6. Dadl: Brexit a'r Diwydiant Pysgota

– Senedd Cymru ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Caroline Jones, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:01, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 6 yw dadl ar Brexit a'r diwydiant pysgota, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6755—Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o’r enw ‘Implications of Brexit for Fishing opportunities in Wales’.

2. Yn cydnabod yr heriau sylweddol ac unigryw sydd ynghlwm wrth Brexit o safbwynt diwydiant pysgota ac amgylchedd morol Cymru.

3. Yn cefnogi’r themâu allweddol canlynol a bennwyd gan yr is-grŵp moroedd ac arfordiroedd:

a) cynllunio i wneud y defnydd gorau o’n moroedd;

b) sicrhau stiwardiaeth effeithiol o’n hamgylchedd morol a’n hadnoddau naturiol;

c) parhau i fod yn bartneriaid cyfrifol wrth reoli moroedd a physgodfeydd y DU;

d) sicrhau bargen fwy teg ar gyfer y diwydiant pysgota; ac

e) bod yn annibynnol.

4. Yn ailddatgan ei gefnogaeth dros fynediad llawn a dirwystr i farchnad sengl yr UE, gan gynnwys ar gyfer bwyd a physgodfeydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:01, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf arwain y ddadl hon heddiw ar yr hyn sy'n fater pwysig iawn i bobl Cymru ac, yn enwedig, i'n trefi a'n cymunedau arfordirol wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. 

Mae ein harfordir a'n moroedd yn ased naturiol anhygoel sy'n cyfrannu miliynau i economi Cymru, yn cefnogi miloedd o swyddi ac yn ffynhonnell treftadaeth a diwylliant cyfoethog. Roedd y gwerth ychwanegol crynswth a gynhyrchwyd gan y sector morol yng Nghymru yn 2014 yn unig oddeutu £370 miliwn. Mae mwy na 60 y cant o boblogaeth Cymru yn byw ger ein glannau, gyda'n holl ddinasoedd mawr a sawl tref bwysig ar yr arfordir.

Yn fuan ar ôl y refferendwm, deuthum â grŵp bord gron o randdeiliaid cynrychioliadol at ei gilydd i geisio eu cymorth i ganfod a deall yr heriau a'r cyfleoedd posib y mae Brexit yn eu cyflwyno i Gymru. Mae'r is-grŵp moroedd ac arfordir a ffurfiwyd o aelodau o fy ngrŵp bord gron a Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol wedi helpu i gyfeirio ein hystyriaeth o Brexit a'n moroedd. Mae Aelodau wedi gweithio gyda'r Llywodraeth i lunio pum thema allweddol i weithio tuag atynt wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hyn yn arwain datblygiad polisi pellach ac yn cyfrannu at gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o foroedd cynhyrchiol, iach a biolegol amrywiol.

Rwyf wedi gwneud trefniadau i ddosbarthu'r rhain i'r Aelodau heddiw, ac mae'r themâu yn cynnwys: cynllunio i wneud y defnydd gorau o'n moroedd, sy'n cynnwys cyflawni'r cynllun morol; stiwardiaeth effeithiol o'n moroedd a'n hadnoddau naturiol, gan gynnwys ein cyfraniad at rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig; parhau i fod yn bartneriaid cyfrifol yn y DU, gan gynnwys gweithio'n agos gyda'n partneriaid ledled y DU o ran gwyddoniaeth a gorfodi, a byddwn yn gweithio gyda'r rhai hynny yr ydym ni'n rhannu ardal forol â nhw; sicrhau bargen decach ar gyfer y diwydiant pysgota, gan gynnwys ail-fantoli cyfran y DU o'r cwota pysgod a datblygu cyfleoedd mewn marchnadoedd domestig a thramor; a sefyll ar ein traed ein hunain drwy wella ein gallu o ran gwyddoniaeth forol a chasglu data, ac adolygu ein deddfwriaeth pysgodfeydd i ymgorffori rheolaeth gynaliadwy o egwyddorion adnoddau naturiol, a sicrhau eu bod yn addas i'w diben. Gofynnaf i'r Aelodau ystyried y themâu hyn yn rhan o'r ddadl heddiw.

Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle i gael polisi pysgodfeydd i Gymru sydd â buddiannau pysgodfeydd a chymunedau arfordirol Cymru wrth ei wraidd. I ddeall y cyfleoedd hyn yn llawn, comisiynais Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i roi dirnadaeth annibynnol ar y goblygiadau i bolisi pysgodfeydd yng Nghymru yn dilyn Brexit. Hoffwn ddiolch i'r Ganolfan Polisi am eu gwaith, ac rwy'n falch o gyflwyno'r adroddiad hwn i'r Cynulliad heddiw.

Rwy'n gobeithio bod Aelodau yn cydnabod yr heriau sylweddol ac unigryw sy'n wynebu'r diwydiant. Fel yr amlinellwyd ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru', mae diwydiant pysgota Cymru yn haeddu cyfran decach o gyfleoedd pysgota yn y dyfodol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod gan fflyd Cymru fodel busnes ffyniannus a chynaliadwy i annog buddsoddiad ac i ddenu cenedlaethau'r dyfodol i'r diwydiant. Rheolir cyfleoedd pysgota'r fflyd ar hyn o bryd drwy gyfuniad o ddeddfwriaeth wedi ei llunio yng Nghymru a'r polisi pysgodfeydd cyffredin. Mae'r rhain yn pennu cyfanswm y pysgod sydd ar gael ac yn sefydlu rheolau ar gyfer rheoli stociau pysgod sy'n treulio rhan o'u hamser yn ein dyfroedd. Fodd bynnag, mae'r polisi pysgodfeydd cyffredin yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar bysgota diwydiannol ar raddfa fwy, a fy mwriad i mewn trafodaethau blynyddol yw sicrhau bod y sector bychan yn cael bargen decach. 

Mae rhai sylwebyddion yn sôn am fflyd Cymru yn dal llawer mwy o bysgod oherwydd Brexit. Nid yw'r polisi pysgodfeydd cyffredin wedi bod fawr o fudd i gychod y DU o ran cyfran y pysgod. Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau mai dim ond cyfran fach iawn o gyfran y DU yw cyfran Cymru. Bydd angen trafod unrhyw bysgod ychwanegol stoc wrth stoc, a bydd hynny'n cymryd amser. Mae unrhyw bysgod ychwanegol a fydd ar gael drwy'r trafodaethau hyn yn adnodd cyhoeddus, nid ased masnachol i'w prynu a'u gwerthu. Dylai fod ar gael i ail-fantoli cyfleoedd pysgota.

Mae natur pysgota ym mhedair rhan y DU yn wahanol o ran graddfa a'r rhywogaethau y maen nhw yn eu targedu. Mae gennym ni hanes hir o weithio gyda'n gilydd i reoli'n priod fflydoedd a'r rhywogaethau pysgod sy'n symud o un lle i'r llall. Yng Nghymru, am resymau hanesyddol, cychod bach llai na 10 metr o hyd yw'r rhan fwyaf o'r fflyd. Mae'r diwydiant pysgota yn ddibynnol ar rywogaethau pysgod cregyn di-gwota, megis crancod, cimychiaid a chregyn moch, tua 90 y cant ohonyn nhw yn cael eu hallforio i'r UE neu i wledydd eraill drwy gytundebau masnachu'r UE. Caiff y rhan fwyaf o'n pysgod cregyn eu hallforio yn gynnyrch ffres neu fyw. Mae hyn yn golygu bod amseriad yn hollbwysig. Gallwch ddychmygu'r anawsterau y bydd allforwyr yn eu hwynebu os caiff pysgod cregyn eu dal yn ôl ym mhorthladdoedd y DU neu'r UE oherwydd rhwystrau di-dariff.

