5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau

– Senedd Cymru am 4:19 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:19, 3 Gorffennaf 2018

Felly, yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Huw Irranca-Davies.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

Llywydd, diolch yn fawr iawn am y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y rhaglen gwella bywydau ar ôl cyhoeddi'r adroddiad yr wythnos diwethaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:19, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r adolygiad traws-Lywodraeth hwn o bolisi, gwasanaethau a chyllid anabledd dysgu yn deillio o'n hymrwymiad i wella bywydau ein dinasyddion ac ymdrin ag anghydraddoldebau lle bynnag y maen nhw'n bodoli. Comisiynwyd y gwaith hwn gan sawl un o'm cyd-Weinidogion, ac rydym wedi ymdrin â'r mater gan edrych ar hyd y cwrs bywyd cyfan, sy'n cwmpasu blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, cyflogaeth a sgiliau. Rwy'n falch tu hwnt o gael cymaint o bobl i'n cefnogi wrth i ni Gwrandawsom ar brofiad o fywyd gwirioneddol pobl, gan fod hynny'n rhoi cipolwg i ni o'r mannau y mae angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw er mwyn cael yr effaith fwyaf. Dywedodd pobl wrthym, er bod ardaloedd bychan o arfer da a gwasanaethau cryf, fod gormod o bobl yn dal i orfod brwydro i gael y cymorth a'r addasiadau i'r gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen i'w galluogi i fyw bywydau cyffredin.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:20, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gwbl ganolog i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a 'Ffyniant i bawb', mae'r angen i ganoli ein gwasanaethau ar yr unigolyn ac i feithrin gallu ein cymunedau i gefnogi gwell iechyd a lles. Fel Llywodraeth, mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl i gael eu cynnwys yn fwy helaeth yn eu cymunedau. Credaf fod y rhaglen gwella bywydau yn rhoi inni'r trywydd i gyflawni hyn ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd.

Mae'r argymhellion yn eang. Serch hynny, credaf mai'r tair blaenoriaeth flaenaf yw: lleihau anghydraddoldebau iechyd, cynyddu integreiddio yn y gymuned a gwella systemau cynllunio ac ariannu.

Mae tystiolaeth o nifer o adroddiadau yn dangos bod disgwyliad oes pobl ag anabledd dysgu gryn dipyn yn is nag eiddo eraill yn ein poblogaeth. Mae'r rhaglen gwella bywydau yn gwneud ymgais i leihau'r anghydraddoldeb hwn ac atal marwolaethau cynamserol. Bydd addasiadau rhesymol yn yr holl leoliadau gofal iechyd yn galluogi pobl i gael gafael ar wasanaethau priodol yn brydlon. Mae archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yn bwysig ac mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i archwilio'r ffyrdd o gynyddu'r archwiliadau hyn. Mae hyn yn cynnwys datblygu llythyr gwahoddiad safonol a syml, ar sail Cymru gyfan, yn hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng cydweithwyr yn y gwasanaethau gofal sylfaenol ac anabledd dysgu i sicrhau y bydd pob un sy'n gymwys am wiriadau iechyd yn hysbys i'r gwasanaethau.

Yn ein hysbytai cyffredinol, ein nod yw cynyddu'r defnydd o'r pecynnau gofal, a lansiwyd yn wreiddiol yn 2014, yn dilyn adroddiad crwner i farwolaeth Paul Ridd, y mae ei deulu erbyn hyn yn rhedeg y Paul Ridd Foundation—partner allweddol wrth gefnogi ein gwaith ar anghydraddoldebau iechyd. Mae gan y Paul Ridd Foundation raglen lawn o hyfforddi hyrwyddwyr anabledd dysgu mewn ysbytai ac mae wedi sicrhau bod gan wardiau ledled Cymru ffolder adnoddau i gefnogi'r defnydd o becynnau gofal.

Ein hail flaenoriaeth yw mwy o integreiddio yn y gymuned. Bythefnos yn ôl, ymwelais ag un o brosiectau cyfeillgarwch Mencap Cymru a chefais fy nharo gan y profiadau personol o stigma ac unigedd yr oedd y plant a'r bobl ifanc yn sôn amdanynt. Dywedasant wrthyf  hefyd eu bod yn teimlo bod gwahaniaeth rhwng y dyheadau sydd gan gymdeithas ar eu cyfer nhw a'r dyheadau ar gyfer pobl ifanc yn gyffredinol. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau i gyd yn cytuno ei bod yn flaenoriaeth allweddol mynd i'r afael â'r stigma y mae pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd yn ei wynebu. Mae angen inni bwyso am yr un newid agwedd yr ydym yn dechrau ei weld gydag iechyd meddwl, gan ddathlu'r cyfraniad y mae pobl ag anabledd dysgu yn ei wneud i'n cymunedau, a defnyddio ein ffrydiau ariannu i sicrhau bod pobl yn cyflawni eu dyheadau.

Felly, bydd rhai o'r pethau y bwriadwn eu gwneud yn cynnwys: gweithio gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio i gynyddu'r dewis o dai a sicrhau bod pobl yn byw yn nes at eu cartref, drwy'r agenda 20,000 o gartrefi newydd wedi'i thargedu; gan ddefnyddio'r rhaglen gronfa gyfalaf gofal integredig dair blynedd gwerth £105 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i gefnogi pobl ag anabledd dysgu i fyw bywydau annibynnol a llwyddiannus—rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda byrddau'r partneriaethau rhanbarthol i sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu gan yr hwb hwn mewn buddsoddiad; a chefnogi prosiectau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu drwy gangen refeniw'r gronfa gofal integredig, yr ydym eto wedi dyrannu £50 miliwn iddi yn 2018-19. Ehangwyd cwmpas y gronfa i gynnwys meysydd blaenoriaethu y byrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer integreiddio, gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu. Mae hyn wedi arwain at gefnogaeth ariannol i amrywiaeth eang o brosiectau sy'n golygu mwy o integreiddio cymunedol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.

Yn olaf, byddwn i gyd yn cydnabod mai un o'r ffyrdd mwyaf pwerus o sicrhau bod pobl yn teimlo'n integredig yn eu cymunedau yw sicrhau bod pobl yn cael llwybr i waith. Gyda dim ond 6 y cant o bobl ag anabledd dysgu mewn cyflogaeth â thâl, rwy'n cydnabod anferthedd yr her a wynebwn. Felly, byddaf yn gweithio gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymchwilio i ddewisiadau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu i gael gafael ar gymorth cyflogadwyedd, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno lleoliadau gwaith cyflogedig a gynorthwyir.

