Mercher, 4 Gorffennaf 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle.
1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith Brexit ar y diwydiant moduron? OAQ52464
2. Sut y bydd etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn elwa ar fuddsoddi mewn rheilffyrdd a gwasanaethau metro? OAQ52455
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu'r isafswm cyflog yng Nghymru? OAQ52459
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau ategol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru? OAQ52460
5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Arweinydd y Tŷ ynghylch effaith economaidd cysylltedd digidol? OAQ52457
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo ymgysylltiad moesegol mewn chwaraeon? OAQ52449
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn tyfu'r economi? OAQ52439
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am seilwaith beicio dinas ranbarth bae Abertawe? OAQ52444
Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Y cwestiwn cyntaf—Simon Thomas.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch deddfu yn erbyn gamblo cymhellol? OAQ52463
2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau plant? OAQ52458
3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gymhwyso cyfreithiau'r UE yng Nghymru a gaiff eu pasio yn ystod unrhyw gyfnod pontio Brexit? OAQ52451
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am sicrhau bod hawliau dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn cael eu diogelu yn dilyn Brexit? OAQ52450
5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau cyfreithiol Llywodraeth Cymru i gefnogi model newydd ar gyfer morlyn llanw bae Abertawe? OAQ52446
6. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018?...
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i gael ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees.
3. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y caiff y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf ynghylch uno TATA steel a ThyssenKrupp AG ar y diwydiant dur yng Nghymru? 195
4. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a wnaed gan berchennog Trago Mills fod arwyddion Cymraeg yn annibendod gweledol? 194
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau adrefnu llywodraeth leol yn dilyn ei sylwadau yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 29 Mehefin 2018? 197
2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr achosion diweddar o danau gwair sydd wedi effeithio ar gymunedau ledled Cymru? 196
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf, David Rees.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i iechyd meddwl emosiynol plant a phobl ifanc, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw...
Eitem 6 ar yr agenda yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar Carillion a Capita. Galwaf ar Lee Waters i wneud y cynnig. Lee.
Mae eitem 7 wedi'i gohirio tan 19 Medi.
Nid oes gennym unrhyw beth i bleidleisio arno y prynhawn yma.
Felly, symudwn at eitem 9 ar ein hagenda, sef y ddadl fer, a galwaf ar Llyr Gruffydd.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strategaeth ddatblygu economaidd Llywodraeth Cymru yng Ngorllewin De Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia