Y Diwydiant Moduron

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:32, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn cofio ein trafodaethau yn y Siambr hon ynglŷn â'r pryderon ynghylch yr oddeutu 1,000 neu fwy o swyddi a allai gael eu colli os na ddoir o hyd i gyfleoedd newydd ar gyfer ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fy rhanbarth i. Ac yn ein cyfarfod trawsbleidiol gyda staff Ford, ar y pryd, nid Brexit oedd eu prif bryder, er fy mod yn amau ​​y gallai fod yn fwy o bryder erbyn hyn; yn hytrach, eu prif bryder oedd eu perthynas â marchnad America. Ac wrth gwrs, gyda chyhoeddiad yr Arlywydd Trump ar dariffau, gallwch weld pam fod hyn bellach yn bryder uniongyrchol. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth mewn swyddfeydd ledled y byd bellach, tybed a allwch egluro'r hyn y mae'r swyddfeydd hynny wedi gallu ei wneud yn y cyfamser i ehangu cyfleoedd ar gyfer Ford ledled y byd. Diolch.