Ein blaenoriaeth derfynol yw'r angen i edrych ar wella data a'r cyllid sydd ar gael. Mae'r cofrestri gwasanaethau cymdeithasol yn dangos bod 15,000 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, ond credir bod llawer mwy na hynny nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn cael gwasanaethau. Wrth i anghenion y bobl hyn newid, mae'n debyg iawn y bydd angen mwy o gymorth arnyn nhw. Felly, cynigir ein bod yn cynnal ymchwil ac yn casglu data ar boblogaeth y rhai ag anabledd dysgu yng Nghymru i ddeall eu hanghenion yn well i'r dyfodol.

Mae angen inni hefyd wneud gwell defnydd o'r cyllid presennol drwy edrych ar sut mae taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio ac ailddyrannu cyllid iechyd a gofal cymdeithasol i alluogi cytundeb cyflym ar becynnau gofal, ynghyd â chomisiynu gwasanaethau ar y cyd.

Felly, rwy'n ddyledus i gefnogaeth y grŵp cynghori gweinidogol ar anabledd dysgu wrth gynhyrchu'r adroddiad hwn a'r argymhellion. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â nhw a'r cadeirydd, Mrs Gwenda Thomas, a'r cyd-gadeirydd, Miss Sophie Hinksman, i ddarparu gwasanaethau a fydd yn wir yn gwella bywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:26, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad. Fel cadeirydd grwpiau trawsbleidiol, gan gynnwys anabledd ac awtistiaeth, rwy'n cymeradwyo eich datganiad: ceir ardaloedd bychan o arfer da, ond mae gormod o bobl yn gorfod brwydro i gael cymorth ac addasiadau i'r gwasanaethau sydd eu hangen i'w caniatáu i fyw bywydau cyffredin.

Rydych yn cyfeirio at weithio gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio. Sut, ochr yn ochr â hi, y byddwch yn edrych ar adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a ystyriwyd yn ddiweddar gan y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, a ddangosodd mai dim ond un yn unig o 22 o awdurdodau Cymru sydd â tharged canrannol ar gyfer cartrefi hygyrch a fforddiadwy, a hefyd ar bryder a godwyd yn fy ngwaith achos fy hun yn y gogledd bod diffyg cysylltiad rhwng anghenion unigolion, yn enwedig ar y sbectrwm awtistiaeth, i fyw'n annibynnol gyda chymorth priodol, ac ymwybyddiaeth awdurdod lleol a'i ymgysylltiad, yn aml, â darparwyr tai cymdeithasol, fel Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf, sy'n gweithio yn fy rhanbarth i, i gynllunio a darparu'r rheini? Oherwydd pan fyddan nhw'n gwneud hynny'n iawn, gall chwyldroi ansawdd ac annibyniaeth bywydau.

Rydych yn cyfeirio at fyrddau partneriaethau rhanbarthol. Sut ydych yn cyfeirio at y pryder, y gwn iddo gael ei fynegi ichi gan Gynghrair Henoed Cymru ddechrau'r flwyddyn hon, bod cynrychiolwyr y trydydd sector, gan gynnwys yn y maes hwn, ar fyrddau'r partneriaethau rhanbarthol hynny'n teimlo eu bod wedi eu gwthio i'r cyrion? Roedd hon yn farn neu'n bryder a fynegwyd imi hefyd mor ddiweddar â dydd Gwener diwethaf—pan agorais, gyda phrif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, y Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain yn y gogledd—gan gynrychiolwyr o fyrddau partneriaethau rhanbarthol a oedd yn bresennol fel gwesteion.

Rydych yn cyfeirio at sicrhau bod pobl yn cael llwybr i waith. Pa gysylltiad yr ydych chi, neu eich cyd-Aelodau, wedi ei gael gyda thimau partneriaeth cymunedol newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau, sydd wedi cael eu recriwtio yn allanol, o'r trydydd sector yn bennaf? Cyfarfûm â phobl yn fy ardal i yn ddiweddar sydd wedi gweithio yn flaenorol mewn elusen awtistiaeth ac i Remploy, yn cyflawni prosiect 12 mis i gefnogi pobl sy'n agored i niwed, i uwchsgilio staff Canolfan Byd Gwaith a chodi pontydd rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Roeddech yn cyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn yr adroddiad yr ydych yn gwneud datganiad arno, ac, wrth gwrs, mae hon yn gosod dyletswydd arbennig ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cysylltiad y bobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth. Mae 'Rhan 2 y Cod Ymarfer (Swyddogaethau Cyffredinol)' yn pwysleisio hynny'n fawr, gan roi hawliau a chyfrifoldebau clir a diamwys ar y bobl. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r sefyllfa, er enghraifft, sy'n bodoli yn Wrecsam ar hyn o bryd, lle mae newidiadau o fewn gwasanaethau addysg ac anabledd i oedolion i'r prosiect cyfleoedd gwaith yn Wrecsam yn bygwth swyddi tua 100 o bobl ag anawsterau dysgu? Mae nifer o deuluoedd yn dweud wrthyf i fod gwasanaethau oedolion Wrecsam yn adolygu'r prosiectau, ac fel rhan o'r adolygiad, yn cynnal cyfnod ymgynghori. Ond mae amodau'r adolygiad a'r ymgynghoriad yn gamarweiniol, ac yn awgrymu bod y gwasanaethau cymdeithasol yn gwrando ar yr hyn y mae'r rhieni yn ei ddweud ac yn cymryd hynny i ystyriaeth cyn y gwneir penderfyniad, er mai'r gwir amdani yw bod y penderfyniad eisoes wedi cael ei wneud. Roedd y swyddog yn honni, medden nhw, fod yr adolygiad yn cael ei gynnal i fodloni meini prawf y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ond nid ydyn nhw'n gweld sut y gall hynny fod yn wir.

Dim ond dau grŵp yn olaf, os caf i sôn amdanyn nhw—. Fel y gwyddoch, mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi tynnu sylw at bryder ynglŷn â'r bwlch cyrhaeddiad parhaus i ddysgwyr byddar. Fel y dywedant, nid yw byddardod yn anhawster dysgu, ond caiff dysgwyr byddar eu hanablu gan annhegwch parhaus o ran canlyniad. Maen nhw 26.2 y cant yn llai tebygol o gael gradd A i C yn yr iaith Gymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, mewn cyfuniad, na phoblogaeth ysgol yn gyffredinol. Wrth gwrs, mae hyn wedi bod yn digwydd ers i mi fod yn y lle hwn. A hefyd, er pryder iddyn nhw, er bod plant byddar yn cael trafferth i gael cydnabyddiaeth a dealltwriaeth o'u hanghenion gofal cymdeithasol, mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015 yn dweud:

'Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson sy’n cynnal asesiad...yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymhwysedd i gynnal yr asesiad o dan sylw', yn achos plentyn byddar, yn rhy aml, nid yw'r asesiadau yn cael eu llywio gan wybodaeth arbenigol o anghenion gofal cymdeithasol plant byddar.

