Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 1:47, 4 Gorffennaf 2018

Gwnes i fwynhau fy nhaith yn arbennig. Roedd hi'n hyfryd gweld ansawdd y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn barod ar yr abaty, yn dod â'r adeilad yn ôl i ddiogelwch—nid y cyfan ohono fo, ond rhannau ohono fo. Ond wrth gwrs, chawsom ni ddim gweld y gwaith mwyaf ardderchog; nid yw eto wedi'i gwblhau, ond rydw i'n sicr ei fod o'n cael ei wneud i'r safon uchaf.

Y ffordd y mae Cadw yn gweithio: byddwn ni'n cydweithio fel corff. Mae'r corff yn parhau yn rhan o Lywodraeth Cymru, ond y mae o'n cael ei reoli yn annibynnol o fewn y Llywodraeth. Cyn bo hir, mi fydd yna hysbyseb pellach i benodi cadeirydd a bwrdd i Cadw, ac yna rydym ni'n gobeithio y bydd y bwrdd hwnnw wedyn yn gallu parhau â'r gwaith o gydweithio â chymunedau sydd yn barod wedi dangos eu gofal am eu hetifeddiaeth. Mae yna enghraifft dda iawn wedi digwydd yn ddiweddar lle'r ydym ni wedi cael castell yn feddiant, yng Nghaergwrle a'r Hôb, oddi wrth y cyngor cymuned, ac y mae'r trafodaethau yn parhau o hyd i'r gwirfoddolwyr a oedd yn edrych ar ôl yr ardal o gwmpas y castell i barhau i wneud hynny, tra bod pobl sydd yn gweithio yn uniongyrchol i Cadw—contractwyr Cadw—yn gallu gofalu ar ôl yr henebion.

Felly, rydym ni'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y gefnogaeth yr ydym ni'n ei chael gan wirfoddolwyr. Ac mi fyddaf i yn sicrhau, yn unrhyw gynlluniau a fydd yn cael eu datblygu ar gyfer glanhau ac addasu, yn arbennig y gwaith haearn sydd mor hanesyddol o ran adeiladu llongau ager, ac yn y blaen, yng Nghymru, y bydd y gwaith yna yn cael ei sicrhau, a bydd y gwirfoddolwyr yn parhau i gydweithio.