5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 4:43, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch i chithau hefyd am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn ddiolch hefyd i sefydliad Paul Ridd am eu gwaith gwerthfawr wrth helpu i lunio'r adroddiad. Fel y dywedwch yn eich datganiad, tair blaenoriaeth flaenaf yr adroddiad yw anghydraddoldebau iechyd, integreiddio yn y gymuned, a gwella systemau cynllunio ac ariannu. Blaenoriaeth gyntaf yr adroddiad, neu o leiaf yr un sy'n ymddangos gyntaf ar y ddogfen, yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd y mae pobl sydd ag anableddau dysgu yn eu profi, a hynny'n gwbl briodol.

Mae tebygolrwydd y bydd un o bob 10 o ddioddefwyr canser y ceilliau sydd ag anableddau dysgu hefyd yn marw o'i gymharu ag un mewn 36 yn y boblogaeth gyffredinol. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, 75 y cant o bobl ag anableddau dysgu a oedd yn gymwys am sgrinio canser y colon a'r rhefr a gafodd y prawf, o'u cymharu ag 80 y cant o'r bobl hynny sy'n gymwys ond nad oes ganddyn nhw anableddau dysgu. Y ffigurau cyfatebol ar gyfer sgrinio canser y fron oedd 51 y cant a 67 y cant ac, ar gyfer sgrinio canser ceg y groth, 30 y cant a 76 y cant. Mae'n eironig, a dweud y lleiaf, fod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu siomi o hyd gan y systemau gofal iechyd, cymdeithasol ac addysg, ar ôl tua 70 mlynedd o addysg gan y wladwriaeth a'r GIG.

Rydych chi yn gwneud rhai datganiadau cyffredinol am y ffyrdd y caiff anghydraddoldebau iechyd eu lleihau, ond nid ydyn nhw'n fanwl iawn. Yn Lloegr, yn 2013, cynhyrchwyd adroddiad gan Brifysgol Bryste a wnaeth 18 o argymhellion manwl gyda'r nod o leihau marwolaethau cynamserol ymhlith y rhai ag anableddau dysgu, ac ymatebodd y Llywodraeth yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Unwaith eto, yn Lloegr, mae'r amcanion wedi cael eu gosod ers 2014 ar gyfer y GIG yn y fan honno i gau'r bwlch iechyd rhwng pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu ac awtistiaeth, a'r boblogaeth yn gyffredinol. Unwaith eto, cyhoeddodd GIG Lloegr gynllun gweithredu cenedlaethol i ddatblygu gwasanaethau cymunedol a chau cyfleusterau cleifion mewnol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth. Gallwn fynd ymlaen, ond ni wnaf hynny.

Nawr, nid oes amheuaeth fod gan y gwrthbleidiau yn San Steffan eu barn eu hunain ynglŷn â pha mor effeithiol y mae'r holl waith hwnnw wedi bod. Ond erys y ffaith fod y gwaith yn dal i ddigwydd dros y ffin. Felly hoffwn i ofyn hyn: i ba raddau yr ydych chi'n defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd o'r astudiaethau hynny, a'r gwaith sy'n cael ei wneud draw yn Lloegr, i lywio'r gwaith y byddwch yn ei wneud yma? A yw Llywodraeth Cymru wedi mesur unrhyw effaith o'r dull gweithredu y mae'r GIG a'r Llywodraeth yn Lloegr yn gyfrifol amdano? A ydych chi wedi edrych ar yr ymchwil honno, a ydych chi wedi edrych ar yr adroddiadau a gynhyrchwyd, a ydych chi wedi edrych ar y cynllun gweithredu a beth yw eich barn? A ydych chi'n dysgu oddi wrtho er mwyn Cymru? Mae Llywodraeth San Steffan wedi bod yn edrych ar hyn yn fanwl yn Lloegr, felly, tybed pam yr ydych wedi bod cyhyd yn dal i fyny yn eich Llywodraeth chi.

Os caiff ei weithredu, bydd eich adroddiad yn debygol o gael effaith gadarnhaol, a pheidiwch â'm camddeall i, rwyf i'n wirioneddol yn croesawu eich adroddiad. Rwy'n credu ei fod yn adroddiad da, ac rwy'n credu ei fod yn gam cyntaf da iawn. Ond rydych yn cyfaddef nad oes arian newydd i'w roi ar waith, ac mae'r gyllideb bresennol dan straen. Felly, pa sicrwydd a allwch ei roi i ni y bydd yr hyn yr hoffech ei wneud yn cael ei wneud mewn gwirionedd ac a fydd hynny'n parhau am flynyddoedd i ddod? A fydd yr arian a'r cyllid yno yn y dyfodol i'w gefnogi? Mae'r bobl y mae anableddau dysgu yn effeithio ar eu bywydau yn haeddu cael gwybod eu bod nhw'n uchel ar restr eich blaenoriaethau. Felly, os bydd problemau gyda'r cyllidebau yn y dyfodol, pa feysydd gwariant fydd yn rhaid torri arnyn nhw cyn bo'r cynigion hyn yn cael eu peryglu?

Pa gynlluniau manwl sydd ar gael i gynyddu cyfraddau sgrinio a'r defnydd yng Nghymru a'r anghydraddoldebau eraill a brofir gan bobl sydd ag anableddau dysgu yn y system iechyd? Nawr, rwy'n gwybod nad yw'r system gofal iechyd yn eich portffolio chi, Gweinidog, ond y mae lles pobl ag anableddau dysgu. Mae'r hyn sy'n digwydd i bobl ag anableddau dysgu yn y system gofal iechyd yn hanfodol i'w lles cyffredinol. Felly, byddai'n dda iawn gennyf i gael clywed pa waith yr ydych yn ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gydlynu eich gweithgareddau i weithio gyda'ch gilydd er mwyn gwella cyfleoedd a lleihau'r anghydraddoldebau iechyd a brofir gan bobl ag anableddau dysgu.

Mae'r argymhellion yn yr adroddiad ei hun yn ganmoladwy iawn. Ond heb wybod pwy sydd ag anabledd dysgu ac felly ag angen cymorth, go brin y byddwch yn gallu helpu'r bobl hynny. Ceir nifer fawr o bobl sydd heb eu nodi, ac rydych chi eich hunan wedi cydnabod hynny yn eich adroddiad ac yn y datganiad. Rwy'n falch iawn o weld eich bod yn edrych mewn gwirionedd ar ffyrdd y gallwch gasglu'r data er mwyn cael gwell gwybodaeth yn y dyfodol. Pa ymchwil benodol fydd yn cael ei chynnal, er hynny, i gasglu'r data, a sut fyddwch mewn gwirionedd yn mynd allan ac yn casglu'r data hynny? Pa ffynonellau yr ydych yn golygu eu defnyddio? Neu a yw eich cynlluniau ar y fath gam prototeip fel na allwch ddweud hynny wrthyf? Yn olaf, pa gynlluniau yr ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi eu rhoi ar waith, a fyddwch yn cyhoeddi eich cynllun gweithredu eich hunain i gyflawni amcanion yr adroddiad, ac os felly, pryd? Diolch.