Mae'n amlwg na all unrhyw bolisi yn y dyfodol lwyddo oni bai ein bod yn parhau i gael mynediad llawn a dilyffethair i farchnad yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cynnyrch sydd eisoes yn dod o'n pysgodfeydd. Roedd adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac adroddiad ein grwpiau rhanddeiliaid yn glir yn hyn o beth. Byddaf yn parhau i bwyso'n galed am hyn mewn cyfarfodydd gyda'm cymheiriaid yn Whitehall er mwyn cael y fargen orau i Gymru wrth i'r trafodaethau masnach ddatblygu, ac rwy'n gobeithio y gall y Cynulliad gefnogi ein hymdrechion yn y maes hwn hefyd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:07, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am ildio. Dim ond o ran y darlun cyffredinol y mae hi newydd ei bortreadu, mae hi wedi sôn am y diwydiant pysgod cregyn, nad yw, wrth gwrs, yn dibynnu ar gwotâu, ac yn gynharach soniodd am gwotâu a'r posibilrwydd o ryddhau stoc newydd, a byddem yn tybio y gwneid hynny yn gynaliadwy, a dywedodd y byddai cwotâu o'r fath er budd y cyhoedd. A yw hynny'n golygu ei bod yn rhagweld polisi pysgota Cymru yn datblygu i fod yn seiliedig ar gwotâu wedi eu seilio ar egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol, ond nid yn seiliedig ar brynu a gwerthu?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Dim ond dweud wnes i y byddai'r pysgod ychwanegol yn adnodd cyhoeddus, felly credaf fod hynny i raddau helaeth iawn yn destun trafodaeth a negodi, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei ddatblygu.

Yn ddiweddar cyhoeddodd y Prif Weinidog bod cyllid ar gael i helpu'r sectorau pysgodfeydd a dyframaethu baratoi, gan gynnwys cyllid ar gyfer ymchwil a dadansoddi tactegol o ran gadael yr UE. Rwyf eisiau bod yn glir iawn: rwy'n disgwyl bargen decach i Gymru yn rhan o unrhyw gytundeb ynglŷn â dyfodol pysgodfeydd. Rwy'n anhapus â'r system gwota bresennol a'r ffordd y mae'n cael ei rheoli, a chredaf y bydd angen i unrhyw system newydd fod er budd cyhoeddus ac y dylai unrhyw gyfleoedd pysgota yn y dyfodol fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol.

Rwy'n disgwyl i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â Brexit mewn ffordd gyfrifol. Byddaf hefyd yn pwyso am ddatganoli sy'n cyfateb i'r hyn sydd gan yr Alban gan ennill cymhwysedd deddfwriaethol llawn ar gyfer pysgodfeydd ym mharth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am reoli pysgota yn hynny o beth ond ni chaiff lunio deddfwriaeth sylfaenol. Nid yw hi'n gwneud unrhyw synnwyr bod llinell artiffisial yn y môr sy'n ein rhwystro rhag gwneud deddfwriaeth gyson ar gyfer ein hardal forol. Mae angen i bob rhan o'r DU weithio gyda'i gilydd mewn rhai meysydd polisi yn y dyfodol—fframweithiau'r DU, fel y'u gelwir nhw. Mae'r cytundeb a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y cytundeb rhynglywodraethol yn cydnabod hyn ac yn amddiffyn datganoli wrth inni adael yr UE.

Mae rheoli pysgodfeydd yn un o'r 24 maes a nodwyd lle mae pwerau sy'n dychwelyd o'r UE yn dod o fewn ein cymhwysedd datganoledig ni a lle mae fframweithiau cyffredin y DU yn debygol o fod yn angenrheidiol. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda gweddill y DU i nodi sut bydd y fframwaith hwn yn edrych, pa rannau sy'n gofyn am ddeddfwriaeth, beth yr ydym ni eisiau ei wneud gyda'n gilydd a beth yr ydym ni eisiau ei wneud ein hunain. Ochr yn ochr â hyn, rydym ni'n gweithio'n galed i baratoi'r diwydiant i fod yn barod ar gyfer y diwrnod ymadael, a byddwn yn gweithio i leihau unrhyw effaith ar fusnesau ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae pysgodfeydd yn cael eu rheoleiddio'n llym. Nodwyd bod angen gwneud gwelliannau i fwy na 90 o reoliadau'r UE sy'n uniongyrchol berthnasol, sy'n cynnwys cannoedd o dudalennau o ddeddfwriaeth, i wneud i hyn weithio. Mae hon yn dasg enfawr, ac rydym ni'n gweithio'n agos gyda gweddill y DU er mwyn sicrhau y caiff y gwaith deddfwriaethol ar ôl gadael, yn ogystal â datganoli, eu hamddiffyn. Rydym ni hefyd wedi gwneud cynnydd da iawn yn ein paratoadau i ddiwygio ein deddfwriaeth ddomestig. Mae sicrhau bod gennym fframwaith deddfwriaethol ymarferol ar gyfer ein moroedd ar ôl gadael yn hanfodol bwysig, ac edrychaf ymlaen yn fawr at gyfraniadau'r Aelodau.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:10, 3 Gorffennaf 2018

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Neil Hamilton.

Gwelliant 1—Caroline Jones

Ym mhwynt 2, dileu 'yr heriau' a rhoi 'y cyfleoedd' yn ei le.

Gwelliant 3—Caroline Jones

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu parth economaidd unigryw o 200 milltir i roi mynediad unigryw i bysgotwyr y DU i foroedd o fewn 200 milltir o arfordir y DU.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:10, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Wel, rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ei chael hi'n anodd anghytuno â llawer o'r pethau a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn arbennig o falch ei chlywed hi'n dweud, yn ystod ei haraith, y bydd hi'n canolbwyntio ar gael bargen decach i bysgotwyr bychain a bargen decach i Gymru. Dyna'r hyn y mae bob un ohonom ni yn y Cynulliad hwn ei eisiau, rwy'n siŵr. Rwyf hefyd yn cytuno â hi yn ei hanfodlonrwydd â chwotâu, ac rwyf hefyd yn cymeradwyo ei bwriad i ymdrin ag anghydraddoldebau hanesyddol. Yn anffodus, fyddwn ni ddim yn cefnogi'r cynnig heddiw, ond dim ond oherwydd un gair ynddo. Oherwydd dywed ym mharagraff 2 ei fod yn cydnabod heriau penodol Brexit heb wneud unrhyw gyfeiriad at y cyfleoedd.

Nawr, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn un o'r Gweinidogion mwy eangfrydig, a'i bod yn aml yn gwneud areithiau gan dynnu sylw at y cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit, yn enwedig i'r diwydiant pysgota. Ychydig iawn o ddiwydiannau ym Mhrydain sydd wedi dioddef cymaint â'r diwydiant pysgota dros yr hanner canrif diwethaf oherwydd ein haelodaeth o'r UE, ac mae'n hanfodol bwysig, felly, y manteisir ar Brexit er mwyn adfywio ein porthladdoedd pysgota arfordirol ac ardaloedd cyfagos, ac adfywio'r diwydiant pysgota Prydeinig, gan gynnwys, wrth gwrs, diwydiant pysgota Cymru.