Yn olaf, o ran y digwyddiad a gynhaliais amser cinio heddiw ar gyfer Epilepsi Cymru, roeddwn yn llywyddu yn eu digwyddiad blynyddol Cefnogi Pobl ag Epilepsi yng Nghymru, a gofynnwyd imi godi'r pwyntiau olaf hyn. Mae gan un o bob pump o bobl ag epilepsi anhawster dysgu. Mae gan rai ag epilepsi cymhleth yn gyffredin iawn anawsterau dysgu amrywiol yn gydamserol, ond nid yw pobl ag epilepsi cymhleth yn gallu cael triniaeth neu wasanaethau fel, ac yn arbennig, y deiet keto, er bod hon yn driniaeth reng-flaen a argymhellir gan ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ac a argymhellir gan NICE hefyd ar gyfer plant ag epilepsi wedi'r defnydd aflwyddiannus o ddau gyffur rheng-flaen. Maen nhw'n mynegi pryder ynghylch ymwybyddiaeth a gwasanaethau cymorth. Maen nhw'n mynegi pryder ynghylch gwasanaethau cymorth iechyd meddwl. Maen nhw'n mynegi pryder ynghylch ymchwiliadau pellach pan na fydd y diagnosis yn amlwg, gan gynnwys yr angen am brofion genetig, nad oedden nhw, fel y clywsom gan y bobl oedd yn bresennol, yn aml yn cael eu cynnig.

Byddaf yn cloi ar y pwynt hwnnw. Gallwn i, yn anffodus, fel y gallwch ddychmygu, fynd ymlaen drwy'r dydd ar y pwnc hwn. Ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n rhoi ystyriaeth wirioneddol i'r pryderon hyn a godwyd, bob un ohonyn nhw, gan rai nad ydyn nhw'n wleidyddion a heb gysylltiadau pleidiol wleidyddol.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:32, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Mark. Rwy'n credu bod efallai tua saith neu wyth pwynt yma, felly rwy'n mynd i geisio, os gallaf, ymdrin â nhw cyn gynted â phosibl. Yn gyntaf, o ran adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sy'n gwneud rhai argymhellion yn ôl themâu fel cartrefi mwy hygyrch a hyblyg, gosod addasiadau yn y cartref, paru pobl â'r bobl iawn y mae eu hangen arnyn nhw, a chefnogi pobl sy'n byw yn annibynnol, wel, mae hynny'n syrthio i raddau helaeth iawn i mewn i'r ffrydiau gwaith yr ydym wedi eu nodi bellach yn y rhaglen byw yn annibynnol hon a'r grŵp gweinidogol hefyd. Felly, byddwn yn gweithio oddi mewn i hynny i sicrhau y bydd yn gyflymach ac yn haws i bobl gael addasiadau defnyddiol yn ôl yr angen i hwyluso'r mynediad at adeiladu'r cyfleusterau.

Rydym yn casglu data hefyd ar hyn o bryd i'n helpu i ddeall sut y gallwn symleiddio'r broses hon eto. Felly, byddwn yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad hwnnw yn ofalus, a bydd hynny'n gymorth i ni lywio ein gwaith parhaus, gyda'r awdurdodau lleol, mae'n rhaid i mi ddweud, hefyd, ac â phartneriaid eraill, i wella'r mynediad at gartrefi addas. O ran ymgysylltu â thimau partneriaeth cymunedol yr Adran Gwaith a Phensiynau, byddaf yn gwneud yn siŵr fod gennym yr ymgysylltiad parhaus hwnnw â nhw. Mae'n bwysig cael gwaith cydgysylltiedig ar draws gwahanol ffrydiau o Lywodraeth, yn ddatganoledig ac yn annatganoledig hefyd.

O ran gwasanaethau i oedolion Wrecsam, rwy'n siŵr y byddan nhw wedi clywed y pwynt a wnaeth ef heddiw. Ond, os hoffai ysgrifennu ataf gyda rhagor o wybodaeth, byddaf yn hapus i ofyn i'm swyddogion wneud ymholiadau ynghylch unrhyw beth a godir ganddo.

Yn ddiweddar bûm yn bresennol mewn grŵp trawsbleidiol byddardod a cholli clyw, lle codwyd rhai o'r materion hyn, a chodais i nhw ar unwaith gyda'm swyddogion. Mae'n bwysig bod yr asesiad priodol yn cael ei gynnal gan awdurdodau lleol a bod y gwasanaethau arbenigol cywir yn cael eu darparu.

Ar y pwyntiau a godwyd ynglŷn ag epilepsi, byddaf yn siŵr o fynd â'r rheini yn ôl gyda mi. Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, wedi bod yn gwrando hefyd, a byddaf yn mynd â'r rheini yn ôl ato fel y gallwn eu trafod ymhellach.

O ran byrddau partneriaeth rhanbarthol, Mark, rydych chi'n hollol iawn. Codwyd y pwynt am ymgysylltiad ystyrlon. Yn wir, ceir rhai arferion gwirioneddol dda, ac mae un o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cael ei gadeirio'n fedrus iawn gan bartner trydydd sector, sy'n cynrychioli estyniad eang iawn o sefydliadau trydydd sector, ac mae'n iawn gweithio dda iawn mewn rhai achosion; mewn achosion eraill, gwledd sy'n esblygu yw hi, gan fod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn bethau cymharol ddiweddar. Ond, rwyf wedi gwneud hynny'n wir, ac mewn gwirionedd rwyf wrthi ar hyn o bryd yn mynd o amgylch y byrddau partneriaeth rhanbarthol, a dyna un o'r pethau y byddaf yn eu pwysleisio wrth i mi fynd o'u cwmpas, yr ymgysylltiad ystyrlon â gwerth cymdeithasol, â sefydliadau trydydd sector—o ran darparu, a hefyd ar lefel strategol. Credaf fod hynny wedi ymdrin â'r holl bwyntiau, ond, os wyf wedi hepgor unrhyw bwynt, byddaf yn hapus i sgwrsio â chi wedyn hefyd.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:35, 3 Gorffennaf 2018

A allaf i ddiolch hefyd i’r Gweinidog am ei ddatganiad? Ie, yn wir, rhaglen gwella bywydau'r sawl sydd ag anabledd dysgu—wrth gwrs, o’r teitl yna, a hefyd o'm profiad personol dros y blynyddoedd, mae gwir angen gwella bywydau'r sawl sydd ag anabledd dysgu achos, yn wir iawn, mae’r bobl hyn wedi cael eu hanghofio. Buasai’n well imi ddatgan rŵan fy mod i wedi bod yn ymddiriedolwr efo Pobl yn Gyntaf Abertawe, Swansea People First—y mudiad i bobl ag anabledd dysgu—ers bron 20 mlynedd nawr, rydw i’n credu. Mae gyda ni brofiad helaeth yn lleol efo’r cydlynu y mae ei angen efo gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal hefyd. Ond, yn gyntaf, rydw i’n nodi'r gwaith rhagorol y mae’r sector wirfoddol yn ei wneud yn y maes yma. Mae Pobl yn Gyntaf Abertawe, fel mudiadau cyffelyb drwyddi draw yng Nghymru, yn rhoi cefnogaeth fendigedig i’n pobl. Ond, wrth gwrs, mae yna her sylweddol—nid oes byth ddigon o adnoddau, mae yna golli gwasanaethau, mae materion wastad yn llwm, mae’r system o dan straen, mae’r gweithwyr cefnogol wastad yn newid achos eu bod nhw’n colli swyddi neu am eu bod nhw ar gontractau byrdymor.

