Tyfu'r Economi

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:14, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Cymysg oedd perfformiad yr ardaloedd menter o ran creu swyddi a rhoi hwb i'r economi ac adfywio yng Nghymru. Cymaint felly fel bod pwyllgor economaidd y Cynulliad wedi dweud bod y diffyg tystiolaeth wedi'i gwneud yn anodd cynnal dadansoddiad llawn o'u cyfraniad i economi Cymru.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i osod targedau clir a realistig ar gyfer yr ardaloedd menter, ynghyd ag adroddiadau blynyddol sy'n cynnwys data manwl ar eu perfformiad, er budd tryloywder, fel y gellir monitro a chraffu'n briodol ar eu cyfraniad i economi Cymru?