Rwy'n falch, wrth ddarllen yr adroddiad a gomisiynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, o weld ei fod mewn gwirionedd yn cyfeirio yn eithaf clir ar dudalen 8 at y ffaith bod y polisi pysgodfeydd cyffredin wedi ei lunio heb fawr o gynllun iddo yn ôl ym 1973 o fewn ychydig oriau i Brydain, ynghyd ag Iwerddon a Norwy, wneud cais i ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Nid oedd polisi pysgodfeydd cyffredin i'w gael yn yr UE cyn ein cais i ymuno, ac roedd hyn yn ychwanegiad munud olaf i'r UE, wedi ei gynllunio dim ond er mwyn galluogi gwledydd eraill yr UE i ysbeilio ein dyfroedd ym Môr y Gogledd ac mewn mannau eraill. Ac wrth wneud hynny, dros y 40 mlynedd diwethaf, maen nhw wedi distrywio diwydiant pysgota y wlad hon yn llwyr, a'r trefi a'r pentrefi sy'n dibynnu arno.

Roedd naw deg y cant o stociau pysgod yr UE, gan gynnwys y gwledydd a wnaeth gais i ymuno ym 1973, yn nyfroedd y gwledydd hynny, ac mewn gwirionedd roedd 80 y cant o'r pysgod yn nyfroedd y DU. Roedd hyn yn weithred o ladrad gwleidyddol ar raddfa fawr gan y farchnad gyffredin, fel y'i gelwid hi bryd hynny. Ond hen hanes yw hynny, a bellach mae gennym ni gyfle i wrthdroi'r broses. Rydym ni wedi byw trwy'r amseroedd mwyaf ofnadwy yn yr ychydig ddegawdau diwethaf o bysgota diwydiannol, ac roeddwn i'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod ei haraith, wedi cyfeirio hefyd at ei bwriad i osgoi ailadrodd hynny yn nyfroedd Cymru.

Diwydiant bychan iawn yw pysgota—dim ond 0.05 y cant o gynnyrch domestig gros y DU ydyw—ac, i'r graddau hynny, mae perygl y caiff ei aberthu yn rhan o broses Brexit yn ogystal â'r broses a ddaeth â ni i mewn i'r UE yn y lle cyntaf. Mae'n hollbwysig, felly, nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud tro gwael â'r diwydiant pysgota Prydeinig unwaith eto yn rhan o'r broses o negodi ein hymadawiad, oherwydd mae'n bosib y bydd y Llywodraeth yn dweud mai rhwydd hynt i ddefnyddio dyfroedd Prydain yw'r pris i'w dalu am ryw fath o gytundeb masnach rydd, neu fath arall o fargen, sydd wrthi'n cael ei daflu at ei gilydd. Mae'r UE wedi bod yn gwthio bargen galed drwy gydol yr holl broses hon oherwydd nid yw eu negodi wedi'i gynllunio i wella llesiant economaidd pobl Ewrop, ond wedi ei lunio i'w cadw'n rhygnu ymlaen gyda'u prosiect gwleidyddol ffederal methedig. 

Nawr, mae gan Gymru, wrth gwrs, fuddiannau gwahanol iawn mewn pysgota o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, nid lleiaf oherwydd pwysigrwydd pysgota pysgod cregyn, fel y dywed Simon Thomas yn aml yn ei gyfraniadau i'r dadleuon hyn, ond mae gennym ni'r cyfle yng Nghymru i ddatblygu'r diwydiant mewn ffyrdd eraill hefyd. Nid yw'n dda i unrhyw ddiwydiant ddibynnu'n ormodol ar ffurfiau penodol o gynhyrchu, ac mae arallgyfeirio yn rhan bwysig, felly, o'r cyfleoedd sydd ar y gorwel—

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:15, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Onid ydych chi'n derbyn, fodd bynnag, gyda'r cynnyrch amaethyddol a'r pysgod sydd gennym ni yng Nghymru, os na chawn ni fynediad hollol digyfyngiad i'r farchnad Ewropeaidd lle mae'r rhan fwyaf o'r cynnyrch hwnnw'n mynd, bydd y rhan fwyaf ohono yn difetha, caiff y farchnad honno ei cholli mewn gwirionedd, ac mae'n debyg mai'r unig bobl a fydd yn elwa fydd poblogaeth Cymru fwy na thebyg fydd yn cael eu gorfodi i fwyta cimwch bob wythnos?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Wel, mae cimychiaid sir Benfro yn hynod o flasus, gallaf ddweud hynny wrthych chi. Ond, ydw, rwy'n sylweddoli bod y diwydiant yn ddibynnol iawn ar allforio, ond mae cyfle enfawr i ni yn y fan yma, oherwydd mae gennym ni anghydbwysedd enfawr yn y bwydydd yr ydym ni'n eu masnachu gyda'r UE ac os caiff tariffau eu gosod yn ffôl gan yr UE—nid oherwydd na fydd diddordeb gan Lywodraeth Prydain mewn gwneud hynny—yna, mae gennym ni gyfleoedd enfawr o ran ailystyried yr hyn a gaiff ei fewnforio a newid, efallai, chwaeth y cyhoedd ym Mhrydain i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw i'n rhan.

Yn anffodus, does gen i ddim amser i fanylu ar y dadleuon cymhleth o anghydbwysedd masnach, ac rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd eraill i'w gwyntyllu, ond mae hi yn bwysig cydnabod bod hyn yn rhoi cyfleoedd enfawr inni, hefyd, i wneud iawn am y drychineb amgylcheddol sydd wedi taro'r diwydiant pysgota Prydeinig dros y 40 mlynedd diwethaf, ac rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i chwarae ei rhan lawn yn y broses honno.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:16, 3 Gorffennaf 2018

Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. David Melding.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i geisio'r mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl drwy gytundeb masnach rydd cynhwysfawr.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:16, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant. A gaf i longyfarch Neil Hamilton am sensitifrwydd ei araith yn pwysleisio bod pryderon amgylcheddol yn drech na'r farchnad rydd? Rwy'n siŵr bod llawer ohonom ni wedi credu bod honno'n egwyddor bwysig iawn, iawn, iawn. Hwrê, mae UKIP bellach yn croesawu hynny hefyd.

Mae hon yn ddadl bwysig iawn, ac nid ydym ni'n siarad digon am hyn yn y Siambr, felly rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dod â hyn i'n sylw. Mae'n rhaid imi ddweud, o ran pwyntiau 1 i 3 yn y cynnig, nid oes gennyf unrhyw anhawster â nhw, ond mae'r pedwerydd un yn achosi problemau. Rwyf wedi darllen yr adroddiad rhagorol hwn, 'Goblygiadau Brexit i Gyfleoedd Pysgota yng Nghymru'—'cyfleoedd'— ac yn cydnabod yr heriau ac, er tegwch, y cyfleoedd, fel y mae Neil Hamilton wedi eu hamlinellu, fydd yn dod i ddiwydiant pysgota Cymru a'r amgylchedd morol yn sgil y broses Brexit. Mae'r rhain yn ystyriaethau pwysig iawn inni bendroni yn eu cylch.

Mae Brexit yn gyfle i Gymru adeiladu ar y cynnydd a wnaed gan bolisi pysgodfeydd cyffredin yr UE ac chreu cyfundrefn fwy bwrpasol ac amgylcheddol uchelgeisiol ar gyfer rheoli pysgodfeydd Cymru ar ôl Brexit. Rydym ni hefyd yn cefnogi gwaith yr is-grŵp moroedd ac arfordir ac yn croesawu'r themâu y maen nhw wedi eu cyflwyno.

