Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei hymrwymiad a'i gwaith yn y maes hwn yn gyffredinol. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer eu swyddogaethau. Mae'n gwbl iawn fod y gofyniad hwn yn parhau i ddylanwadu ar bolisïau, deddfwriaeth a phenderfyniadau'r Llywodraeth.