Ac, wrth gwrs, fel mae Pobl yn Gyntaf yn Abertawe yn rhedeg, rydym ni’n cael cyfarfodydd, yn naturiol, fel bwrdd rheoli sydd yn cynnwys pobl ag anabledd dysgu eu hunain. Maen nhw ar y bwrdd rheoli hefyd, ac rydym ni’n cynhyrchu cofnodion ac ati mewn iaith y mae pawb yn gallu ei deall, gyda lluniau ac ati. Mae eisiau mwy o’r math yna o gydweithio a hefyd darparu gwybodaeth. Mae cyngor Dinas a Sir Abertawe, i fod yn deg, yn rhan o hyn yn aml ac yn gwneud hefyd yn y maes pan fyddan nhw’n gallu, wrth gwrs, mewn system hefyd sydd o dan straen, ac yn gwneud gwaith clodwiw iawn.

Rydw i’n croesawu’r bwriad bod gwahanol sectorau yn cydweithio â’i gilydd, achos yn ddirfawr mae angen i’r gwahanol sectorau fod yn cydweithio â’i gilydd, yn enwedig mewn amseroedd o lymder fel yr ŷm ni, a lle mae cyllidebau yn brin iawn. Ond, o gydnabod yr angen i gydweithio, mae angen jest i bobl allu gweithio yn y lle cyntaf—hynny yw, bod digon o staff gyda ni, yn enwedig yn yr ochr nyrsio cymunedol yn y sector gofal, y nyrsys arbenigol yna sydd yn gallu gofalu am y sawl ag anableddau dysgu ac weithiau ag angenrheidiau sydd yn gymhleth iawn. Rydym ni wedi gweld dros y blynyddoedd diwethaf yma ddirywiad yn niferoedd y nyrsys arbenigol, yn enwedig yn gweithio yn y gymuned ac yn ein gwasanaethau cymdeithasol. Felly, mae hynny’n her, a buaswn i’n gofyn i’r Gweinidog amlinellu beth y mae o’n mynd i’w wneud ynglŷn â’r her yna. Rydw i’n siŵr bod yna lot o waith yn digwydd y tu ôl i’r llenni, wrth gwrs. O’r datganiad yma’r prynhawn yma, nid ydym ni’n gallu gweld y manylion i gyd, ond mae’n deg nodi bod yna bryderon ynglŷn â staffio.

Mae yna bryderon hefyd ynglŷn â’r angen i gyllido prosiectau tymor hir. Rydw i’n ymwybodol bod Pobl yn Gyntaf, dros y blynyddoedd, wedi bod yn cynnig am wahanol brosiectau, ac, wrth gwrs, maen nhw’n brosiectau bendigedig, maen nhw’n cael eu hariannu, ac, wrth gwrs, wedyn mae’r arian yn rhedeg allan ac mae’r prosiect yn dod i ben, rydym ni’n colli’r staff, mae’n rhaid dod i fyny â syniad newydd am brosiect, ac mae’n rhaid cynnig am ragor o bres. Mae’r holl beth hyn yn sugno egni mewn system sydd o dan ddigon o bwysau eisoes.

Fy mhwynt olaf i—. Yn ogystal â’r holl gydweithio yma, mae ein pobl ni ag anabledd dysgu angen gwaith, angen gyrfaoedd. Dewch i nodi’r ffigurau—dim ond 6 y cant o oedolion ag anabledd dysgu sydd mewn gwaith. Mae bod mewn gwaith yn un o’r pethau pwysicaf y gall unrhyw unigolyn fod ynddo fo. Mae yn ein diffinio ni fel unigolion, ac eto rydym ni’n amddifadu ein pobl ni ag anabledd dysgu o’r gobaith yna yn aml iawn. Rwy’n clywed beth yr ydych chi’n ei ddweud ynglŷn â’r angen i ariannu prosiectau sydd yn cynnal pobl mewn llefydd gwaith er mwyn iddyn nhw gael profiad o waith, ond mae eisiau bod yn llawer yn fwy rhagweithiol na hynny; mae’n rhaid inni, rydw i’n credu, gael rhaglen bwrpasol o wneud yn siŵr bod ein pobl ni ag anabledd dysgu mewn gwaith yn y lle cyntaf, a gwneud hynny yn flaenoriaeth. Diolch yn fawr.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Ceir rhai pwysig pwyntiau yma. Yn gyntaf oll, diolch i chi ac i eraill sydd yn gweithio gyda sefydliadau sy'n cynrychioli pobl ag anableddau dysgu—eich swyddogaeth gyda Phobl yn Gyntaf Abertawe. Ond ceir llawer o rai eraill ledled y wlad, mewn gwirionedd, sy'n gwneud gwaith aruthrol hefyd, ac roeddech yn iawn i dalu teyrnged nawr i'r holl wirfoddolwyr a'r sector elusennol, y trydydd sector, sy'n gwneud hyn yn bosibl.

Roeddech yn codi'r pwynt pwysig nawr am sut i wneud hyn yn beth cynaliadwy. Nid wyf i o'r farn mai chwilio am botiau unigol o gyllid yw hyn, er y gwnaed rhywfaint o waith da o dan gyllid y gronfa gofal integredig. Felly, er enghraifft, pan wnaethoch chi grybwyll mater nyrsio, un o'r pethau y mae cyllid o'r gronfa gofal integredig—. Mae un enghraifft dda—ac, yn wir, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rai o'r enghreifftiau da hyn—yn y gogledd, lle cafwyd cyllid refeniw o'r gronfa gofal integredig a aeth i'r hyn a elwid yn wasanaeth Diana yn Wrecsam. Darparodd hyn gymorth nyrsio ychwanegol ar gyfer plant â chyflyrau meddygol cymhleth, gan eu cadw gartref yn eu cymunedau. Cafodd un ar hugain o blant y gwasanaeth hwn yn 2017-18. Cafwyd eraill yng Ngwent a'r gorllewin y gallaf dynnu sylw atyn nhw.