Nid oedd pwynt 4, fel yr wyf i wedi awgrymu, mor syml i ni, oherwydd yr unig ffordd y mae pob gwlad yn mynd i gael mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE yw derbyn bod rhag-amodau megis rhyddid symudiad o ran pobl, nwyddau a gwasanaethau. Mae'r UE wedi'i gwneud hi'n glir na fydd mynediad dilyffethair i'r farchnad sengl i unrhyw wlad nad yw'n ymrwymo i'r egwyddorion hyn, fel y maen nhw'n eu gweld, ac mae hyn yn realiti, mewn gwirionedd, y mae Jeremy Corbyn wedi ei gyfaddef yn gyhoeddus. Dylem fod â'r nod o gael y mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl, drwy negodiadau gyda'r UE ar ffurf cytundeb masnach rydd gynhwysfawr, fel yr un y mae Llywodraeth y DU yn gweithio i'w gyflawni ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, i sicrhau ein bod ni yn gwneud y defnydd gorau o'n moroedd ac i sicrhau y gallwn ni sefyll ar ein traed ein hunain, mae angen inni ddatblygu polisi effeithiol a chynaliadwy sy'n briodol ar gyfer dyfroedd y DU, ac sy'n parchu'r setliad datganoli, ond bydd hyn yn gofyn am broses sy'n seiliedig ar ymgynghori a thystiolaeth, ac, unwaith eto, rwy'n croesawu'r cynnydd a wnaed hyd yma.

Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn mynd i gyflwyno Bil pysgodfeydd domestig, sy'n dal mewn cyfnod ymgynghori, rwy'n credu, ac y mae peth oedi ar hyn o bryd yn ei gylch oherwydd anawsterau penodol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Rwy'n synhwyro bod Llywodraeth Cymru yn fwy adeiladol ar hyn o bryd. Ond rwyf yn eu hannog i eiriol yn gryf, ac yn sicr fe gewch ein cefnogaeth ni wrth ddadlau dros y sefyllfa orau i Gymru.

Mae natur a chyfansoddiad y diwydiant pysgota yn amrywio'n sylweddol yn y DU, fel y cyfeiriwyd ato eisoes, ac mae angen cydnabod hyn wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth pysgodfeydd ar gyfer y DU gyfan. Wnaf i ddim rhygnu ymlaen ynghylch y sylw am ein dibyniaeth ar bysgod cregyn a bychander ein fflyd a maint llai y cychod eu hunain. Mae'r rhain yn wahaniaethau pwysig. Felly, mae hyn yn dangos bod anghenion diwydiant pysgota Cymru yn wahanol i'r diwydiant yn y DU yn gyffredinol. Mae angen i Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd fod yn ymwybodol o hyn yn y trefniadau pysgodfeydd ar ôl Brexit a'r fframweithiau a gaiff eu cyflwyno bellach o ganlyniad i drafodaethau Bil ymadael yr UE.

Rydym ni hefyd wedi clywed bod pysgod yn adnodd cyffredin ac y dylid eu rheoli er budd y cyhoedd. Nid oes unrhyw ffordd arall. Gallant silio mewn un ardal, bwydo mewn un arall a mudo'n helaeth. Mae hwn yn adnodd cyffredin pwysig iawn, iawn i'w reoli'n effeithiol, ac mae canlyniadau gorbysgota yn llawer rhy gyffredin a brawychus. Felly, mae angen inni edrych ar reoli adnodd cyffredin a rennir fel yr amgylchedd morol a stociau pysgota. 

Ar gyfer y dyfodol, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymdrin â'r mater hwn, dros Gymru, mewn modd sy'n golygu bod y diwydiant wrth y llyw, oherwydd rwyf yn teimlo, am gyfnod rhy hir, nad yw eu lleisiau wedi cael gwrandawiad teg. Rwyf yn cydnabod y rhwystredigaeth a fynegwyd gan Neil yn rymus iawn yn ei gyfraniad yn hyn o beth. Mae'r ymchwil a gyflwynwyd i ni yn y pwyllgor hinsawdd yn rhan o'n hymchwiliad i bysgodfeydd ar ôl Brexit yn dweud sut mae enghreifftiau o Norwy, Gwlad yr Iâ ac Ynysoedd y Ffaröe wedi dangos bod cyd-berthynas rhwng Llywodraeth, awdurdodau lleol a'r diwydiant yn hanfodol ar gyfer diwydiant pysgodfeydd sy'n ffynnu. Felly, mae angen inni adeiladu ar y mathau hyn o ddulliau. A gaf i ddweud, Llywydd, wrth ymdrin â'r mater yn y modd hwn, sef ei seilio ar dystiolaeth a rhoi anghenion clir Cymru wrth ei wraidd, y gall y Llywodraeth ddisgwyl inni gefnogi eu polisi pan fyddan nhw yn gweithredu er lles gorau Cymru? Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:22, 3 Gorffennaf 2018

Galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen sicrhau llais cryf ar gyfer Cymru yn nhrafodaethau masnach yn sgil Brexit.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd pysgota i fywoliaeth gynaliadwy cymunedau arfordirol Cymru.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo mwy o adnoddau ar gyfer pysgodfeydd a’r amgylchedd morol.

Cynigiwyd gwelliannau 4, 5 a 6.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:22, 3 Gorffennaf 2018

Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau ac yn falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma. Mae yn hen bryd i bysgodfeydd gael eu trafodaeth lawn gyntaf am gyfnod hir iawn, rydw i'n meddwl, yn y Cynulliad. Rydw i hefyd yn croesawu'r papur sydd wedi ei baratoi gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd yn gefn i'r ddadl yma.

Nawr er, fel sydd wedi cael ei nodi eisoes, fod pysgodfeydd yn sector gweddol fychan yn economi Cymru, mae yn rhan bwysig o fywoliaeth cymunedau arfordirol Cymru. Nid oes ond angen i ddyn ymweld â Phorth Meudwy ar ddiwrnod o haf a gweld pysgotwr cimwch sydd hefyd yn bysgotwr defaid ar y tir mawr ym Mhen Llŷn i weld bod y môr a'r tir yn dod gyda'i gilydd. Dyna'r fath o fywoliaeth gynaliadwy rydym ni eisiau iddi gael ei hadlewyrchu wrth lunio polisi pysgodfeydd newydd.

Er bod cwotâu a'r ffordd roedd cwotâu wedi cael eu trin gan y polisi pysgodfeydd cyffredin wedi hawlio lot o sylw yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth drafod gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac er fy mod i'n ddigon hapus i ddweud, ac wedi dweud yn y gorffennol hefyd, nad oeddwn i'n ffan yn y cyd-destun yna o bolisi'r Undeb Ewropeaidd, y ffaith amdani yw, pan ydych chi'n edrych ar Gymru, fod 92 y cant o gynnyrch pysgota Cymru yn dod o bysgodfeydd sydd heb gwotâu. Wrth gwrs, rydym ni'n sôn yn benodol am bysgod cregyn.

Mae'n wir hefyd i ddweud, cyn inni gael meddu ar y pwerau, fod 88 y cant o gwotâu pysgota Cymru wedi cael eu gwerthu i fusnesau Sbaen, nid gan yr Undeb Ewropeaidd ond gan Lywodraeth Prydain—hi wnaeth awdurdodi hynny. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae gennym ni fwy o reolaeth dros ein cwotâu ein hunain, ond dim ond 10 y cant o gwota Cymru sy'n cael ei ddal yn nyfroedd Cymru, ym moroedd Cymru ar hyn o bryd. Felly, mae yna dipyn o ffordd i fynd i adennill perchnogaeth dros y maes yna. Mae'n rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sydd yn gynaliadwy o ran yr amgylchedd ac sydd yn cydnabod y cynefin a'r berthynas rhwng y tir mawr a'r môr.

