Y Diwydiant Moduron

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 1:30, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch iawn fod gennyf gannoedd o etholwyr ar gyflogau da mewn swyddi medrus ac undebol ym maes gweithgynhyrchu yn y sector modurol yn Nhorfaen. Rwy'n siŵr y byddwch chi, fel finnau, wedi gweld nifer o rybuddion gan arbenigwyr fod Brexit, yn enwedig Brexit lle rydym yn gadael yr undeb tollau a'r farchnad sengl, yn fygythiad difrifol iawn i weithgynhyrchu modurol yn arbennig. A gaf fi ofyn ichi—fe sonioch chi am asesiadau—roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â'r asesiadau a wnaed gennych o risg debygol i'r sector modurol, a pha gamau brys y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i geisio lliniaru'r risgiau hynny, o gofio'r hyn a wyddom ynglŷn â pha mor gystadleuol yw'r maes gweithgynhyrchu modurol, a pha mor ddibynnol yw'r maes ar egwyddorion gweithgynhyrchu mewn union bryd? Diolch.