Ond, mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae'r cyllid o'r gronfa gofal integredig ar gael er mwyn treialu ac arloesi, ac i ddweud wrth y meysydd hynny wedyn, yn unol â'n hymrwymiadau statudol, 'Os yw'n gweithio, os yw'n edrych yn dda, yna ewch â nhw yno a'u gwneud yn rhan o'ch busnes craidd.' Dylai hynny ddigwydd boed yn y sector statudol neu beidio, a dweud y gwir. Felly, os oes angen cymorth i wneud yr ymyriadau cywir i newid bywydau pobl ag anableddau dysgu, a bod hynny wedi ei brofi, yna byddem, yn natblygiad ehangach y cynllun hirdymor ar ofal iechyd a chymdeithasol hefyd, yn ceisio gwneud yn siŵr bod hynny'n gweithio, a'n bod yn cynnwys y mathau hyn o ddulliau cyllido hefyd.

Dai, roeddech yn sôn am fater gyrfaoedd, fel y cyfeiriais innau ato yn fy natganiad hefyd. Ceir un neu ddau o bethau yma. Un yw herio'r stigma a'r camsyniadau ynglŷn â hyn, mewn gwirionedd. Oherwydd mae gan bobl ag anableddau dysgu lawer i'w gyfrannu, mewn gwirionedd, yn y gweithle, a dyna beth y mae angen i ni ei ddweud o'r cychwyn cyntaf. Ond wedyn, credaf fod yna ffyrdd—a soniais am un ohonyn nhw, o bosibl, yn y fan hon, y trafodaethau y gallaf eu cael gyda Gweinidog y Gymraeg a Sgiliau, i archwilio pethau fel lleoliadau cyflogedig a gynorthwyir. Rwyf i o'r farn fod y dystiolaeth yn dangos, pan fydd yr unigolyn wedi cael ei droed yn y drws, y bydd hynny'n arwain at gyflogaeth hirdymor wedyn. Felly, mae angen inni ymdrin â hynny.

Ond dyma'r her iawn, ac rwy'n credu, ar yr holl faterion hyn—y rhai a godwyd yma heddiw ond hefyd wrth fynd ymlaen—y byddai grŵp cynghori'r Gweinidog a minnau yn awyddus i glywed awgrymiadau ynghylch y ffordd ymlaen, boed hynny o ran cynaliadwyedd neu ffrydiau gwaith gwirioneddol sy'n adeiladu ar 27 o gamau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Nid ateb dros nos fydd hyn—bydd yn daith o welliant, gwelliant, gwelliant.      

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:42, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym dros hanner ffordd drwy'r datganiad ac rydym wedi cael dau gwestiwn. Rwy'n derbyn bod hynny gan lefarwyr, ond os gallwn wneud rhywfaint o gynnydd—. Michelle Brown.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 4:43, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch i chithau hefyd am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn ddiolch hefyd i sefydliad Paul Ridd am eu gwaith gwerthfawr wrth helpu i lunio'r adroddiad. Fel y dywedwch yn eich datganiad, tair blaenoriaeth flaenaf yr adroddiad yw anghydraddoldebau iechyd, integreiddio yn y gymuned, a gwella systemau cynllunio ac ariannu. Blaenoriaeth gyntaf yr adroddiad, neu o leiaf yr un sy'n ymddangos gyntaf ar y ddogfen, yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd y mae pobl sydd ag anableddau dysgu yn eu profi, a hynny'n gwbl briodol.

Mae tebygolrwydd y bydd un o bob 10 o ddioddefwyr canser y ceilliau sydd ag anableddau dysgu hefyd yn marw o'i gymharu ag un mewn 36 yn y boblogaeth gyffredinol. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, 75 y cant o bobl ag anableddau dysgu a oedd yn gymwys am sgrinio canser y colon a'r rhefr a gafodd y prawf, o'u cymharu ag 80 y cant o'r bobl hynny sy'n gymwys ond nad oes ganddyn nhw anableddau dysgu. Y ffigurau cyfatebol ar gyfer sgrinio canser y fron oedd 51 y cant a 67 y cant ac, ar gyfer sgrinio canser ceg y groth, 30 y cant a 76 y cant. Mae'n eironig, a dweud y lleiaf, fod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu siomi o hyd gan y systemau gofal iechyd, cymdeithasol ac addysg, ar ôl tua 70 mlynedd o addysg gan y wladwriaeth a'r GIG.

Rydych chi yn gwneud rhai datganiadau cyffredinol am y ffyrdd y caiff anghydraddoldebau iechyd eu lleihau, ond nid ydyn nhw'n fanwl iawn. Yn Lloegr, yn 2013, cynhyrchwyd adroddiad gan Brifysgol Bryste a wnaeth 18 o argymhellion manwl gyda'r nod o leihau marwolaethau cynamserol ymhlith y rhai ag anableddau dysgu, ac ymatebodd y Llywodraeth yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Unwaith eto, yn Lloegr, mae'r amcanion wedi cael eu gosod ers 2014 ar gyfer y GIG yn y fan honno i gau'r bwlch iechyd rhwng pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu ac awtistiaeth, a'r boblogaeth yn gyffredinol. Unwaith eto, cyhoeddodd GIG Lloegr gynllun gweithredu cenedlaethol i ddatblygu gwasanaethau cymunedol a chau cyfleusterau cleifion mewnol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth. Gallwn fynd ymlaen, ond ni wnaf hynny.

Nawr, nid oes amheuaeth fod gan y gwrthbleidiau yn San Steffan eu barn eu hunain ynglŷn â pha mor effeithiol y mae'r holl waith hwnnw wedi bod. Ond erys y ffaith fod y gwaith yn dal i ddigwydd dros y ffin. Felly hoffwn i ofyn hyn: i ba raddau yr ydych chi'n defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd o'r astudiaethau hynny, a'r gwaith sy'n cael ei wneud draw yn Lloegr, i lywio'r gwaith y byddwch yn ei wneud yma? A yw Llywodraeth Cymru wedi mesur unrhyw effaith o'r dull gweithredu y mae'r GIG a'r Llywodraeth yn Lloegr yn gyfrifol amdano? A ydych chi wedi edrych ar yr ymchwil honno, a ydych chi wedi edrych ar yr adroddiadau a gynhyrchwyd, a ydych chi wedi edrych ar y cynllun gweithredu a beth yw eich barn? A ydych chi'n dysgu oddi wrtho er mwyn Cymru? Mae Llywodraeth San Steffan wedi bod yn edrych ar hyn yn fanwl yn Lloegr, felly, tybed pam yr ydych wedi bod cyhyd yn dal i fyny yn eich Llywodraeth chi.

