Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau ac yn falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma. Mae yn hen bryd i bysgodfeydd gael eu trafodaeth lawn gyntaf am gyfnod hir iawn, rydw i'n meddwl, yn y Cynulliad. Rydw i hefyd yn croesawu'r papur sydd wedi ei baratoi gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd yn gefn i'r ddadl yma.
Nawr er, fel sydd wedi cael ei nodi eisoes, fod pysgodfeydd yn sector gweddol fychan yn economi Cymru, mae yn rhan bwysig o fywoliaeth cymunedau arfordirol Cymru. Nid oes ond angen i ddyn ymweld â Phorth Meudwy ar ddiwrnod o haf a gweld pysgotwr cimwch sydd hefyd yn bysgotwr defaid ar y tir mawr ym Mhen Llŷn i weld bod y môr a'r tir yn dod gyda'i gilydd. Dyna'r fath o fywoliaeth gynaliadwy rydym ni eisiau iddi gael ei hadlewyrchu wrth lunio polisi pysgodfeydd newydd.
Er bod cwotâu a'r ffordd roedd cwotâu wedi cael eu trin gan y polisi pysgodfeydd cyffredin wedi hawlio lot o sylw yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth drafod gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac er fy mod i'n ddigon hapus i ddweud, ac wedi dweud yn y gorffennol hefyd, nad oeddwn i'n ffan yn y cyd-destun yna o bolisi'r Undeb Ewropeaidd, y ffaith amdani yw, pan ydych chi'n edrych ar Gymru, fod 92 y cant o gynnyrch pysgota Cymru yn dod o bysgodfeydd sydd heb gwotâu. Wrth gwrs, rydym ni'n sôn yn benodol am bysgod cregyn.
Mae'n wir hefyd i ddweud, cyn inni gael meddu ar y pwerau, fod 88 y cant o gwotâu pysgota Cymru wedi cael eu gwerthu i fusnesau Sbaen, nid gan yr Undeb Ewropeaidd ond gan Lywodraeth Prydain—hi wnaeth awdurdodi hynny. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae gennym ni fwy o reolaeth dros ein cwotâu ein hunain, ond dim ond 10 y cant o gwota Cymru sy'n cael ei ddal yn nyfroedd Cymru, ym moroedd Cymru ar hyn o bryd. Felly, mae yna dipyn o ffordd i fynd i adennill perchnogaeth dros y maes yna. Mae'n rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sydd yn gynaliadwy o ran yr amgylchedd ac sydd yn cydnabod y cynefin a'r berthynas rhwng y tir mawr a'r môr.
Dim ond i roi enghraifft ichi o ba mor bwysig yw hyn: wrth edrych ar ambell i gymuned, rydym ni'n dal yn allforio gwerth £5 miliwn o'r gwichiaid moch dramor, ond nid i'r Undeb Ewropeaidd mae'r cregyn bach yma'n mynd, ond i Gorea. Os ŷch chi wedi ymweld, yn y gorffennol, â ffatri bysgod Cei Newydd, byddwch chi wedi gweld effaith y diwydiant yna, ond byddwch chi hefyd yn gwybod ei fod yn ddibynnol ar gytundebau sydd gan yr Undeb Ewropeaidd tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, ac mae honno'n farchnad sydd yn gallu bod yn bwysig i ambell i gymuned yn ogystal.
Yn y cyd-destun hwnnw, fe fyddwn i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ystyried rhoi moratoriwm ar unrhyw werthu cwotâu pysgod tu allan i Gymru nes bod y sefyllfa yn gliriach, wrth i ni drafod y cytundebau newydd. Dyna pam roeddwn i mor awyddus i ddeall a oedd yna bolisi newydd gan y Llywodraeth fod unrhyw gwotâu newydd ynglŷn â physgod newydd sydd yn dod yn ôl, fel petai, ar sail prynu a gwerthu neu ar sail cwota sydd yn seiliedig ar amgylchedd yn unig. Achos yn fy marn i, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddal y cwota pysgod erbyn hyn ar gyfer y blynyddoedd i ddod, nes ein bod ni'n gweld yn glir beth yw'r effaith amgylcheddol, pwy gaiff bysgota ein tiroedd ni, a pha fath o gytundeb masnach pysgodfeydd sydd gyda ni.
Bydd angen mynediad i bysgodfeydd tu hwnt i foroedd Cymru. Dim ond 20 y cant o rywogaethau cwota Cymru sy'n cael eu glanio yma ym mhorthladdoedd Cymru—rydw i'n gwybod y bydd y pwyllgor newid hinsawdd yn ymweld ag Aberdaugleddau yn fuan iawn—ac mae 73 y cant o rywogaethau cwota Cymru yn cael eu glanio ym mhorthladdoedd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes modd i ni, ac nid oes adnoddau i ni, yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, i newid hynny yn sylfaenol iawn. Felly, mae trafodaeth ryngwladol yn mynd i fod yn hynod bwysig, ond yn y cyfamser, fe fyddwn i'n apelio i'r Ysgrifennydd Cabinet ystyried rhoi moratoriwm ar unrhyw werthu cwota pellach.
Yr ail ran o'r ddadl sy'n bwysig i ni yw bod yna adnoddau digonol i wireddu hyn. Roeddwn i wedi ymweld, gyda Rhun ap Iorwerth, â'r Prince Madog, sef llong ymchwil sydd gyda ni yng Nghymru, gyda Phrifysgol Bangor. Mae'n amlwg bod angen mwy o fuddsoddi yn y maes yna. Rydw i'n meddwl bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod yn y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf fod angen mwy o fuddsoddi yn y maes yma. Nid ydym ni'n deall digon am ein moroedd ein hunain: lle mae'r pysgod, sut mae eu cynefin nhw, sut mae cynnal moroedd cynaliadwy. Felly, mae angen i ni fuddsoddi yn yr ymchwil yn ogystal â'r amddiffyn o bosib, a'r plismona hefyd, o unrhyw bysgota wrth fynd ymlaen.
A'r pwynt olaf rydym yn ei wneud yn y gwelliannau yma—[Torri ar draws.] Ocê. Rwy'n credu bod jest abówt amser.