddol—nid oes byth ddigon o adnoddau, mae yna golli gwasanaethau, mae materion wastad yn llwm, mae’r system o dan straen, mae’r gweithwyr cefnogol wastad yn newid achos eu bod nhw’n colli swyddi neu am eu bod nhw ar gontractau byrdymor.
Ac, wrth gwrs, fel mae Pobl yn Gyntaf yn Abertawe yn rhedeg, rydym ni’n cael cyfarfodydd, yn naturiol, fel bwrdd rheoli sydd yn cynnwys pobl ag anabledd dysgu eu hunain. Maen nhw ar y bwrdd rheoli hefyd, ac rydym ni’n cynhyrchu cofnodion ac ati mewn iaith y mae pawb yn gallu ei deall, gyda lluniau ac ati. Mae eisiau mwy o’r math yna o gydweithio a hefyd darparu gwybodaeth. Mae cyngor Dinas a Sir Abertawe, i fod yn deg, yn rhan o hyn yn aml ac yn gwneud hefyd yn y maes pan fyddan nhw’n gallu, wrth gwrs, mewn system hefyd sydd o dan straen, ac yn gwneud gwaith clodwiw iawn.
Rydw i’n croesawu’r bwriad bod gwahanol sectorau yn cydweithio â’i gilydd, achos yn ddirfawr mae angen i’r gwahanol sectorau fod yn cydweithio â’i gilydd, yn enwedig mewn amseroedd o lymder fel yr ŷm ni, a lle mae cyllidebau yn brin iawn. Ond, o gydnabod yr angen i gydweithio, mae angen jest i bobl allu gweithio yn y lle cyntaf—hynny yw, bod digon o staff gyda ni, yn enwedig yn yr ochr nyrsio cymunedol yn y sector gofal, y nyrsys arbenigol yna sydd yn gallu gofalu am y sawl ag anableddau dysgu ac weithiau ag angenrheidiau sydd yn gymhleth iawn. Rydym ni wedi gweld dros y blynyddoedd diwethaf yma ddirywiad yn niferoedd y nyrsys arbenigol, yn enwedig yn gweithio yn y gymuned ac yn ein gwasanaethau cymdeithasol. Felly, mae hynny’n her, a buaswn i’n gofyn i’r Gweinidog amlinellu beth y mae o’n mynd i’w wneud ynglŷn â’r her yna. Rydw i’n siŵr bod yna lot o waith yn digwydd y tu ôl i’r llenni, wrth gwrs. O’r datganiad yma’r prynhawn yma, nid ydym ni’n gallu gweld y manylion i gyd, ond mae’n deg nodi bod yna bryderon ynglŷn â staffio.
Mae yna bryderon hefyd ynglŷn â’r angen i gyllido prosiectau tymor hir. Rydw i’n ymwybodol bod Pobl yn Gyntaf, dros y blynyddoedd, wedi bod yn cynnig am wahanol brosiectau, ac, wrth gwrs, maen nhw’n brosiectau bendigedig, maen nhw’n cael eu hariannu, ac, wrth gwrs, wedyn mae’r arian yn rhedeg allan ac mae’r prosiect yn dod i ben, rydym ni’n colli’r staff, mae’n rhaid dod i fyny â syniad newydd am brosiect, ac mae’n rhaid cynnig am ragor o bres. Mae’r holl beth hyn yn sugno egni mewn system sydd o dan ddigon o bwysau eisoes.
Fy mhwynt olaf i—. Yn ogystal â’r holl gydweithio yma, mae ein pobl ni ag anabledd dysgu angen gwaith, angen gyrfaoedd. Dewch i nodi’r ffigurau—dim ond 6 y cant o oedolion ag anabledd dysgu sydd mewn gwaith. Mae bod mewn gwaith yn un o’r pethau pwysicaf y gall unrhyw unigolyn fod ynddo fo. Mae yn ein diffinio ni fel unigolion, ac eto rydym ni’n amddifadu ein pobl ni ag anabledd dysgu o’r gobaith yna yn aml iawn. Rwy’n clywed beth yr ydych chi’n ei ddweud ynglŷn â’r angen i ariannu prosiectau sydd yn cynnal pobl mewn llefydd gwaith er mwyn iddyn nhw gael profiad o waith, ond mae eisiau bod yn llawer yn fwy rhagweithiol na hynny; mae’n rhaid inni, rydw i’n credu, gael rhaglen bwrpasol o wneud yn siŵr bod ein pobl ni ag anabledd dysgu mewn gwaith yn y lle cyntaf, a gwneud hynny yn flaenoriaeth. Diolch yn fawr.