Dim ond i roi enghraifft ichi o ba mor bwysig yw hyn: wrth edrych ar ambell i gymuned, rydym ni'n dal yn allforio gwerth £5 miliwn o'r gwichiaid moch dramor, ond nid i'r Undeb Ewropeaidd mae'r cregyn bach yma'n mynd, ond i Gorea. Os ŷch chi wedi ymweld, yn y gorffennol, â ffatri bysgod Cei Newydd, byddwch chi wedi gweld effaith y diwydiant yna, ond byddwch chi hefyd yn gwybod ei fod yn ddibynnol ar gytundebau sydd gan yr Undeb Ewropeaidd tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, ac mae honno'n farchnad sydd yn gallu bod yn bwysig i ambell i gymuned yn ogystal.

Yn y cyd-destun hwnnw, fe fyddwn i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ystyried rhoi moratoriwm ar unrhyw werthu cwotâu pysgod tu allan i Gymru nes bod y sefyllfa yn gliriach, wrth i ni drafod y cytundebau newydd. Dyna pam roeddwn i mor awyddus i ddeall a oedd yna bolisi newydd gan y Llywodraeth fod unrhyw gwotâu newydd ynglŷn â physgod newydd sydd yn dod yn ôl, fel petai, ar sail prynu a gwerthu neu ar sail cwota sydd yn seiliedig ar amgylchedd yn unig. Achos yn fy marn i, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddal y cwota pysgod erbyn hyn ar gyfer y blynyddoedd i ddod, nes ein bod ni'n gweld yn glir beth yw'r effaith amgylcheddol, pwy gaiff bysgota ein tiroedd ni, a pha fath o gytundeb masnach pysgodfeydd sydd gyda ni.

Bydd angen mynediad i bysgodfeydd tu hwnt i foroedd Cymru. Dim ond 20 y cant o rywogaethau cwota Cymru sy'n cael eu glanio yma ym mhorthladdoedd Cymru—rydw i'n gwybod y bydd y pwyllgor newid hinsawdd yn ymweld ag Aberdaugleddau yn fuan iawn—ac mae 73 y cant o rywogaethau cwota Cymru yn cael eu glanio ym mhorthladdoedd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes modd i ni, ac nid oes adnoddau i ni, yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, i newid hynny yn sylfaenol iawn. Felly, mae trafodaeth ryngwladol yn mynd i fod yn hynod bwysig, ond yn y cyfamser, fe fyddwn i'n apelio i'r Ysgrifennydd Cabinet ystyried rhoi moratoriwm ar unrhyw werthu cwota pellach.

Yr ail ran o'r ddadl sy'n bwysig i ni yw bod yna adnoddau digonol i wireddu hyn. Roeddwn i wedi ymweld, gyda Rhun ap Iorwerth, â'r Prince Madog, sef llong ymchwil sydd gyda ni yng Nghymru, gyda Phrifysgol Bangor. Mae'n amlwg bod angen mwy o fuddsoddi yn y maes yna. Rydw i'n meddwl bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod yn y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf fod angen mwy o fuddsoddi yn y maes yma. Nid ydym ni'n deall digon am ein moroedd ein hunain: lle mae'r pysgod, sut mae eu cynefin nhw, sut mae cynnal moroedd cynaliadwy. Felly, mae angen i ni fuddsoddi yn yr ymchwil yn ogystal â'r amddiffyn o bosib, a'r plismona hefyd, o unrhyw bysgota wrth fynd ymlaen.

A'r pwynt olaf rydym yn ei wneud yn y gwelliannau yma—[Torri ar draws.] Ocê. Rwy'n credu bod jest abówt amser.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:27, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn yn fawr iawn ategu'r sylwadau yr ydych chi newydd eu gwneud. Ymwelais â'r ysgol gwyddorau eigion ym Mangor y llynedd. Fe wnaethon nhw siarad â mi am eu cwch, y Tywysog Madog. Wrth gwrs, mae mewn perchenogaeth ddeuol, ac fe grybwyllais hyn wrth Lywodraeth Cymru. Dywedasant fod hynny'n rheswm i beidio ag ymyrryd, yn hytrach na mecanwaith y mae angen iddynt ei ddilyn i sicrhau bod y llong hon yn parhau i hwylio, ond rwy'n eich cefnogi'n llwyr: mae'n rhaid i'r llong hon barhau â'i gwaith gwych.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:28, 3 Gorffennaf 2018

Rydw i'n siŵr, ac rydw i'n gobeithio y bydd Rhun yn gallu cynnig—. Bydd dadl fer gyda fe cyn bo hir, rydw i'n deall, a bydd yna fwy o drafod ar ddyfodol y llong. Ond rydw i'n derbyn y pwynt.

Y peth olaf, os caf i jest cloi gyda hynny, yw: yn y cyd-destun sydd ohoni, mae hi yn bwysig iawn i ymladd yr achos dros sicrhau masnach heb dariffau i bysgodfeydd Cymru. Fe wnaf i gloi drwy ddyfynnu James Wilson, sydd yn gyfrifol am Gynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor—mae'n siŵr bod rhai ohonoch chi wedi blasu nhw ar lan y Fenai—a disgrifiodd e ei fusnes fel hyn:

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae wagen yn aros ar ochr y cei pan ydym ni'n glanio. Rydym yn cymryd y cregyn gleision oddi ar y cwch ac fe gân nhw yn eu rhoi ar y wagen, mae'r wagen yn gyrru ymaith. Ac yna fe gymer hi rhwng 26 ac 18 awr i'w cludo o ogledd Cymru i ogledd Ffrainc neu dde yr Iseldiroedd. Os byddan nhw yn archebu gennyf i ar ddydd Llun, yna maen nhw'n disgwyl i'r wagen gyrraedd ar ddydd Mawrth oherwydd mae arnyn nhw eisiau... eu gwerthu ar ddydd Mercher. Mae mor llyfn â hynny. Mae unrhyw beth sy'n peri oedi neu ansicrwydd neu beth bynnag yr ydych chi'n ei alw i'r broses honno yn creu problem o ran y gadwyn gyflenwi. Nid problem fach yw honno. Does neb eisiau bwyta cregyn gleision sydd wedi troi.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:29, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu y gwnaed llawer o addewidion byrbwyll gan y Brexitwyr. Un ohonyn nhw oedd y byddai gadael yr UE yn galluogi'r DU i fod yn wladwriaeth annibynnol arfordirol, sef yr hyn yr oeddem ni bron i 50 mlynedd yn ôl, ond credaf fod hynny'n llwyr anwybyddu rhai o wirioneddau bywyd, un ohonynt yw nad oes angen pasbort ar bysgod i groesi ffiniau, a bydd pa bolisïau bynnag a gaiff eu mabwysiadu gan yr Undeb Ewropeaidd wedi inni adael yn effeithio ar nifer y pysgod sy'n nofio yn ein dyfroedd, cymaint ag o'r blaen.