Os caiff ei weithredu, bydd eich adroddiad yn debygol o gael effaith gadarnhaol, a pheidiwch â'm camddeall i, rwyf i'n wirioneddol yn croesawu eich adroddiad. Rwy'n credu ei fod yn adroddiad da, ac rwy'n credu ei fod yn gam cyntaf da iawn. Ond rydych yn cyfaddef nad oes arian newydd i'w roi ar waith, ac mae'r gyllideb bresennol dan straen. Felly, pa sicrwydd a allwch ei roi i ni y bydd yr hyn yr hoffech ei wneud yn cael ei wneud mewn gwirionedd ac a fydd hynny'n parhau am flynyddoedd i ddod? A fydd yr arian a'r cyllid yno yn y dyfodol i'w gefnogi? Mae'r bobl y mae anableddau dysgu yn effeithio ar eu bywydau yn haeddu cael gwybod eu bod nhw'n uchel ar restr eich blaenoriaethau. Felly, os bydd problemau gyda'r cyllidebau yn y dyfodol, pa feysydd gwariant fydd yn rhaid torri arnyn nhw cyn bo'r cynigion hyn yn cael eu peryglu?

Pa gynlluniau manwl sydd ar gael i gynyddu cyfraddau sgrinio a'r defnydd yng Nghymru a'r anghydraddoldebau eraill a brofir gan bobl sydd ag anableddau dysgu yn y system iechyd? Nawr, rwy'n gwybod nad yw'r system gofal iechyd yn eich portffolio chi, Gweinidog, ond y mae lles pobl ag anableddau dysgu. Mae'r hyn sy'n digwydd i bobl ag anableddau dysgu yn y system gofal iechyd yn hanfodol i'w lles cyffredinol. Felly, byddai'n dda iawn gennyf i gael clywed pa waith yr ydych yn ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gydlynu eich gweithgareddau i weithio gyda'ch gilydd er mwyn gwella cyfleoedd a lleihau'r anghydraddoldebau iechyd a brofir gan bobl ag anableddau dysgu.

Mae'r argymhellion yn yr adroddiad ei hun yn ganmoladwy iawn. Ond heb wybod pwy sydd ag anabledd dysgu ac felly ag angen cymorth, go brin y byddwch yn gallu helpu'r bobl hynny. Ceir nifer fawr o bobl sydd heb eu nodi, ac rydych chi eich hunan wedi cydnabod hynny yn eich adroddiad ac yn y datganiad. Rwy'n falch iawn o weld eich bod yn edrych mewn gwirionedd ar ffyrdd y gallwch gasglu'r data er mwyn cael gwell gwybodaeth yn y dyfodol. Pa ymchwil benodol fydd yn cael ei chynnal, er hynny, i gasglu'r data, a sut fyddwch mewn gwirionedd yn mynd allan ac yn casglu'r data hynny? Pa ffynonellau yr ydych yn golygu eu defnyddio? Neu a yw eich cynlluniau ar y fath gam prototeip fel na allwch ddweud hynny wrthyf? Yn olaf, pa gynlluniau yr ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi eu rhoi ar waith, a fyddwch yn cyhoeddi eich cynllun gweithredu eich hunain i gyflawni amcanion yr adroddiad, ac os felly, pryd? Diolch.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:48, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Michelle. Nid wyf am fod yn achos unrhyw ddicter i chi, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn ceisio bod yn gyflym iawn, iawn, ond roedd yna tua saith o gwestiynau yn hwn hefyd. A gaf i droi at y rhai craidd yma—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Nid oes raid i chi eu hateb i gyd.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn bwriadu gwneud hynny. Fel arall byddwn yn y fan hon—. Ond rwyf am geisio ymdrin â'r rhai allweddol.

Yn gyntaf, o ran dysgu'r gwersi o Loegr neu o rywle arall, rydym yn sicr yn gwneud hynny. Yr adroddiad LeDeR a oedd yn edrych ar faterion ynglŷn ag adolygiad o farwolaethau pobl ag anableddau dysgu—rydym yn ymwybodol iawn o hwnnw. Felly, mae gan y gwaith gwella bywydau y cytunwyd arno yn ddiweddar argymhellion clir iawn â'r nod o leihau'r anghydraddoldebau iechyd hynny ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, ac yn wir cafodd ei lywio nid yn unig gan y rhanddeiliaid ond gan y Paul Ridd Foundation hefyd. Felly, mae gennym grŵp llywio cenedlaethol ar gyfer gwella canlyniadau iechyd i bobl ag anableddau dysgu. Cylch gwaith y grŵp hwn yw cynllunio a goruchwylio ffyrdd o fabwysiadu dull cenedlaethol o leihau'r anghydraddoldebau iechyd hynny—er enghraifft, drwy hyrwyddo'r defnyddio o becynnau gofal i bobl sy'n mynd i'r ysbyty. Fel y dywedaf, mae'r gwaith hwn o fewn y GIG—a gobeithiaf fod hynny'n ymdrin â'ch pwynt am y gwaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet Vaughan Gething a minnau yn ei wneud gyda'n gilydd yn hyn o beth—yn cael ei gefnogi gan waith y Paul Ridd Foundation. Cafodd ei frawd a'i chwaer Jonathan Ridd a Jayne Nicholls eu gwobrwyo'n ddiweddar, er clod am eu gwaith, pan gawsant fedalau'r Ymerodraeth Brydeinig i gydnabod eu gwaith i wella safonau gofal ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Y pwynt arall sylweddol yr ydych yn ei godi, Michelle—roedd llawer ohonyn nhw—yw mater archwiliadau iechyd blynyddol. Rydym yn ymwybodol bod angen a bod yn rhaid cynyddu'r niferoedd sy'n cael gwiriad iechyd blynyddol ymhlith pobl ag anableddau dysgu. Felly, rydym wedi sefydlu grŵp llywio cenedlaethol i oruchwylio datblygiad y gwaith o ran y gwiriadau iechyd blynyddol hyn a materion iechyd eraill ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae swyddogion ar draws adrannau ledled y Llywodraeth yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu iechyd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ac archwiliadau iechyd blynyddol. Ac ar y pwyntiau eraill a godwyd gennych, byddaf yn hapus i ysgrifennu atoch chi, oherwydd y cyfyngiad cwbl briodol a osodwyd ar y ddadl hon gan y Dirprwy Lywydd. Diolch.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:50, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n wych o beth eich bod wedi llwyddo i siarad â 2,000 o bobl, ond, fel yr ydych yn ei ddweud yn eich datganiad, er bod yna rai ardaloedd o arfer da, mae gormod o bobl yn gorfod brwydro am gefnogaeth ac addasiadau i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw i'w galluogi i fyw bywyd cyffredin. Dim ond megis dechrau ar ei daith y mae cynhwysiant i raddau helaeth iawn. Rhagorol oedd gweld ddoe, yng Ngwobrau Jo Cox, mai'r sawl a enillodd y wobr am fynd i'r afael ag unigrwydd oedd mam bachgen awtistig a oedd yn awyddus i gymryd rhan mewn gemau pêl-droed wedi'u trefnu. Gwyddai na fyddai ef byth yn ffynnu mewn senario prif ffrwd, a bellach mae hyn wedi datblygu yn academi bêl-droed brif ffrwd a ddefnyddir gan nifer mawr o deuluoedd sydd â phlant awtistig, gyda chymorth gan Ddinas Abertawe, sy'n darparu hyfforddwr anabledd. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth i'w ddathlu, a da iawn i Andrea Smith.

