Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ac fe wnaf i gyfeirio at rai o'r pwyntiau a godwyd ganddyn nhw yn y man.
Fe ddechreuaf gyda'r gwelliannau. Gofynnaf i'r Cynulliad wrthwynebu gwelliant 1, ac rwy'n cydnabod yr heriau gwirioneddol a gwahanol iawn sy'n wynebu'r diwydiant pysgota; i wrthwynebu gwelliant 2 ar y sail y bu Llywodraeth Cymru yn glir iawn ei bod yn disgwyl mynediad llawn a dilyffethair i farchnad yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit, a'i bod hi'n bosib i unrhyw beth llai na hyn niweidio'r diwydiant; ac i wrthwynebu gwelliant 3 ar y sail na fydd parth economaidd penodol yn cael dim neu fawr ddim effaith gadarnhaol ar fflyd Cymru ac mewn gwirionedd fe allai amharu ar negodiadau masnach gyda'r UE. Gofynnaf i Aelodau gefnogi gwelliannau 4, 5 a 6. Credaf yn gryf fod llais Cymru yn y trafodaethau yn hollbwysig, ac wrth gwrs rwyf yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant hwn i'n cymunedau arfordirol. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol yn ystod blynyddoedd blaenorol yn y sector, a byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau y caiff ei gyfran deg yn y dyfodol.
Cyfeiriodd Simon Thomas at dystiolaeth a roddais yr wythnos diwethaf i'r Pwyllgor Cyllid. Rwyf yn cytuno bod hwnnw'n faes lle mae angen inni barhau i roi adnoddau ac arian ychwanegol iddo, ond bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod gennym ni longau gorfodi newydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Cytunaf ynghylch y gwaith ymchwil—credaf fod hwnnw'n faes lle mae angen inni gael mewnbwn sylweddol—ond rydym ni eisoes yn gweithio'n agos iawn gyda Phrifysgol Bangor ac wedi defnyddio'r Tywysog Madog, sy'n ein helpu i wneud ymchwil morol.
Cyfeiriodd Neil Hamilton a David Rowlands at drychineb amgylcheddol. Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr â hynny. Pysgodfeydd y DU—o ganlyniad i'r polisi pysgodfeydd cyffredin, mae'n golygu y caiff y rhan fwyaf o'n pysgodfeydd eu rheoli'n gynaliadwy. Rydym ni'n gweithio tuag at gael y Cyngor Stiwardiaeth Forol i achredu'n pysgodfeydd—marc ansawdd yw hwnnw—a byddwn yn parhau i wneud hynny.
David Melding, rydym ni yn ymgysylltu'n rhagweithiol â'r sector pysgota. Soniais eu bod yn rhan o'r grŵp cynghori. Byddaf yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r sector pysgota. Felly, credaf ein bod ni'n gwneud hynny beth bynnag, ond wrth gwrs gallwn bob amser wneud mwy. Soniodd Suzy Davies am y gair 'cyfleoedd' am y tro cyntaf. Fel y cydnabu hyd yn oed Neil Hamilton, rwyf yn defnyddio'r gair 'cyfleoedd'. Mae'n anodd iawn chwilio amdanyn nhw weithiau, ond credaf fod yn rhaid i ni wneud hynny. Rwy'n ymgysylltu'n llawn yn y cyfarfodydd pedairochrog gyda'm cymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Mae'r un nesaf ddydd Iau yn Llundain ac y mae'n wirioneddol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhan o hynny. Fe wnaethoch chi sôn hefyd am gronfa bontio'r UE. Gwnaeth fy mhortffolio yn dda iawn yn y gyfran gyntaf, ac er eich bod yn dweud mai dim ond £2.1 miliwn ydyw, mae'n rhaid imi ddweud bod fy nghwmnïau bwyd a diod yn hapus iawn gyda'r cyllid sydd gennym ni eisoes.
Soniodd sawl Aelod am bysgod cregyn a bwyd môr. Heddiw ddiwethaf, rwyf i wedi cyhoeddi prosiect £1 miliwn newydd i farchnata'r marchnadoedd rhyngwladol a domestig. Ni fydd marchnad y DU yn cymryd niferoedd y pysgod cregyn y buom ni'n eu hallforio, felly mae angen inni chwilio am farchnadoedd newydd. Roeddwn i ym mhorthladd Lerpwl ddoe, yn cael trafodaethau yno ynglŷn â faint o bysgod cregyn sy'n cael eu hallforio, yn arbennig o ogledd Cymru, ac yn amlwg does arnom ni ddim eisiau eu gweld yn eistedd ar y dociau. Fe wnaethoch chi bwynt da iawn am James Wilson a chregyn gleision Bangor.
Roeddwn i hefyd eisiau ei gwneud yn glir i Simon Thomas am y cwota: busnesau pysgota Cymru a werthodd y cwota i gychod Sbaen. Mae'n adnodd cyhoeddus a does gennyf i ddim bwriad i ganiatáu gwerthu cwotâu Cymru. Nid ydym ni'n berchen arno, gwarcheidwaid ydym ni ohono, ac mae'n bwysig iawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n sicr yn hapus i ystyried moratoriwm ar werthu a symud cwotâu y tu allan i Gymru, ac rwy'n credu y gallem ni gynnwys hynny mewn polisi pysgodfeydd yn y dyfodol.
Felly, rwyf yn falch iawn o'r ddadl heddiw. Rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom ni gydnabod fod y dyfodol yn heriol iawn ar gyfer y sector hwn, ond hefyd bod potensial a chyfleoedd pwysig, a byddaf yn parhau i weithio'n galed i sicrhau ein bod yn cyflawni dros Gymru yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n croesawu cefnogaeth yr Aelodau.