Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Gwrandewais â diddordeb ar ateb Ysgrifennydd y Cabinet i Dawn Bowden mewn perthynas â'r depo yn Rhymni, a rhaid imi ddweud nad yw'r hyn a gynigiwyd ganddo yn ddigon. Credaf y gellir gwneud mwy dros yr ardal economaidd haeddiannol honno, yn enwedig—. Soniodd am fannau cadw trenau a mân waith cynnal a chadw. Hoffwn ofyn iddo faint o swyddi y bydd hynny'n eu creu, a beth arall y gellir ei wneud yn ardal Rhymni.