Cytunaf nad yw polisi pysgodfeydd yr UE yn un o'r polisïau mwyaf llwyddiannus i'r UE eu llunio, ac roedd hynny oherwydd bod gwleidyddion wastad yn ymyrryd â'r hyn oedd yn fesurau cynaliadwyedd ac amgylcheddol yn eu hanfod. Felly, bob amser yn y negodiadau munud olaf am 4:00 y bore byddai pobl yn glastwreiddio'r cynigion a luniwyd gan yr arbenigwyr. Felly, rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi am sawl rheswm, ond nid oherwydd ein bod ni neu nad oeddem ni yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

Fel mae Simon Thomas eisoes wedi nodi, nid oes cwotâu o gwbl ar y rhan fwyaf o'r pysgod sy'n cael eu dal gan bysgotwyr Cymru, ond, serch hynny, mae angen inni sicrhau nad yw'r cytundebau y deuir iddynt gyda'r Undeb Ewropeaidd yn osgoi neu'n colli'r masnachu a wneir gyda rhai o'n porthladdoedd yma yng Nghymru. Rwy'n deall y daw traean o werth y pysgod sy'n dod i'r lan ym mhorthladdoedd Cymru o gychod yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n debyg ein bod ni eisiau parhau i elwa ar y fasnach honno. Os yw hanner y cychod yn Aberdaugleddau yn gychod o Wlad Belg, os nad oes gennym ni drefniant synhwyrol â'n cymdogion Ewropeaidd, yna bydd hynny'n niweidiol i'r porthladdoedd hynny ac i'r fasnach sy'n deillio o hynny. 

Ond rwy'n cytuno'n llwyr â David Melding a Simon Thomas, ac yn wir, ag Ysgrifennydd y Cabinet, bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn rheidrwydd ym mhopeth a wnawn o ran y pysgod oherwydd, os na wnawn ni hynny, byddwn yn mynd yn groes i'n buddiannau ein hunain. Yn amlwg, byddai'n wych pe byddai mwy o bobl Cymru yn magu archwaeth at flas rhyfeddol pysgod cregyn Cymru, y mae David Melding wedi eu canmol i'r cymylau lawer gwaith, ac mae angen inni gofio bod rhinweddau niferus i ddefnyddio cynnyrch cartref yn hytrach na phethau sy'n cael eu mewnforio. Arferai wystrys fod yn brif gynhwysyn lobsgows ymhlith pobl dlawd ym mhorthladd Lerpwl. Mae arna i ofn bod wystrys bellach yn ddanteithfwyd prin; Felly nid oes arnom ni eisiau gweld yr un peth yn digwydd i bysgod cregyn eraill, fel cregyn gleision.

Mae'n rhaid i mi sôn am yr achos ofnadwy o bysgotwyr cregyn bylchog ychydig flynyddoedd yn ôl, a gafodd ddirwy bitw o £50,000 am ysbeilio gwelyau cregyn bylchog yng Nghymru, pan oedd y ddalfa ei hun yn werth £400,000, yn ardal gadwraeth arbennig Bae Ceredigion. Felly, mae hwn yn dal yn fater o bwys pa un a ydym ni yn aelodau o'r UE ai peidio. Mae'n rhaid inni sicrhau nad yw pobl yn torri'r gyfraith o ran cynnal hyfywedd ein hadnoddau.

Yn amlwg, un o'r materion eraill enfawr sy'n ein hwynebu yw'r ffaith bod yr holl bysgod y dyddiau hyn—gallwch weld bod plastig i'w ganfod ym mhob pysgodyn, mae'n debyg, sy'n cael ei ddal. Mae hynny, wrth gwrs, mewn gwirionedd yn tanseilio ein mwynhad o bysgod. Felly, mae angen i'r ddau bolisi fynd law yn llaw: dileu plastig o'n cefnforoedd, a sicrhau nad yw pobl yn gorbysgota, er mwyn sicrhau y bydd pysgotwyr Cymru yn parhau i allu ennill bywoliaeth weddus o bysgota—sy'n waith peryglus iawn, ac yn rhywbeth y byddwn ni'n parhau i fod eisiau ei fwynhau ar gyfer y dyfodol.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:33, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Dim ond eisiau gwneud cyfraniad oeddwn i ar sail peth o'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, yr wyf yn aelod ohono—a pheth o'r dystiolaeth honno mor ddiweddar â ddoe—ac i ofyn i Lywodraeth Cymru sut y mae ystyried hyn ochr yn ochr ag adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. A gaf i ddechrau drwy ddweud, er hynny, fy mod i'n credu mai hon yw un o ddadleuon cyntaf Llywodraeth Cymru ynglŷn â Brexit—os nad y cyntaf—sy'n cynnwys y gair 'cyfleoedd', sy'n air cadarnhaol, er bod hynny yn nheitl yr adroddiad sydd wedi ei ysgogi? Credaf, o'r diwedd, ei bod yn ymddangos ein bod wedi cyrraedd man lle y gallwn ni ddechrau sôn am gyfleoedd i'w hennill o Brexit synhwyrol, ar ôl blynyddoedd o sôn am ddim byd ond anobaith a gwae yn y Siambr hon.

Nawr, rwy'n credu bod angen inni ddechrau canolbwyntio a dechrau cynllunio ar gyfer creu cyfleoedd, gan ystyried y ffaith—gan gofio'r ffaith, wrth gwrs— nad ydym ni'n gwybod lle efallai y down ni o hyd iddyn nhw ar yr adeg hon yn y trafodaethau. Oherwydd pa un a ydych chi'n ystyried hyn i fod yn friwsion a lludw, neu yn balmentydd aur y strydoedd, does dim ots gennyf fi; dim ond eisiau inni ddechrau gwneud hynny wyf i, ac i gydnabod nad oes yn rhaid dewis rhwng masnach rydd â'r UE a masnach rydd â gweddill y blaned, ac i gefnogi Prif Weinidog y DU yn ei hymdrechion i gael y gorau o'r ddau. Oherwydd allwn ni ddim bwyta egwyddorion, ac ni all anhyblygrwydd dorri ein syched, ac fe allwn ni adael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb masnach rydd cynhwysfawr a bwydlen ymarferol na fydd yn plesio'r eithafwyr ar y naill begwn na'r llall, ond a all gadw'r ddwy garfan wrth y bwrdd, yn iach, wedi bwyta eu gwala, ac yn rhydd i fwyta wrth fyrddau eraill.

Nawr, does dim dwywaith fod rhyddhau fflyd pysgota'r DU yn un o'r cyfleoedd hynny, a, gan gydnabod bod anfodlonrwydd gyda chwotâu, yn ein Pwyllgor, dywedwyd wrthym ni gan yr Athro Richard Barnes, bod ymbellhau o'r cyfandir yn bendant yn ddewis deniadol ar gyfer pysgodfeydd. Ac yn enwedig yng Nghymru, lle efallai y gallem ni ystyried trafod syniadau o ran sut y gallwn ni wneud y mwyaf o hyn—a yw'n ddichonadwy, hyd yn oed, i gynyddu'r rhan fach honno o'n fflyd bysgota nad yw cwotâu yn effeithio arni ar hyn o bryd. Wrth gwrs, bydd angen llais penderfynol o Gymru i gyflawni hynny—rhywun sydd â rhywbeth buddiol i'w ddweud. Ond mae hynny'n wir hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, am ein cychod llai, ac rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am hynny'n gynharach, oherwydd, yn amlwg, mae 90 y cant o'r pysgod a ddelir yn nyfroedd Cymru wedi eu heithrio o system gwota yr UE, fel rydym ni wedi clywed eisoes. Bydd y llais cryf hwnnw yn arbennig o bwysig ar gyfer cymorth amgylcheddol wedi'i deilwra hefyd, ac rwy'n ategu'r hyn, mewn gwirionedd, y mae David Melding a Jenny Rathbone wedi'i ddweud am bwysigrwydd pysgota cynaliadwy a'r amgylchedd pysgota ar gyfer hyn.

Clywsom yn ein pwyllgor ddoe fod y fforymau gweinidogol sy'n dod â'r Ysgrifenyddion Cabinet, Gweinidogion perthnasol ac ati o'r pedair gweinyddiaeth genedlaethol at ei gilydd i helpu i lywio'r JMC (EN) yn gweithio'n arbennig o dda yn achos DEFRA. Fe wnaethoch chi sôn am y sgyrsiau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich araith agoriadol, a gobeithio y gallwch chi gadarnhau wrthym fod y berthynas honno'n un dda ac y clywir eich llais yn ystod y sgyrsiau a gewch chi. Gan fy mod i'n Aelod, wrth gwrs, sy'n cynrychioli rhanbarth Gorllewin De Cymru, gyda'i arfordir yn gyforiog o bysgod cregyn, yn enwedig yn y gorllewin, bydd fy etholwyr yn eich dwyn i gyfrif am y sicrwydd a roesoch chi heddiw, na fydd stociau di-gwota yn cael eu hanwybyddu wrth geisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU o ran y darlun mwy a chyffrous hwnnw.

Rydym ni hefyd wedi clywed, ers ddoe, mai dim ond £2.1 miliwn y mae cronfa bontio Brexit Llywodraeth Cymru—ac mae honno'n £50 miliwn dim ond ar gyfer eleni—wedi ei dalu i'r sector bwyd hyd yma er mwyn ei ddiogelu rhag effeithiau Brexit. Nawr, dywedodd yr Athro Barnes—ac rwy'n credu y byddwn ni'n cytuno â hyn, oni fyddwn—mai'r pwysigrwydd pennaf yw gwneud yn siŵr bod marchnad ar gyfer ein cynhyrchion pysgota. Mae'r cyfnod pontio yn gyfnod i ddechrau edrych am y marchnadoedd newydd hynny, y cyfleoedd newydd hynny, hyd yn oed os na allwn ni eu defnyddio ar unwaith. Felly, gellir defnyddio'r gronfa bontio hon o £50 miliwn i ddechrau edrych am farchnadoedd newydd, cynllunio sut y gallem ni ddechrau edrych yn awr am y cyfleoedd hynny, a manteisio ar y cysylltiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu haddo inni drwy ei rhwydwaith o swyddfeydd ledled y byd. Rwy'n annog ein fflyd bysgota, a'n holl gynhyrchwyr bwyd a diod, mewn gwirionedd, nid yn unig i gydnabod yr heriau sydd ynghlwm â'r sawl gwahanol fath o Brexit sy'n bosibl, fel y cyfeirir ato yn y cynnig, ond i ddechrau meddwl am y cyfleoedd ac i ddefnyddio peth o'r £50 miliwn i ddechrau eu canfod. Diolch.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:38, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Am dros 40 mlynedd, ers i'r Gweinidog ar y pryd, Geoffrey Rippon, gamarwain y cyhoedd ym Mhrydain yn fwriadol gan addo na fyddai unrhyw ymyrryd ar ddyfroedd pysgota Prydain pe byddem ni'n ymuno a'r hyn a elwid bryd hynny y Farchnad Gyffredin, mae ein dyfroedd pysgota sofran blaenorol wedi eu hysbeilio gan fflydoedd pysgota o dramor. O dan y polisi pysgota cyffredin fe wnaethom ni golli bron y cyfan o'n rheolaeth dros y cwotâu pysgota, er, cyn i ni ymaelodi â'r UE, roedd gennym ni 80 y cant o stociau pysgota Ewrop. Mae'r polisi pysgodfeydd cyffredin wedi bod yn drychineb llwyr i stociau pysgota, a dim ond dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf y daethpwyd â'r polisi o daflu unrhyw bysgod cwota yn ôl i'r môr o dan reolaeth i ryw raddau. Amcangyfrifir bod biliynau yn llythrennol o bysgod a oedd yn berffaith iawn i'w bwyta wedi eu taflu yn y môr bob blwyddyn o dan reolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin. Roedd hyn nid yn unig yn arfer arbennig o wastraffus, roedd hefyd yn drychineb amgylcheddol. Yn groes i'r hyn a ddywedodd David Melding am ein harferion yn UKIP, UKIP sydd wedi bod yn dweud pa mor drychinebus fu'r polisi pysgodfeydd cyffredin i'r stoc bysgota.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:40, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwerthfawrogi eich dull gwyddonol o ymdrin â'r mater hwn, ac rwyf yn gobeithio y byddwch chi'n ei ymestyn i feysydd eraill eich polisi.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n realistig yn y byd hwn, David. Fyddwn ni ddim yn dilyn—[Torri ar draws.]

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

A wnaiff ef ildio?

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

O ran Cymru—. Gwnaf, David, wrth gwrs.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am ildio, ac rwy'n gwerthfawrogi'r hyn y mae newydd ei ddweud am safbwynt UKIP. A ydych chi felly mor hynod siomedig â minnau bod eich cyn-arweinydd, Nigel Farage, ddim ond wedi mynd i un o 42 o gyfarfodydd y pwyllgor oedd yn ymdrin â physgodfeydd?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Mae hynny'n ofnadwy. Mae hynny'n ofnadwy.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Ydw, ac a dweud y gwir roedd hynny oherwydd ei fod yn darllen llawer o'r adroddiadau yn ofalus, sef yr hyn nad oedd y rhan fwyaf o'r ASEau eraill yn ei wneud, a dyna pam y daeth i nifer o'r casgliadau y daeth iddynt, mewn gwirionedd.

O ran Cymru, fe ddioddefodd hi mewn modd anghymesur oherwydd polisïau'r polisi pysgodfeydd cyhoeddus oherwydd mae'r rhan fwyaf o fflyd Cymru o dan 10m mewn maint. Felly dim ond 1 y cant o gwota pysgota y DU neu 0.02 y cant o'r cwota Ewropeaidd sydd gennym ni, ac rwy'n cytuno'n llwyr â phwyntiau Simon Thomas o ran cadw unrhyw gwotâu newydd sy'n dod i Gymru.

Ar ôl Brexit, dylai'r DU ddychwelyd at y parth gwahardd 200 milltir fel yr argymhellwyd gan gyfraith forol y Cenhedloedd Unedig, gan ryddhau ardaloedd enfawr o foroedd o gwmpas Prydain i fflydoedd pysgota Prydeinig. Gyda llaw, dyma rai o ddyfroedd pysgota gorau'r byd. Bydd pysgotwyr Cymru wedyn yn gallu buddsoddi mewn llongau llawer mwy, gyda chymorth grantiau gan Lywodraeth Cymru efallai, a allai arwain at ddiwydiant pysgota estynedig iawn yng Nghymru. Ar ôl Brexit, gallai'r DU fynnu bod yr holl bysgod a ddelir yn nyfroedd Prydain yn dod i'r lan yn y DU, a fyddai'n arwain wedyn at sefydlu amrywiaeth o gyfleusterau prosesu pysgod ar y tir. Byddai'r cynnig i drwyddedu llongau tramor hyd nes y gallwn ni gynyddu ein fflydoedd pysgota ein hunain hefyd yn creu refeniw i helpu ein diwydiant pysgota i archwilio marchnadoedd eraill ledled y byd. Soniodd Mick Antoniw fod yna farchnadoedd eraill ledled y byd. Cynyddodd cynnyrch pysgod Iwerddon sy'n cael ei allforio i Tsieina gan 56 y cant y llynedd yn unig, ac roedd allforion— [Torri ar draws.] Ie.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:42, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad, ond onid y pwynt yw hyn: oni bai bod gennym ni fynediad dilyffethair i'r farchnad Ewropeaidd, lle'r aiff y rhan fwyaf o'n cynnyrch, bydd mewn gwirionedd yn lladd ein diwydiant pysgota a'n diwydiant pysgod cregyn, oni bai fod gennym ni hynny? Felly, onid ai rhesymeg yr hyn yr ydych chi'n ei ddadlau yw bod yn rhaid i ni gael mynediad dilyffethair?

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:43, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddai bob un ohonom ei eisiau, mewn gwirionedd, Mick, ond nid ar draul yr Undeb Ewropeaidd yn dweud wrthym ni beth yn union y mae'n rhaid inni ei wneud, ac ar draul mynediad diderfyn i ni gan unrhyw nifer o bobl, sef yn union yr hyn y pleidleisiodd pobl y Cymoedd yn ei erbyn. Ni fyddwn ni yn aberthu hynny er mwyn cael mynediad rhydd i'r Undeb Ewropeaidd.

Mae hyrwyddwyr agweddau hollol negyddol Brexit ar ddiwydiant pysgota Cymru yn anwybyddu'n llwyr—ac nid wyf yn cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet yn y datganiad hwnnw—entrepreneuriaeth ein brawdoliaeth bysgota a'r manteision enfawr a allai ddod yn sgil Brexit i ddiwydiant pysgota Cymru sydd, gadewch inni wynebu'r ffaith, yn dioddef.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr amgylchedd a materion gwledig i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:44, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ac fe wnaf i gyfeirio at rai o'r pwyntiau a godwyd ganddyn nhw yn y man.

Fe ddechreuaf gyda'r gwelliannau. Gofynnaf i'r Cynulliad wrthwynebu gwelliant 1, ac rwy'n cydnabod yr heriau gwirioneddol a gwahanol iawn sy'n wynebu'r diwydiant pysgota; i wrthwynebu gwelliant 2 ar y sail y bu Llywodraeth Cymru yn glir iawn ei bod yn disgwyl mynediad llawn a dilyffethair i farchnad yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit, a'i bod hi'n bosib i unrhyw beth llai na hyn niweidio'r diwydiant; ac i wrthwynebu gwelliant 3 ar y sail na fydd parth economaidd penodol yn cael dim neu fawr ddim effaith gadarnhaol ar fflyd Cymru ac mewn gwirionedd fe allai amharu ar negodiadau masnach gyda'r UE. Gofynnaf i Aelodau gefnogi gwelliannau 4, 5 a 6. Credaf yn gryf fod llais Cymru yn y trafodaethau yn hollbwysig, ac wrth gwrs rwyf yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant hwn i'n cymunedau arfordirol. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol yn ystod blynyddoedd blaenorol yn y sector, a byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau y caiff ei gyfran deg yn y dyfodol.

Cyfeiriodd Simon Thomas at dystiolaeth a roddais yr wythnos diwethaf i'r Pwyllgor Cyllid. Rwyf yn cytuno bod hwnnw'n faes lle mae angen inni barhau i roi adnoddau ac arian ychwanegol iddo, ond bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod gennym ni longau gorfodi newydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Cytunaf ynghylch y gwaith ymchwil—credaf fod hwnnw'n faes lle mae angen inni gael mewnbwn sylweddol—ond rydym ni eisoes yn gweithio'n agos iawn gyda Phrifysgol Bangor ac wedi defnyddio'r Tywysog Madog, sy'n ein helpu i wneud ymchwil morol.

Cyfeiriodd Neil Hamilton a David Rowlands at drychineb amgylcheddol. Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr â hynny. Pysgodfeydd y DU—o ganlyniad i'r polisi pysgodfeydd cyffredin, mae'n golygu y caiff y rhan fwyaf o'n pysgodfeydd eu rheoli'n gynaliadwy. Rydym ni'n gweithio tuag at gael y Cyngor Stiwardiaeth Forol i achredu'n pysgodfeydd—marc ansawdd yw hwnnw—a byddwn yn parhau i wneud hynny.

David Melding, rydym ni yn ymgysylltu'n rhagweithiol â'r sector pysgota. Soniais eu bod yn rhan o'r grŵp cynghori. Byddaf yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r sector pysgota. Felly, credaf ein bod ni'n gwneud hynny beth bynnag, ond wrth gwrs gallwn bob amser wneud mwy. Soniodd Suzy Davies am y gair 'cyfleoedd' am y tro cyntaf. Fel y cydnabu hyd yn oed Neil Hamilton, rwyf yn defnyddio'r gair 'cyfleoedd'. Mae'n anodd iawn chwilio amdanyn nhw weithiau, ond credaf fod yn rhaid i ni wneud hynny. Rwy'n ymgysylltu'n llawn yn y cyfarfodydd pedairochrog gyda'm cymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Mae'r un nesaf ddydd Iau yn Llundain ac y mae'n wirioneddol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhan o hynny. Fe wnaethoch chi sôn hefyd am gronfa bontio'r UE. Gwnaeth fy mhortffolio yn dda iawn yn y gyfran gyntaf, ac er eich bod yn dweud mai dim ond £2.1 miliwn ydyw, mae'n rhaid imi ddweud bod fy nghwmnïau bwyd a diod yn hapus iawn gyda'r cyllid sydd gennym ni eisoes.

Soniodd sawl Aelod am bysgod cregyn a bwyd môr. Heddiw ddiwethaf, rwyf i wedi cyhoeddi prosiect £1 miliwn newydd i farchnata'r marchnadoedd rhyngwladol a domestig. Ni fydd marchnad y DU yn cymryd niferoedd y pysgod cregyn y buom ni'n eu hallforio, felly mae angen inni chwilio am farchnadoedd newydd. Roeddwn i ym mhorthladd Lerpwl ddoe, yn cael trafodaethau yno ynglŷn â faint o bysgod cregyn sy'n cael eu hallforio, yn arbennig o ogledd Cymru, ac yn amlwg does arnom ni ddim eisiau eu gweld yn eistedd ar y dociau. Fe wnaethoch chi bwynt da iawn am James Wilson a chregyn gleision Bangor.

Roeddwn i hefyd eisiau ei gwneud yn glir i Simon Thomas am y cwota: busnesau pysgota Cymru a werthodd y cwota i gychod Sbaen. Mae'n adnodd cyhoeddus a does gennyf i ddim bwriad i ganiatáu gwerthu cwotâu Cymru. Nid ydym ni'n berchen arno, gwarcheidwaid ydym ni ohono, ac mae'n bwysig iawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n sicr yn hapus i ystyried moratoriwm ar werthu a symud cwotâu y tu allan i Gymru, ac rwy'n credu y gallem ni gynnwys hynny mewn polisi pysgodfeydd yn y dyfodol.

Felly, rwyf yn falch iawn o'r ddadl heddiw. Rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom ni gydnabod fod y dyfodol yn heriol iawn ar gyfer y sector hwn, ond hefyd bod potensial a chyfleoedd pwysig, a byddaf yn parhau i weithio'n galed i sicrhau ein bod yn cyflawni dros Gymru yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n croesawu cefnogaeth yr Aelodau.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:48, 3 Gorffennaf 2018

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.