Yr wythnos diwethaf ymwelais ag Autistic Spectrum Connections Cymru, sydd â chanolfan ar y Stryd Fawr yng nghanol dinas Caerdydd ac yn darparu gwasanaeth i bobl ar y sbectrwm awtistig ledled y de-ddwyrain. Byddwn yn wir yn hoffi dathlu'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Tra'r oeddwn i yno, cwrddais â phobl sy'n cymryd rhan yn y grŵp ysgrifennu creadigol, ac roedd peth o'r gwaith o ansawdd gwobr Booker yn bendant. Dywedodd un o'r bobl yno wrthyf mai dim ond un diwrnod yr wythnos y bydd yn mynd yno oherwydd bod ganddo gymhlethdodau iechyd eraill, a hwn oedd yr unig ddigwyddiad cymdeithasol iddo bob wythnos. Cyfarfûm â phobl hefyd sydd yn sefydlu menter gymdeithasol busnes arlwyo oherwydd eu bod yn dweud nad oes unrhyw reswm pam na ellir talu'r gyfradd ar gyfer y swydd i bobl ag anableddau, yn hytrach na disgwyl iddyn nhw weithio fel gwirfoddolwyr—wyddoch chi, ardderchog.

Cyfarfûm hefyd ag un o raddedigion Oxbridge sy'n cynghori cyflogwyr a gweithwyr ynghylch y disgwyliadau rhesymol y mae'n rhaid i'r ddwy ochr eu cyflawni i sicrhau eu bod yn gwneud llwyddiant o'r contract cyflogaeth, ac yn cadw pobl ag anableddau mewn swyddi, gan esmwytho unrhyw gamddealltwriaeth a allai arwain fel arall at eu diswyddo. Rhaid inni gofio bod rhai o'r bobl fwyaf disglair ar y sbectrwm awtistig. Mae Saga Norén, y ditectif yn y gyfres deledu Broen, yn dangos hynny. Mae'n golygu eu bod nhw, mewn rhai ffyrdd, yn gallu gwneud y gwaith yn well na phobl nad ydyn nhw ag awtistiaeth.

Felly, maer llawer i'w ddathlu. Rwy'n siŵr y bydd y rhaglen mewn dwylo da gyda Gwenda Thomas, oherwydd gwn ei bod hi'n gwerthfawrogi'r model cymdeithasol o ymdrin ag anabledd yn hytrach na'r model meddygol, a chredaf fod hynny'n eithriadol o bwysig. Fy nghwestiwn i chi yw: sut fyddwch yn sicrhau na fydd pobl ag anableddau yn cael eu tangynrychioli mewn rhaglenni sgrinio fel sgrinio ceg y groth, y fron a'r coluddyn? Oherwydd os oes anhawster dysgu ganddyn nhw, mae'n bosibl na allan nhw ddeall y llythyr a gaiff ei anfon iddyn nhw na deall ychwaith bwysigrwydd sgrinio i sicrhau eu bod yn osgoi clefydau difrifol.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:54, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Rwyf innau hefyd yn cydnabod gwaith y sefydliad hwnnw, Autistic Spectrum Connections Cymru, a rhai eraill. Y mater a godwyd gennych chi yw mai'r hyn sydd ei angen yw dull gydol oes—sef y meysydd eang y tu hwnt i edrych ar y cyflwr drwy sbectrwm meddygol yn unig. Y model cymdeithasol yw hwnnw i raddau helaeth iawn. Mae hon yn ffordd newydd o weithio, ac mae'n ffordd o weithio a gyflwynwyd gan randdeiliaid yn y maes—pobl ag anableddau dysgu, gofalwyr ac eraill sydd wedi dweud, 'Dyma sut mae angen datblygu'r rhaglen waith hon, mewn gwirionedd, nid rhoi pethau mewn seilos.' Mae'n ymwneud â'r model cymdeithasol i raddau helaeth iawn.

Credaf y bydd eich sylwadau ynghylch sicrhau bod amrywiaeth eang o safbwyntiau yn cael eu clywed nid yn unig gennyf fi, ond gan Gwenda Thomas yn ogystal â Sophie Hinksman, y cyd-gadeirydd, hefyd, wrth ddwyn hyn yn ei flaen. Mae'n werth dweud bod yna arweinyddion polisi penodol ar gyfer pob un o'r 26 o argymhellion o fewn hyn. Ceir ymrwymiad i weithio gyda chynrychiolwyr o'r gymuned anabledd dysgu ar y 26 o argymhellion, ynghyd â'u gofalwyr a rhanddeiliaid eraill, i lywio'r ddarpariaeth.

Mae'r grwpiau cynghori gweinidogol hyn wedi gweithio orau drwy fod yn dynn ac wrth ganolbwyntio ac anelu at y blaenoriaethau ac at y ffrydiau gwaith. Ond maen nhw'n estyn allan ac yn ymgysylltu yn ehangach hefyd. Rwy'n siŵr mai dyma sut y bydd Gwenda a Sophie yn dymuno datblygu'r grŵp cynghori gweinidogol. Y peth da, wrth gloi, fyddai dweud ein bod yn y cyfnod hwnnw pan fo cyfle o hyd i'r Aelodau Cynulliad yma gyfrannu eu barn ar yr argymhellion a sut y bydd y grŵp hwn yn esblygu. Mae Gwenda ar hyn o bryd yn newydd yn y gadair, byddan nhw'n cyfarfod cyn bo hir, byddan nhw wrth eu gwaith, ond byddan nhw'n gwrando hefyd o ran y ffordd i ddatblygu hyn.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:55, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn, ac yn croesawu'r meddylfryd y tu ôl iddo. Mae'n fy atgoffa i o'r strategaeth anfantais feddyliol Cymru gyfan a gyflwynwyd yma yng Nghymru yn 1983. Fe'i hystyrid ar y pryd yn un â gweledigaeth bwysig, a gwn y cyfeirir ati yn yr adroddiad hwn. Roeddwn i'n ymwneud â pheth o waith y strategaeth honno. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym a welwch chi waddol yng Nghymru o'r strategaeth honno a oedd yn cael ei chanmol ar y pryd. Hoffwn gael sicrwydd nad ydym yn dechrau eto, oherwydd roedd pwyslais yno ar—wyddoch chi, y meddylfryd y tu ôl i hynny, yn fy marn i, mae'n debyg iawn i'r meddylfryd sydd yn y fan hon nawr. Felly, dyna un cwestiwn.

