Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch am ymweld ag abaty Nedd a'r gwaith haearn yn ddiweddar iawn gyda Jeremy Miles a minnau. Mae'n rhaid imi ddweud bod y cyfeillion yn falch iawn eich bod wedi dod i ymweld â hwy, fel y gallent ddangos y gwaith caled y maent wedi'i wneud yn hyrwyddo a gofalu am y safle hwnnw, er nad ydynt yn berchen arno. Yn amlwg, yr awdurdod lleol sy'n berchen arno.
Mae twristiaeth yn un o elfennau gwaith Tasglu'r Cymoedd, a gwn eich bod yn cytuno â mi a'r cyfeillion fod gan y safleoedd hyn, ynghyd â safleoedd diwylliannol pwysig eraill yng nghwm Nedd a chwm Dulais, gryn dipyn o botensial twristiaeth. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru ein cynorthwyo i fanteisio ar y twf mewn cyfoeth sy'n deillio o'r fargen ddinesig, a hyrwyddo twristiaeth yng Nghastell-nedd fel cynnig cydlynol? A ydych wedi rhoi rhagor o ystyriaeth i raglen debyg i Cymru Gydnerth er mwyn cynorthwyo i gefnogi grwpiau cymunedol, fel cyfeillion y gwaith haearn, i reoli a hyd yn oed i gymryd cyfrifoldeb llawn am rai o'n safleoedd diwylliannol pwysig?