Y cwestiwn arall yw: tybed a oedd gennym lawer neu unrhyw oedolion ag anableddau dysgu wedi eu lleoli y tu allan i Gymru ac a allech chi roi amcangyfrif o gost hynny ac a oes unrhyw gyfle i ddod â nhw yn ôl i Gymru.

Yn olaf, o ran anghydraddoldebau iechyd, cefais fy syfrdanu o ddarllen mewn un o'r adroddiadau Seisnig fod disgwyliad oes cyffredinol pobl sydd ag anableddau dysgu ymhell ar ei hôl hi: 23 blynedd i ddynion a 29 mlynedd i fenywod, a chredaf fod hwnnw'n ffigur cwbl syfrdanol. Tybed a ydym wedi cael unrhyw ymchwil yng Nghymru i ddangos bod ffigur cyffelyb i Gymru. Credaf eich bod eisoes wedi ateb sut yr ydych yn bwriadu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, ond a allech roi sylwadau ar y ffigurau hynny?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:57, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi, Julie. Yn wir, prif waddol y strategaeth gynharach honno yw meddylfryd hyn wrth ei ddatblygu. Felly, mae'n drawsbynciol, a chaiff ei gyrru i raddau helaeth iawn gan randdeiliaid, mae'n cymryd y dull profiad bywyd yn hytrach na'i fod wedi ei yrru gan Lywodraeth o'r brig i lawr sy'n dweud, 'Dyma'r atebion hawdd'. Y meddylfryd o weithio, a datblygu'r ffrydiau gwaith ar sail yr argymhellion, yw'r warant fwyaf mae'n debyg y bydd hyn yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig, wedi'i dargedu'n dda ac yn sicrhau'r canlyniadau iawn.

O ran oedolion ag anableddau dysgu y tu allan i Gymru, nid oes gennyf ffigur pendant wrth law. Ond gwn y bydd gennych ddiddordeb i wybod ein bod ar hyn o bryd yn datblygu rhywfaint o feddylfryd mwy blaengar ynghylch sut i ddatblygu modelau, gan gynnwys cymorth pwrpasol a fydd yn caniatáu inni beidio â dibynnu ar fynd allan o'r sir, ac o Gymru pan ddigwydd hynny, a gwneud yn siŵr bod oedolion ag anableddau dysgu yn cael eu rhoi mewn gwirionedd yn y cymunedau, yn y strwythurau cymorth y maen nhw'n eu hadnabod. Mae gennym waith arloesol yn digwydd ar hyn o bryd o fewn y Llywodraeth ac â rhanddeiliaid i geisio datblygu'r modelau hynny sy'n meddwl mewn ffyrdd gwahanol am y ffordd ymlaen yn hyn o beth.

Roeddech yn gofyn am fanylion y niferoedd gwirioneddol yng Nghymru. Nawr, nid oes gennyf y rhain wrth law. Mae gennyf ffigurau'r DU, ond nid y ffigurau ar gyfer Cymru yn unig. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod gennym ni nawr, fel un o'r meysydd blaenoriaeth, grŵp llywio cenedlaethol yn gwella canlyniadau iechyd i bobl ag anableddau dysgu, ac mae gan hwnnw ychydig o is grwpiau sydd yn edrych ar y meysydd penodol hyn. Felly, credaf, wrth i'r grŵp esblygu, yn sicr y byddaf yn gallu dod yn ôl i'r Senedd a rhoi diweddariad ar yr hyn a nodwn o ran y niferoedd, ond hefyd yr hyn a nodwn o ran yr atebion i hynny wrth fynd yn ein blaenau. Ond rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr ydym yn obeithiol iawn y bydd y grŵp yn canolbwyntio arno mewn gwirionedd.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Efallai y gallaf ddechrau drwy ddweud, wrth gwrs, nad yw awtistiaeth ynddo'i hun yn anabledd dysgu. Credaf fod hynny efallai yn rhywbeth y dylem ei wneud yn glir yn y Siambr. Mae siop un stop Autism Spectrum Connections Cymru yr ydym wedi bod yn siarad amdani, yn ôl a ddeallaf, yn cael ei gorfodi i gau oherwydd ei bod wedi colli ei chyllid. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech edrych ar hynny, os gwelwch yn dda, Gweinidog.

Yr un cwestiwn gennyf i oedd am yr adolygiad traws-Lywodraeth o bolisi anabledd dysgu, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud rhywbeth wrthym am sut yr ydym wedi ymgynghori â'r Gweinidog diwylliant, yn benodol. Rwy'n meddwl yn arbennig am gwmni Theatr Hijinx lle ceir, wrth gwrs, berfformwyr â phob math o alluoedd, ac efallai nad oeddech yn sylweddoli eu bod wedi cymryd gwaith gan faes awyr Caerdydd i helpu eu staff gyda'u strategaeth gyfathrebu. Felly, nid dim ond mater yw hyn o actorion o'r anian hon yn mynd i mewn i fusnesau ac yn codi ymwybyddiaeth, ond maent mewn gwirionedd yn gwneud gwaith da yn helpu Maes Awyr Caerdydd, yn yr achos hwn, i wella eu cyfathrebu. Diolch.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:00, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. O ran Hijinx yn benodol, ni allaf wneud sylw uniongyrchol ynglŷn â hynny, yn amlwg, ond mae disgwyliad wrth gyflawni hyn, y rhwymedigaeth statudol a roddwn ar ddarparwyr, ond hefyd y rhai sydd ag arian ar gael yn rhwydd iddyn nhw, yw eu bod mewn gwirionedd yn ei ddefnyddio i gyflawni'r canlyniadau hyn yr ydym ni'n canolbwyntio arnynt. Ac, ie, o ran datblygu hyn, mae wedi ymwneud nid yn unig â chyfranogiad eang mwy na 2000 o randdeiliaid, ond hefyd â'r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd hefyd. Mae hynny'n diffinio'r rhaglen hon, gan gynnwys felly y Gweinidog Diwylliant—ceir cyfraniad o bob rhan o'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod yn rhaid i hynny nodweddu datblygiad y gwaith hwn hefyd, wrth gyflwyno'r argymhellion ac i'r grŵp gweinidogol ymateb a dweud, 'Dyma lle bellach y mae angen ichi dargedu eich blaenoriaethau, eich canlyniadau cyllid ac ati.' Mae'n rhaid i'r Llywodraeth gyfan fod yn rhan ohono. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:01, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.